Look Back in Anger


Am y cyfieithiad Cymraeg o'r ddrama, gweler Cilwg yn Ôl.

Look Back in Anger
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurJohn Osborne
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1956 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1956 Edit this on Wikidata
Genredrama Edit this on Wikidata
CymeriadauCliff Lewis, Helena Charles, Jimmy Porter, Colonel Redfern, Alison Porter Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afLlundain Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af8 Mai 1956 Edit this on Wikidata[1]
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Drama realaidd a gyfansoddwyd gan John Osborne yw Look Back in Anger (1956). Mae’n canolbwyntio ar fywyd a brwydrau priodasol gŵr ifanc deallus ac addysgedig Jimmy Porter, sydd o ddosbarth gweithiol; a’i wraig Alison, sydd o ddosbarth canol uwch, yr un mor addysgedig ond eto’n anoddefol. Ymysg y cymeriadau cefndirol mae Cliff Lewis, lletywr Cymreig hawddgar sy'n ceisio cadw'r heddwch; a Helena Charles, ffrind ffroenuchel Alison. [2][3][4]

Cafodd Osborne ysbrydoliaeth i gyfansoddi'r ddrama o’i fywyd personol a methiant ei briodas gyda Pamela Lane. Look Back in Anger oedd ei ymgais llwyddiannus gyntaf fel dramodydd. Esgorodd y ddrama ar y term "dynion ifanc blin" i ddisgrifio Osborne a'i genhedlaeth a ddefnyddiodd realaeth yn y theatr i wrthgyferbynu â'r theatr fwy dihangol a nodweddai'r genhedlaeth flaenorol.[5] Mae'r realaeth amrwd yma wedi peri bod Look Back in Anger yn cael ei ystyried yn un o'r enghreifftiau cyntaf o "ddramâu sinc cegin" yn y theatr.

Cafodd y ddrama dderbyniad ffafriol, gan ddod yn llwyddiant masnachol enfawr, gan gynnwys y West End a Broadway, a theithio i Moscfa. Mae’n cael y clod am sefydlu Osborne fel dramodydd o bwys, ac enillodd iddo Wobr Drama’r Evening Standard fel dramodydd mwyaf addawol 1956. Addaswyd y ddrama yn ffilm o'r un enw gan Tony Richardson, gyda Richard Burton a Mary Ure, a ryddhawyd yn 1959.

Cyfieithodd John Gwilym Jones y ddrama i'r Gymraeg o dan yr enw Cilwg yn Ôl. Dros y degawdau, mae nifer o actorion Cymraeg a Chymreig wedi portreadu'r cymeriad o Gymro Cliff Lewis, gan gynnwys Richard Burton (1959) ac Iwan Davies (2024). Mae Cymry amlwg eraill wedi cael eu dewis i bortreadu'r prif gymeriad Jimmy a'r cymeriadau benywaidd fel Michael Sheen, Matthew Rhys a Morfydd Clark.

Crynodeb

golygu
 
Llun o'r fersiwn Almaeneg (Blick zurück im Zorn), 1958

Agorir Act 1 ar brynhawn Sul digalon ym mis Ebrill, yn atig gyfyng Jimmy ac Alison yng nghanolbarth Lloegr. Mae Jimmy a Cliff yn darllen y papurau Sul, yn ogystal ag wythnosolyn radical. Mae hwn yn gyfeiriad at y New Statesman, ac yng nghyd-destun y cyfnod byddai wedi amlygu ffafriaeth wleidyddol y pâr ar unwaith i'r gynulleidfa. Mae Alison yn ceisio gorffen y smwddio a dim ond hanner gwrando y mae ar ddeialog gychwynol Jimmy a Cliff.

Daw’n amlwg fod bwlch cymdeithasol enfawr rhwng Jimmy ac Alison. Mae ei theulu hi o gefndir milwrol uwch ddosbarth canol, tra bod Jimmy yn perthyn i'r dosbarth gweithiol. Bu'n rhaid iddo frwydro'n galed yn erbyn anghymeradwyaeth ei theulu i'w hennill. "Alison's mummy and I took one look at each other, and from then on the age of chivalry was dead," eglura. Dysgwn hefyd fod unig incwm y teulu yn deillio o stondin felysion yn y farchnad leol—menter sy'n sicr islaw galluoedd Jimmy, heb sôn am statws gymdeithasol Alison.

Wrth i Act 1 ddatblygu, mae Jimmy yn dod yn fwyfwy bywiog, gan drosglwyddo ei ddirmyg tuag at deulu Alison iddi'n bersonol, gan ei galw'n "pusillanimous" a'i bychanu wrth Cliff. (Mae rhai actorion yn dehongli'r olygfa hon fel pe bai Jimmy'n ystyried mai jôc yw popeth, tra bod eraill yn ei chyflwyno fel pe bai'n ei blinogi.) Mae ei bregethu'n gorffen gydag ymgodymu corfforol hwyliog, sy'n arwain at ddymchwel y bwrdd smwddio a llosgi braich Alison. Mae Jimmy yn ymadael i ganu ei utgorn oddi ar y llwyfan.

Ar ben ei hun gyda Cliff, mae Alison yn cyfaddef ei bod hi'n feichiog yn ddamweiniol, ac na all ddweud wrth Jimmy. Mae Cliff yn ei hannog i ddweud wrtho. Pan ddychwela Jimmy, mae Alison yn cyhoeddi bod ei ffrind, yr actores Helena Charles yn dod i aros; Mae Jimmy yn dirmygu Helena hyd yn oed yn fwy nag Alison, ac yn cynddeiriogi'n llwyr.

Prynhawn Sul arall yw Act 2, gyda Helena ac Alison yn paratoi'r cinio. Mewn golygfa i ddwy, cyfaddefai Alison ei bod hi wedi penderfynu priodi Jimmy fel arwydd o wrthryfel yn erbyn ei magwraeth, a’i hedmygedd o ymgyrchoedd Jimmy yn erbyn diffeithwch bywyd yn Lloegr ar ôl y rhyfel. Mae hi'n disgrifio Jimmy i Helena fel "knight in shining armour". Dywed Helena, yn gadarn, "You've got to fight him".

Dychwela Jimmy, ac mae ei gynddaredd yn parhau. Os cyflwynir Act 1 fel jôc, does dim amheuaeth am natur ddieflig bwriadol ei ymosodiadau tuag at Helena. Wrth wisgo'i hetiau i fynd i'r eglwys, mae dirmyg Jimmy tuag at y ddwy yn cyrraedd ei uchafbwynt. Pan ganai'r ffôn sy'n gorfodi Jimmy i ymadael, mae Helena yn datgelu ei bod wedi rhoi'r cynllun ar waith, drwy anfon neges at rieni Alison yn gofyn iddynt ddod i'w "hachub" hi. Er y syndod syfrdanol, mae Alison yn cytuno i ddychwelyd adref gyda hwynt.

Y noson ganlynol, mae tad Alison, y Cyrnol Redfern, yn galw i gyrchu Alison yn ôl i gartref ei theulu. Mae’r dramodydd yn caniatáu i’r Cyrnol gael ei weld fel dyn digon teimladwy, er ei fod yn amlwg ymhell o gyswllt a dealltwriaeth y byd modern, fel mae'n cyfaddef ei hun. "You're hurt because everything's changed", dywed Alison wrtho, "and Jimmy's hurt because everything's stayed the same". Mae Helena yn dychwelyd i ffarwelio, gan fwriadu ymadael ei hun, yn fuan iawn. Mae Alison yn synnu bod Helena am aros am ddiwrnod arall, ond mae'n ymadael gan roi nodyn i Cliff i roi i Jimmy. Mae Cliff yn rhoi'r nodyn i Helena gan ddweud, "I hope he rams it up your nostrils".

Bron ar yr union eiliad, mae Jimmy yn dychwelyd. Mae ei ddirmyg wrth ddod o hyd i nodyn "hwyl fawr" Alison yn peri iddo droi ar Helena, gan ei rhybuddio i gadw allan o'i ffordd nes iddi adael. Mae Helena yn rhoi gwybod iddo fod Alison yn disgwyl babi, ac mae Jimmy yn cyfaddef ei fod wedi'i synnu. Fodd bynnag, mae ei gynddaredd yn parhau gan amlygu ei hun fel ergydion corfforol. Wrth i'r llen ddisgyn ar Act 2, mae Jimmy a Helena yn cusanu'n angerddol ar y gwely.

Mae Act 3 yn agor bron yn union fel Act 1, gyda Helena y tro hwn, wrth y bwrdd smwddio, ac yn gwisgo crys coch Jimmy o Act 1. Mae misoedd wedi mynd heibio. Mae Jimmy'n ymddangos yn fwy dymunol tuag at Helena nag yr oedd i Alison yn Act 1. Mae hithau'n ymateb i'w jôcs drwy chwerthin, ac mae'r tri ohonynt (Jimmy, Cliff, a Helena) yn mynd ati i actio fel petaent ar y llwyfan, mewn neuadd gerddorol, yn adloniannu'r gynulleidfa. Cyhoedda Cliff ei fod wedi penderfynu mentro ar ei liwt ei hun. Wrth i Jimmy adael yr ystafell i baratoi ar gyfer noson allan olaf i'r tri ohonyn nhw, mae'n agor y drws i ganfod Alison yno, a golwg ofnadwy arni. Try Jimmy gan edrych dros ei ysgwydd a datgan "Friend of yours to see you", cyn ymadael yn sydyn.

Mae Alison yn esbonio wrth Helena iddi golli’r babi (sy'n adlais o un o areithiau creulonaf Jimmy yn Act 1 sy'n mynegu ei ddymuniad bod Alison yn cenhedlu plentyn ac yna'n ei golli). Mae'r ddwy fenyw wedi cymodi, ond mae Helena yn sylweddoli bod yr hyn y mae hi wedi'i wneud yn anfoesol ac mae hi'n penderfynu gadael. Pan gyrcha Jimmy er mwyn rhoi gwybod iddo, mae'n gadael iddi fynd gyda ffarwel goeglyd.

Daw'r ddrama i ben gyda chymod sentimental rhwng Jimmy ac Alison. Maen nhw'n adfywio hen gêm roedden nhw'n arfer ei chwarae, gan esgus bod yn eirth a gwiwerod, ac mae'n ymddangos bod y ddau wedi cymodi.

Cefndir y ddrama

golygu

Wedi'i gyfansoddi mewn cwta 17 diwrnod ar gadair bren ar Bier Morecambe,[6][7] roedd Look Back in Anger yn ddarn hunangofiannol cryf yn seiliedig ar briodas anhapus Osborne â'r actores Pamela Lane a'u bywyd mewn llety cyfyng yn Derby.[8] Tra bod Osborne yn dyheu am yrfa yn y theatr, roedd Lane yn fwy ymarferol a materol. Mae hefyd yn adlewyrchu bywyd cynharach Osborne; er enghraifft, roedd yr araith sy'n sôn am farwolaeth yn ailadrodd ei brofiad o farwolaeth ei dad, Thomas.

Serch hynny, yr hyn sy'n cael ei gofio orau, yw anerchiadau o gynddaredd Jimmy. Mae rhai ohonynt wedi'u hanelu at snobyddiaeth y dosbarth canol Prydeinig yn y byd ôl-atomig. Mae llawer ohonynt yn lladd ar y cymeriadau benywaidd, adlais amlwg iawn o anesmwythder Osborne gyda merched, gan gynnwys ei fam, Nellie Beatrice, y mae'n ei ddisgrifio yn ei hunangofiant A Better Class of Person fel dynes "ragrithiol, hunan-amsugnol, ddichellgar". [9] Mae Madeline, y cariad coll y cyfeirir Jimmy ati, yn seiliedig ar Stella Linden, yr actores hŷn a anogodd Osborne i ysgrifennu am y tro cyntaf.  Ar ôl y llwyfaniad cyntaf yn Llundain, dechreuodd Osborne berthynas â Mary Ure, oedd yn portreadu Alison; ysgarodd ei wraig gyntaf (o bum mlynedd) Pamela Lane i briodi Ure yn 1957.

Cast a chymeriadau

golygu
Cymeriad Debut y West End Debut Broadway West End Manceinion Broadway Almedia
1956 1957 1989 1995 2012 2024
Jimmy Porter Kenneth Haigh Kenneth Branagh Michael Sheen Matthew Rhys Billy Howle
Alison Porter Mary Ure Emma Thompson Sarah Goldberg Ellora Torchia
Cliff Lewis Alan Bates Gerald Horan Adam Driver Iwan Davies
Helena Charles Helena Hughes Vivienne Drummond Siobhan Redmond Charlotte Parry Morfydd Clark
Cyrnol Redfern John Welsh Edward Jewesbury

Cymeriadau:

  • Jimmy Porter - yw "dyn ifanc blin" y ddrama sy'n anhapus â'r dosbarth uchaf ym Mhrydain.
  • Alison Porter - Gwraig hunanfodlon ond anfodlon Jimmy.
  • Cliff Lewis - ffrind dosbarth gweithiol a chyd-letywr i Jimmy ac Allison.
  • Helena Charles - Ffrind dosbarth uwch sy'n cael perthynas â Jimmy.
  • Cyrnol Redfern - tad Alison, cyrnol Prydeinig a arferai weithio yn India .

Cynyrchiadau nodedig

golygu

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf yn y Royal Court Theatre yn Llundain, ar 8 Mai 1956 gan yr English Stage Company dan gyfarwyddyd Tony Richardson, cynllunydd Alan Tagg, a cherddoriaeth i ganeuon gan Tom Eastwood. Galwodd datganiad i'r wasg yr awdur yn "ddyn ifanc blin", ymadrodd a ddaeth i gynrychioli mudiad newydd yn y theatr Brydeinig yn y 1950au. Mae'n debyg bod cynulleidfaoedd wedi swyno wrth weld bwrdd smwddio ar lwyfan yn Llundain.[10]

Roedd y cast fel a ganlyn: Kenneth Haigh (Jimmy), Alan Bates (Cliff), Mary Ure (Alison), Helena Hughes (Helena Charles) a John Welsh (Cyrnol Redfern). Y flwyddyn ganlynol, symudodd y cynhyrchiad i Broadway o dan y cynhyrchydd David Merrick a'r cyfarwyddwr Tony Richardson . Gan gadw'r cast gwreiddiol ond gyda Vivienne Drummond yn serenu fel Helena. Derbyniodd y cynhyrchiad dri enwebiad Gwobr Tony, gan gynnwys y Ddrama Orau a'r Actores Ddrama Orau i Ure.

Ail-greodd Bates ei bortread o Cliff Lewis, ochr yn ochr â Drummond fel Helena Charles, ar Play of the Week ar ITV yn 1956, yn fuan ar ôl i'r cynhyrchiad theatrig gael ei ddangos am y tro cyntaf. Portreadodd Richard Pasco a Doreen Aris gymeriadau Jimmy ac Alison Porter, yn y drefn honno. Cafodd ei gyd-gyfarwyddo gan Richardson a Silvio Narizzano .

Cyfarwyddwyd cynhyrchiad y Renaissance Theatre Company yn Awst 1989 yn Theatr y Lyric, Llundain gan Judi Dench, gyda Kenneth Branagh ac Emma Thompson.[11] Darlledwyd fersiwn teledu o'r cynhyrchiad ym Mhrydain ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno. [12] [13] Ym 1995, cyfarwyddodd Greg Hersov gynhyrchiad yn y Royal Exchange, Manceinion gyda Michael Sheen fel Jimmy, Claire Skinner fel Alison, Dominic Rowan fel Cliff, a Hermione Norris fel Helena. [14] [13] Cyfarwyddodd Hersov ail gynhyrchiad yn 1999, gyda Sheen unwaith eto yn serennu, yn y Royal National Theatre yn Llundain. [15] [13]

Yn 2012, cafodd ei addasu gan Sam Gold oddi ar Broadway gyda Matthew Rhys, Adam Driver, a Sarah Goldberg yn serennu yn y Roundabout Theatre Company . [16] Yn 2024, cafwyd addasiad yn Theatr Almedia gyda Billy Howle fel Jimmy, Ellora Torchia fel Alison, Morfydd Clark fel Helena, ac Iwan Davies fel Cliff. [17] [18] [19]

Derbyniad beirniadol

golygu

Pan lwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol, roedd adolygiadau o Look Back in Anger yn negyddol iawn. Roedd Kenneth Tynan a Harold Hobson ymhlith yr ychydig feirniaid i’w ganmol, ac maent bellach yn cael eu hystyried ymhlith beirniaid mwy dylanwadol y cyfnod.

Er enghraifft, ar The Critics ar BBC Radio, dechreuodd Ivor Brown ei adolygiad drwy ddisgrifio gosodiad y ddrama—fflat un ystafell yng nghanolbarth Lloegr—fel un “unspeakably dirty and squalid” fel ei bod yn anodd iddo “gredu bod merch i gyrnol, wedi'i magu â safon", wedi byw ynddo. Mynegodd ei ddicter ei fod wedi gorfod gwylio rhywbeth oedd yn "wastraff amser". Ysgrifennodd Cecil Wilson o’r Daily Mail fod harddwch Mary Ure wedi’i ddifetha ar wraig druenus, “ac o weld faint o amser y treuliodd hi'n smwddio, ei bod hi'n gwasanaethu dillad y genedl".

Ar y llaw arall, ysgrifennodd Kenneth Tynan na allai "garu unrhyw un nad oedd yn dymuno gweld Look Back in Anger', gan ddisgrifio'r ddrama fel "gwyrth fechan" yn cynnwys "all the qualities...one had despaired of ever seeing on the stage—the drift towards anarchy, the instinctive leftishness, the automatic rejection of "official" attitudes, the surrealist sense of humour (e.g., Jimmy describes an effeminate male friend as a 'female Emily Brontë'), the casual promiscuity, the sense of lacking a crusade worth fighting for and, underlying all these, the determination that no one who dies shall go unmourned." Roedd Harold Hobson hefyd yn cydnabod pwysigrwydd y ddrama "fel tirnod pwysig yn hanes y theatr Brydeinig".

Dilyniant

golygu

Ym 1989 ysgrifennodd Osborne ddilyniant i'r ddrama o'r enw Déjàvu, a gynhyrchwyd gyntaf ym 1992 . Roedd Déjàvu yn portreadu Jimmy Porter, a elwir bellach yn JP, yn ganol oed, yn byw gyda'i ferch Alison. Mae'n rhefru am gyflwr y wlad wrth ei hen ffrind Cliff, tra bod Alison yn smwddio, yn union fel y gwnaeth ei mam yn y ddrama wreiddiol. Nid oedd y ddrama'n llwyddiant masnachol, gan gau ar ôl saith wythnos. Hon oedd drama olaf Osborne. [20]

Addasiadau ffilm

golygu
  • Addasiad ffilm Prydeinig gyda Richard Burton, Claire Bloom, a Mary Ure ac a gyfarwyddwyd gan Tony Richardson wedi'i wneud ym 1958 a'i ryddhau ym 1959. Ysgrifennwyd y sgript gan awdur y ddrama, John Osborne, gyda Nigel Kneale . Cynlluniwyd y set fewnol gan Loudon Sainthill . Enwebwyd y ffilm mewn pedwar categori yng Ngwobrau BAFTA 1959, gan gynnwys enwebiad Actor Gorau ar gyfer Richard Burton, ond ni enillodd yr un ohonynt. Yn yr Unol Daleithiau, methodd y ffilm yn y swyddfa docynnau .
  • Ym mis Rhagfyr 1989 ffurfiwyd cyfeiriad llwyfan Judi Dench o'r ddrama o gynharach yn y flwyddyn ganddi yn gynhyrchiad teledu yn serennu Kenneth Branagh ac Emma Thompson . [21] [22]

Addasiadau radio

golygu

Gweler hefyd

golygu
  • Look Back in Anger (ffilm 1959)

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Look Back in Anger, May 1956".
  2. "An introduction to Look Back in Anger". The British Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-28. Cyrchwyd 2024-10-01.
  3. "Look Back in Anger Summary - eNotes.com". eNotes.
  4. Billington, Michael (30 March 2015). "Look Back in Anger: how John Osborne liberated theatrical language".
  5. Prasad, G. J. V. (30 November 2017). The Lost Temper: Critical Essays on Look Back in Anger. Macmillan India Limited. ISBN 9781403909466.
  6. Michael Billington. "Look Back in Anger: how John Osborne liberated theatrical language". The Guardian. Cyrchwyd 2 April 2016.
  7. "Look Back In Anger « Another Nickel in the Machine". Cyrchwyd 2 April 2016.
  8. Osborne 1991, pp 1–4
  9. Osborne 1982
  10. Ellis, Samantha (21 May 2003). "Look Back in Anger, May 1956". The Guardian. Cyrchwyd 3 October 2017.
  11. Theatricalia page, internet reference, given to this production
  12. Michael Billington, The Guardian 8 Feb 2012.
  13. 13.0 13.1 13.2 Sierz 2008.
  14. Taylor, Paul (30 January 1995). "More in sorrow than in anger". The Independent. Cyrchwyd 30 November 2017.
  15. Wolf, Matt (2 August 1999). "Look Back in Anger". Variety. Cyrchwyd 30 November 2017.
  16. "LOOK BACK IN ANGER". Roundabout Theatre Company. Cyrchwyd August 8, 2024.
  17. "Breaking Baz: Morfydd Clark & Billy Howle Lead Hot Theater Productions In London Dubbed The Angry & Young Season". Deadline.
  18. "LOOK BACK IN ANGER". Almeida Theatre. Cyrchwyd August 21, 2024.
  19. "What to See on London Stages This Fall". The New York Times.
  20. Sheila Stowell "Honey, I Blew up the Ego", Patricia D. Denison, John Osborne: A Casebook, pp.167ff.
  21. Michael Billington, The Guardian 8 Feb 2012.
  22. Sierz 2008, t. 71.
  23. "John Osborne - Look Back in Anger". BBC Radio. BBC. Cyrchwyd 1 February 2020.

Ffynonellau

golygu

Darllen pellach

golygu

Dolenni allanol

golygu
  • Look Back in Anger​ at the Internet Broadway Database