Rhyfedd y'n Gwnaed

Tair drama fer gan John Gwilym Jones yw Rhyfedd y'n Gwnaed. Yn ôl yr actor a'r cyfarwyddwr Wynford Ellis Owen, roedd y tair drama yn ffurfio Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1971.[1] Dewiswyd Cwmni Theatr Cymru i gyd-weithio â Choleg Prifysgol Cymru Bangor i gyflwyno'r dramâu gydag Wynford Ellis Owen yn cyfarwyddo.

Rhyfedd y'n Gwnaed
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohn Gwilym Jones
CyhoeddwrGwasg Gee
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1 Ionawr 1976 Edit this on Wikidata
PwncDramâu Cymraeg
Argaeleddyn cael ei ystyried i'w adargraffu
ISBN9780707401331
Tudalennau72 Edit this on Wikidata

Disgrifiad byr

golygu

Y tair drama yw: Tri Chyfaill, Dwy Ystafell, ac Un Briodas.

Digwydd y ddrama Tri Chyfaill mewn ystafell foethus mewn gwesty, wrth i'r tri cyfaill gwrywaidd Dan, Em a Twm geisio mwynhau gwyliau golffio.

Digwydd y ddrama Dwy Ystafell mewn dwy ystafell oddi mewn i neuadd myfyrwyr mewn coleg. Ystafell Meic ac ystafell Lis.

Drama rhwng gŵr a gwraig yn eu cartref yw Un Briodas.

Gwasg Gee a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1976. Yn 2013 roedd y gyfrol yn cael ei ystyried i'w adargraffu.[2]

Cymeriadau

golygu
  • Tri Chyfaill
    • Dan - 35 oed a thrwsiadus
    • Twm - 35 oed
    • Em - 35 oed
    • Siân - derbynnydd y gwesty
  • Dwy Ystafell
    • Huw
    • Meic
    • Nel
    • Lis
  • Un Briodas
    • Meg
    • Dic

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y dramâu'n wreiddiol gan Gwmni Theatr Cymru mewn cyd-weithrediad â Choleg Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1971.

"Roedd gweithio ar y dramâu yn brofiad cymysg", eglura'r cyfarwyddwr Wynford Ellis Owen yn ei hunangofiant;

"Dysgais lawer - yn sicr am sut i beidio trin un actor. Roedd Frank Lincoln a Gaynor Morgan Rees yn wych, ac Un Briodas oedd y drama ora a'r cynhyrchiad gora o'r tair drama fer [...] Dwy Stafell o'dd yr ail ddrama, gydag Alun Ffred Jones, Dewi Jones, Siân Miareznska ac Enid Parry yn y cast. Myfyrwyr o Adran Gymraeg Prifysgol Bangor odd y rhain, ac ro'n nhw yno oherwydd bod John Gwilym wedi mynnu'u cynnwys yn y cynhyrchiad - nhw, wedi'r cyfan, oedd hufen ei gwmni drama yn y coleg. Gwyddwn, ar y pryd, fod nifer o actorion proffesiynol yn genfigennus iawn fod myfyrwyr yn cael chwarae'r prif rannau yn y ddrama gomisiwn, a do'dd gen i ddim amheuaeth y byddai'r cynhyrchiad wedi bod yn un gwahanol o ddefnyddio actorion mwy profiadol. Ond ro'dd John Gwilym Jones wedi mynnu, a dyna ddiwedd ar y mater! Nid bychanu cyfraniad y myfyrwyr ydy dweud hyn, sut bynnag. I'r gwrthwyneb, rhoesant berfformiadau ardderchog yn ystod wythnos yr Eisteddfod."[1]

Cyfaddefodd Wynford mai nid hawdd oedd cyd-weithio gyda'r dramodydd John Gwilym Jones 'chwaith, gan fod natur cyfarwyddo y ddau mor wahanol. Ond bychan iawn oedd hynny o gymharu â'r drafferth gafodd o gydag un actor : "Dylan Jones, un o'r actorion yn y drydedd ddrama, Tri Chyfaill [...] Cerddodd Dylan allan droeon yn ystod yr ymarferiadau, ac amharodd hynny gryn dipyn ar fy mwyniant i o'r cyfnod paratoi [...] Roedd wedi'i wreiddio mewn negyddiaeth ac yn mynnu dweud wrtha i nad o'n i'n haeddu llwyddo."[1]

Erbyn i'r cynhyrchiad fynd ar daith yn dilyn yr Eisteddfod, ac i'r myfyrwyr ddychwelyd i'r coleg, ail-gastiwyd drama'r myfyrwyr gyda Sharon Morgan, Dyfan Roberts, Marged Esli, Dewi Pws a Gwyn Parry.[3]

Yn y golofn Gymraeg o'r The Glamorgan Gazette yn Rhagfyr 1971, cafwyd adolygiad [di-enw] o'r cynhyrchiad, yn dilyn ymweliad y cwmni â Maesteg: "Ar y cyfan siomedig oedd ymateb y gynulleidfa: tipyn o anniddigrwydd am fod cymaint o siarad am ryw, ambell i rêg, a merch yn gwisgo ar y llwyfan. Y perygl yw mai dyma fydd y pethau fydd yn aros yn y côf. [...] Efallai nad yw y dramâu hyn mor wreiddiol eu deunydd â'i ddramâu eraill ond y maent yn fywiog, yn ddoniol, yn gomedi ac yn drasiedi, ond, yn fwy na'r cwbwl, yn theatr."[4]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer.
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Morgan, Sharon (2011). Hanes Rhyw Gymraes. Y Lolfa.
  4. "Dec 10, 1971, page 9 - The Glamorgan Gazette at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.