Mae'r erthygl hon am y beldroediwr Cymreig, am yr actor Eingl-Americanaidd gweler John Mahoney (actor)

Cyn-chwaraewr a rheolwr pêl-droed Cymreig yw John Francis Mahoney (ganwyd 20 Medi 1946). Chwaraeodd yn safle canol cae i sawl tîm, gan gynnwys: Crewe Alexandra, Middlesbrough, Stoke City a Dinas Abertawe. Enillodd 51 cap dros Gymru.

John Mahoney
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnJohn Francis Mahoney
Dyddiad geni (1946-09-20) 20 Medi 1946 (77 oed)
Man geniCaerdydd, Cymru
SafleCanol Cae
Gyrfa Ieuenctid
1964Ashton United F.C.
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1965–1967Crewe Alexandra18(5)
1967–1977Stoke City282(25)
1967→ Cleveland Stokers (ar fenthyg)12(0)
1977–1979Middlesbrough77(1)
1979–1983Dinas Abertawe110(1)
Cyfanswm499(32)
Tîm Cenedlaethol
1967–1983Cymru51(1)
Timau a Reolwyd
1984–1986Bangor
1988–1989Sir Casnewydd
1989–1992Bangor
1996–1998Tref Caerfyrddin
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Yn enedigol o Gaerdydd, magwyd Mahoney ym Manceinion gan fod ei dad yn chwarae rygbi'r gynghrair i dîm Oldham Roughyeds. Er nad oedd o deulu oedd yn siarad Cymraeg, dysgodd i siarad Cymraeg yn ddiweddarach, a gwnaeth ymddangosiad cameo ar yr opera sebon Pobol y Cwm.

Roedd Mahoney yn aelod o'r dîm Cymru pan drechasant Lloegr am y tro cyntaf oddi-cartref ers 1936 ar 31 Mai 1977.[1]

Ar ôl iddo ymddeol o chwarae, bu Mahoney yn rheoli clybiau pêl-droed Bangor, Sir Casnewydd a Thref Caerfyrddin.

Cyfeiriadau golygu