Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes
digwyddiad blynyddol ym Mhenygroes, Gwynedd
Sefydlwyd Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes gyda'r amcan o draddodi a chyhoeddi atgofion am ardal Dyffryn Nantlle, Gwynedd ac agweddau ar hanes y fro honno. Cafodd y gyfres o ddarlithoedd cyhoeddus blynyddol hyn ei sefydlu ym mis Mai 1967 gan bwyllgor lleol Llyfrgell Sir Gaernarfon mewn cyfarfod yn llyfrgell Penygroes. Y nod oedd "cael un gŵr enwog i roi darlith yn flynyddol ar ei hen ardal, sef Dyffryn Nantlle, a chyhoeddi'r ddarlith honno".[1] Traddodwyd y ddarlith gyntaf, sef "Yn Nhal-y-sarn ers talwm ..." gan Gwilym R. Jones, yn haf 1968.
Enghraifft o: | digwyddiad blynyddol |
---|---|
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Pen-y-groes |
Cyhoeddwyd y darlithoedd cynnar gan Gyngor Sir Gaernarfon. Erbyn hyn cyhoeddir y darlithoedd gan Adran Addysg a Diwylliant Cyngor Gwynedd.
Rhestr o'r darlithoedd
golygu- Mae'r rhestr hon yn anghyflawn: mae croeso i chi ychwanegu ati.
- 1968 - Gwilym R. Jones, "Yn Nhal-y-sarn ers talwm ..."
- 1969 - R. Alun Roberts, Y Tyddynnwr a’r Chwarelwr yn Nyffryn Nantlle
- 1970 - Kate Roberts, Dau Lenor o Ochr Moeltryfan
- 1970/71 - John Gwilym Jones, Capel ac Ysgol
- 1971/72 - Syr Thomas Parry, Tŷ a Thyddyn
- 1972/73 - Mathonwy Hughes, Bywyd yr Ucheldir
- 1973/74 - Hywel D. Roberts, Prifardd y Dyffryn: R. Williams Parry
- 1974/75 - Gruffudd Parry, Blwyddyn Bentre
- 1975/76 - Alwyn Thomas, Tyfu mewn Cymdeithas
- 1976/77 - Idwal Jones, Codi Mhac o'r Dyffryn
- 1977/78 - Ffowc Williams, Yr Ochr Draw
- 1978 - Huw Davies, Fy Hen Fro
- 1979 - R. Owen Jones, Tyred Drosodd
- 1979/80 - Gwynfryn Richards, A Fynn Esgyn, Mynn Ysgol: Datblygiad Addysg yn Nyffryn Nantlle
- 1980/81 - Katie Olwen Pritchard, Y Glas a'r Coch
- 1981/82 - Althea Williams, Codi Allorau: Datblygiad Crefydd yn Nyffryn Nantlle
- 1983 - William Jones (Wil Tyddyn), O Benygroes i Ben Draw'r Byd
- 1983/84 - R. Gordon Williams, Atgofion Plentyndod
- 1984 - Brinley Ross Williams, Addysg a Chelfyddyd: A Oes Cyfiawnder?
- 1986 - Hugh Hughes, Atgofion
- 1986 - Melfyn R. Williams, Y Teithwyr Talog
- 1987 - Dafydd Glyn Jones, Y Bedwaredd Gainc
- 1990 - Cledwyn Jones, "O na byddai’n haf o hyd: Hanes Cerddoriaeth yn Nyffryn Nantlle"
- 1991 - John Roberts, Ernes
- 1992 - Elfed Roberts, Hafan, Bwlch a Dyffryn
- 1994 - Meirion Parry, Dwyn Mae Cof
- 1995 - Dewi Jones, Datblygiad Cynnar Botaneg yn Eryri
- 1997 - Dewi Tomos, Atgof Atgof Gynt
- 1998 - Bleddyn Owen Huws, Delfryd Dysg Cymeriad: Canmlwyddiant Ysgol Dyffryn Nantlle, 1898-1998
- 2001 - Elan Closs Stephens, Y Moderneiddwyr: Cipolwg ar Ddau Ddramodydd 1966-1991
- 2002 - Huw Geraint Williams, Tros fy Ysgwydd
- 2003 - Elfyn Thomas, Bysys Bach y Wlad a'r Byd
- 2004 - Haydn E. Edwards, Cemeg yw Bywyd
- 2005 - Karen Owen, O Ben'groes i Beersheba
- 2006 - Bet Davies, Pobl Ddŵad Dyffryn Nantlle
- 2007 - Dewi R. Jones, Hiraeth Doeth
- 2008 - Gwynfor Pierce Jones, Chwarelyddiaeth Dyffryn Nantlle
- 2009 - Menna Baines, Fi, Kate a'r Gwyddoniadur: Merched o A i Z
- 2010 - Mary Hughes, Gobaith a Gorthrwm: Golwg ar Addysg Elfennol a Chynradd Dalgylch Penygroes
- 2012 - Ann Beynon, Atgofion Plentyndod 2
- 2014 - Angharad Tomos, Tua'r Dyfodol
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwilym R. Jones, "Yn Nhal-y-sarn ers talwm ..." (Llyfrgell Sir Gaernarfon, 1968; adargraffiad 1971). Rhagair gan T. Gwilym Pritchard.