John Pratt, 3ydd Ardalydd Camden

Roedd John Charles Pratt, 3ydd Ardalydd, Camden (30 Mehefin 1840 - 4 Mai 1872), yn cael ei adnabod dan y teitlau Is-iarll Bayham ym 1840 ac Iarll Aberhonddu rhwng 1840 a 1866, yn wleidydd Rhyddfrydol Prydeinig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Aberhonddu am gyfnod byr ym 1866

John Pratt, 3ydd Ardalydd Camden
Ganwyd30 Mehefin 1840 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 1872 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadGeorge Pratt Edit this on Wikidata
MamHarriet Murray Edit this on Wikidata
PriodClementina Pratt Edit this on Wikidata
PlantJohn Pratt, 4th Marquess Camden, unnamed son Pratt, John Pratt, Earl of Brecknock, Clementine Pratt Edit this on Wikidata

Bywyd Personol

golygu

Ganwyd Camden yn Belgrave Square, Llundain yn fab i George Pratt, 2il Ardalydd Camden, a Harriet, merch y Gwir Parchedig George Murray, Esgob Rochester

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt[1] gan raddio'n MA ym 1860.

Priododd yr Arglwyddes Clementina Augusta ym 1866[2], yr oedd hi yn ferch i George Spencer-Churchill, 6ed Dug Marlborough. Bu iddynt 3 mab (bu farw'r ddau hynaf yn blant) ac un ferch.

Roedd prif ystadau arglwyddi Camden yn Wherwell ger Andover, Hampshire, ac Abaty Bayham ger Lamberhurst. Gan eu bod yn ddisgynyddion i'r Parch Hugh Wilson, Trefeglwys a theulu Jeffreys, Priordy Aberhonddu, roedd gan y teulu ystadau yn Sir Frycheiniog hefyd. Yr ystadau Cymreig oedd yn darparu incwm i ddeiliad is deitl y teulu, Iarll Aberhonddu.

Gyrfa Wleidyddol

golygu

Etholwyd John Lloyd Vaughan Watkins yn ddiwrthwynebiad fel AS Rhyddfrydol Aberhonddu yn Etholiad cyffredinol 1865 ond bu farw yn gynnar ym 1866. Fe'i holynwyd ar ran y Blaid Ryddfrydol gan Iarll Brycheiniog, eto'n ddiwrthwynebiad, mewn isetholiad a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 1866.

Bu farw 2il Ardalydd Camden ar 6ed Awst 1866 a dyrchafwyd Iarll Brycheiniog i Dŷ'r Arglwyddi wedi llai na chwe mis o wasanaeth fel Aelod seneddol[3]. Bur fu ei wasanaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi hefyd gan iddo farw o fewn pedwar blynedd i'w dyrchafiad.

Wedi dyrchafiad John Pratt i'r Arglwyddi bu ymgais i gael ei frawd, George Pratt, fel olynydd iddo; ond roedd Rhyddfrydwyr anghydffurfiol Aberhonddu yn gwrthwynebu rhoi'r sedd i fonheddwr o Sais[4] ac eglwyswr yn hytrach na Chymro mwy radical. Yn wyneb yr wrthwynebiad penderfynodd George i dynnu allan o'r ras. Roedd John yn mynnu bod ganddo hawl ar yr enwebiad fel prif dirfeddiannwr yr etholaeth a mynnodd bod ei frawd yng nghyfraith, yr Arglwydd Alfred Spencer Churchill, yn sefyll. Collodd y Rhyddfrydwyr y sedd i Howel Gwyn a oedd yn Gymro o'r ardal, er yn Dori[5].

Marwolaeth

golygu

Bu farw o ffit yn Eaton Square, Llundain, yn 31 mlwydd oed. Cafodd ei olynu fel Ardalydd gan John, ei unig fab i'w oroesi, a oedd dim ond 2 fis oed ar y pryd[6].

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Y DIWEDDAR IARLL BRYCHEINIOG - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1872-05-18. Cyrchwyd 2018-03-26.
  2. "TRECASTLEI - The Brecon Reporter and South Wales General Advertiser". David Williams. 1866-07-21. Cyrchwyd 2018-03-26.
  3. "SUDDEN DEATH OF THE MARQUIS CAMDEN KG - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1866-08-11. Cyrchwyd 2018-03-26.
  4. "ETHOLIAD ABERHONDDU - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1866-08-24. Cyrchwyd 2018-03-26.
  5. "BRECON ELECTION - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1866-09-15. Cyrchwyd 2018-03-26.
  6. "DEATH OF THE EARL OF BRECON - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1872-05-07. Cyrchwyd 2018-03-26.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Lloyd Vaughan Watkins
Aelod Seneddol Aberhonddu
Chwef 1866 – Awst 1866
Olynydd:
Howel Gwyn