Gwleidydd, newyddiadurwr a darlledwr o'r Alban yw John Nicolson (ganwyd 23 Mehefin 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ddwyrain Swydd Dunbarton; mae'r etholaeth yn siroedd Dwyrain Swydd Dunbarton a Gogledd Swydd Lanark, yr Alban. Mae John Nicolson yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.

John Nicolson
John Nicolson


Cyfnod yn y swydd
7 Mai 2015 – 3 Mai 2017
Rhagflaenydd Jo Swinson
(Democratiaid Rhyddfrydol)
Olynydd Jo Swinson

Geni 23 Mehefin 1961
Glasgow, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Dwyrain Swydd Dunbarton
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Glasgow
Galwedigaeth Gwleidydd
Gwefan http://www.snp.org/

Fe'i ganed yn Glasgow ac i brifysgol y ddinas hoono yr aeth Nicolson, gan raddio yn 1984 mewn Gwleidyddiaeth a Saesneg. Enillodd Ysgoloriaeth Kennedy i raddedigion i astudio yn Havard, yn yr Unol Daleithiau.

Mae'n enillydd byd-eang mewn dadlau. Gweithiodd am dros ddeg mlynedd i'r BBC ac yna trodd at ITV, gan gyflwyno nifer o raglenni e.e. rhaglen deirawr, broeol Live with John Nicolson.

Etholiad 2015

golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd John Nicolson 22093 o bleidleisiau, sef 40.3% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 29.7 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 2167 pleidlais.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu