Howel Gwyn
Roedd Howel Gwyn (24 Mehefin 1806 – 25 Ionawr 1888) o Ddyffryn, Castell-nedd, yn wleidydd Ceidwadol Cymreig, a gynrychiolodd etholaethau Pennrynn hag Aberfala, Cernyw (1847-57) ac Aberhonddu (1866-68) yn Nhŷ'r Cyffredin[1].
Howel Gwyn | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mehefin 1806 Castell-nedd |
Bu farw | 25 Ionawr 1888 Castell-nedd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, tirfeddiannwr |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Gwyn yng Nghastell Nedd yn fab i William Gwyn, cyfreithiwr, a Mary Anne (nee Roberts) ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn ysgol gyffredin Mr David Davies, Castell-nedd, Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Drindod, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1829 ac MA ym 1832.
Wedi graddio aeth ar y daith fawr trwy Ewrop gan ymweld â'r Eidal, gwlad Groeg, Twrci, Hwngari, ynysoedd y Môr Canoldir a Rwsia
Priododd Elen Elizabeth Moore ym 1851, roedd hi yn ferch i John Moore, bonheddwr, o Plymouth.
Bywyd cyhoeddus
golyguDaeth Gwyn yn aelod o gyngor tref Castell Nedd ym 1836 gan barhau yn aelod hyd ei farwolaeth ym 1888 a gan wasanaethu fel maer y dref ar ym 1842 & 1844[2].
Bu yn ynad heddwch ar feinciau Sir Forgannwg, Sir Gaerfyrddin a Sir Frycheiniog. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Forgannwg ym 1837, Sir Gaerfyrddin ym 1838 a Sir Frycheiniog ym 1843[3].
Rhoddodd tir ac arian i adeiladu Eglwys St Mathew, Dyffryn Clydach a fu'n cefnogi Eglwys Dewi Sant Castell-nedd. Ym 1887 cyfrannodd tir a £2,000 i adeiladu neuadd gyhoeddus yng Nghastell Nedd a enwyd yn Neuadd Gwyn[4] er anrhydedd iddo. Mae Neuadd Gwyn yn parhau i fod yn ganolfan ddiwylliannol a chymdeithasol pwysig i'r dref[5].
Gyrfa Seneddol
golyguSafodd Gwyn yn etholaeth Pennrynn hag Aberfala, yng Nghernyw yn Etholiad Cyffredinol 1847 gan ddod i frig y pôl fel aelod annibynnol / ceidwadol. Llwyddodd i gadw'r sedd yn etholiad cyffredinol 1852. Cyn etholiad cyffredinol 1857 canfu bod ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol wedi bod yn canfasio'r etholaeth ac wedi derbyn peth croeso. Penderfynodd i dynnu allan o'r ornest[6].
Rhoddodd ei enw ymlaen fel ymgeisydd Ceidwadol ar gyfer isetholiad Caerfyrddin 1857[7], ond methodd a chyrraedd y rhestr fer.
Ym mis Hydref 1866 bu isetholiad yn etholaeth Aberhonddu pan ddyrchafwyd yr aelod lleol, John Pratt, Iarll Aberhonddu, i Dŷ'r Arglwyddi fel 3ydd Ardalydd Camden. Safodd Gwyn yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo gan gipio'r sedd i'r Ceidwadwyr. Ail etholwyd Gwyn yn etholiad cyffredinol 1868 ond bu cwyn yn erbyn ei ethol gan y Rhyddfrydwyr gan fod ei gefnogwyr wedi cael eu dal yn ymwneud â llwgrwobrwyo. Clywyd yr achos yn llys y goron Aberhonddu ym Mis Ebrill 1869 a chafwyd dyfarniad yn erbyn Gwyn[8]; cafwyd isetholiad, ond nid oedd Gwyn yn cael ail sefyll.
Safodd yn is etholiad Sir Frycheiniog a alwyd wedi dyrchafu'r AS Ceidwadol Godfrey Morgan i Dŷ'r Arglwyddi. Cipiwyd y sedd i'r Rhyddfrydwyr gan William Fuller-Maitland.
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref Y Dyffryn yn 82 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Mathew, Dyffryn Clydach[9]. Mae ei garreg fedd yn adeilad rhestredig[10]. Adeiladwyd ffynnon[11] er cof amdano yn yr Alltwen a cherflyn[12] ohono yng Nghastell-nedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "SKETCH OF MR HOWELGWYN - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1887-04-02. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ Art UK Darlun olew Howel Gwyn, Mayor of Neath (1842 & 1844)
- ↑ "DEATH OF MR HOWEL GWYN - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-01-25. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ "THE GWYN HALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1888-12-26. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ Gwefan Neuadd Gwyn Archifwyd 2020-09-24 yn y Peiriant Wayback adalwyd 7 rhagfyr 2017
- ↑ "ELECTIONS - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1857-04-04. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ "ETHOLIAD SIR GAERFYRDDIN - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1857-06-13. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ "MR HOWEL GWYN ALLAN O'R SENEDD - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1869-04-17. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ "FUNERAL OF MR HOWEL GWYN - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1888-02-04. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ Howel Gwyn memorial in churchyard of Church of St Matthew A Grade II Listed Building in Dyffryn Clydach, Neath Port Talbot
- ↑ "MEMORIAL FOUNTAIN AT ALLTWEN - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1895-10-21. Cyrchwyd 2017-12-07.
- ↑ "THE LATE MR HOWEL GWYN - The Western Mail". Abel Nadin. 1889-09-27. Cyrchwyd 2017-12-07.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Pratt, Iarll Aberhonddu |
Aelod Seneddol Aberhonddu 1866 – 1869 |
Olynydd: Edward, yr Arglwydd Hyde |