Cilwg yn Ôl (drama)

(Ailgyfeiriad o Cilwg Yn Ôl)

Cyfieithiad y dramodydd John Gwilym Jones o'r ddrama lwyfan Look back in Anger yw Cilwg yn Ôl neu Cilolwg yn Ôl. John Osborne yw awdur y ddrama wreiddiol. Ni chafodd y cyfieithiad ei gyhoeddi.

Cilwg yn Ôl
AwdurJohn Osborne
Cyhoeddwrni chafodd ei gyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
GenreDramâu Cymraeg

Cymeriadau

golygu
  • Jimmy Porter - yw'r "gŵr ifanc blin" sy'n anfodlon iawn efo'r uwch ddosbarth Prydeinig
  • Alison Porter - ei wraig anfoddedig
  • Helena Charles - cyfaill cariadus Jimmy o'r uwch ddosbarth
  • Cliff Lewis - cyd letywr Jimmy ac Alison o'r dosbarth gweithiol
  • Cyrnol Redfern - tad Alison a chyn-gyrnol Prydeinig.

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu

Llwyfannwyd y cyfieithiad Cymraeg am y tro cyntaf gan Gymdeithas Ddrama Prifysgol Cymru Bangor yn y 1960au gyda Maureen Rhys a John Ogwen ymysg y myfyrwyr oedd yn perfformio.[1] Cyfarwyddwr John Gwilym Jones; cast

  • Alison Porter - Maureen Rhys
  • Helena Charles
  • Jimmy Porter - John Ogwen
  • Cliff Lewis
  • Cyrnol Redfern

Dyma'r cynhyrchiad osododd seiliau carwriaethol i briodas John a Maureen, yn ôl Maureen Rhys mewn erthygl yn 2015: "Roedden ni'n 'nabod ein gilydd i ddweud helo gan fod ni'n dau'n astudio drama yng Ngholeg Bangor o dan John Gwilym Jones. Ond gymerodd hi berfformiad o addasiad Cymraeg o ddrama John Osborne Look Back in Anger i ni ddod at ein gilydd fel petai. [...] Roedd y ddau ohonon ni'n aelodau o gast Cilwg yn Ôl, ond gan fod na ddau gast gwahanol ar gyfer gwahanol berfformiadau, roeddan ni ar wahân am y rhan helaeth o'r perffomiadau. Ond, roeddan ni yn digwydd bod yn yr un cast am dair noson, ac roedd fy nghymeriad i fod i roi peltan i gymeriad John, a wedyn ei gusanu. A dyna pryd wnaeth o ddigwydd!", ychwanegodd.[1]

1970au

golygu

Llwyfannwyd y cyfieithiad gan Gwmni Theatr Cymru ym 1970.[2] Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts a Beryl Williams.[3]

1980au

golygu

Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Fach Llangefni ym 1985.[4]

  • Alison Porter
  • Helena Charles
  • Jimmy Porter
  • Cliff Lewis
  • Cyrnol Redfern

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Er gwell, er gwaeth!". BBC Cymru Fyw. 2015-01-22. Cyrchwyd 2024-09-10.
  2. "Jan 15, 1970, page 12 - The North Wales Weekly News at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.
  3. "Rhagorol online catalogue". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-09-10.
  4. "archifau".