John Prydderch Williams (Rhydderch o Fôn)

bardd, clerc (1830-1868)

Bardd a llenor Cymraeg oedd John Prydderch Williams (4 Tachwedd 1830 - 3 Medi 1868), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Rhydderch o Fôn.[1] Roedd yn frodor o Ynys Môn.

John Prydderch Williams
FfugenwRhydderch o Fôn Edit this on Wikidata
Ganwyd1830 Edit this on Wikidata
Llanddeusant Edit this on Wikidata
Bu farw1868 Edit this on Wikidata
Y Rhyl Edit this on Wikidata
Man preswylY Rhyl Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, clerc Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bywgraffiad golygu

Ganwyd John Prydderch ym mhlwyf Llanddeusant, Môn ar y 4ydd o Dachwedd 1830. Cafodd addysg led dda yn ei ieuenctid, yn ôl safonau'r oes. Yn llanc ifanc, aeth yn brentis i frethynwr yn Llangefni. Symudodd oddi yno i'r Rhyl lle bu'n glerc yn y swyddfa bost.[1]

Dechreuodd lenydda yn ifanc. Yn Eisteddfod Rhuddlan yn 1850, ac yntau'n ugain oed, roedd yn gyd-fuddugol â Gwyneddfardd ar y bryddest orau i'r "Llong Ymfudol". Cafodd waith wedyn yn swyddfa'r Traethodydd yn Nhreffynnon; cyfranodd nifer o erthyglau i'r cylchgrawn hwnnw a chyhoeddiadau Cymraeg eraill. Dychwelodd i'r Rhyl i gadw siop lyfrau.[1]

Dewiswyd ef yn flaenor gyda'r Methodistiaid yn y Rhyl ac yn ysgrifennydd i Gyngor y Dref ac i'r canghennau lleol o Gymdeithas y Beiblau, y Gymdeithas Genhadol a Chymdeithas y Bywydfad. Fe'i benodwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1864; golygodd Gyfansoddiadau arobryn Eisteddfod y Rhyl, 1863.[1]

Bu farw ar y 3ydd o Fedi 1868, yn 37 oed, a chladdwyd ef ym mynwent y Rhyl.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Rhydderch o Fôn, Cydymaith i'r Adroddwr. Cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 R. Môn Williams, Enwogion Môn (Bangor, 1913).