John Samuel Willes Johnson
Roedd John Samuel Willes-Johnson (3 Gorffennaf 1793 – 25 Gorffennaf 1863) yn forwr yn llynges Prydain a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Bwrdeistref Trefaldwyn rhwng 1861 a 1863[1]
John Samuel Willes Johnson | |
---|---|
Ganwyd | 3 Gorffennaf 1793 Southstoke |
Bu farw | 25 Gorffennaf 1863 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog yn y llynges |
Swydd | Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | Charles Johnson |
Mam | Mary Willes |
Priod | Elizabeth de Windt, Vicomte Campt de Rastignac, Joanna Burn Smeeton, Margaret Ann Pugh |
Plant | Elizabeth Sarah Johnson, Maud Felicia Frances Ann Johnson |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Johnson yn South Stoke, ger Caerfaddon yn fab i'r Parch Charles Johnson rheithor Barrow a Phrebendari Wells a’i wraig, Mary Willes, merch Archddiacon Wells.
Cafodd ei addysgu yn ysgol Elmore Court, Stroud.
Ar 14 Mai, 1821 priododd Eliza, unig ferch John De Windt, bu iddynt un ferch. Bu Eliza farw ym 1842. Ym 1849 priododd Joanna gweddw Cyrnol Henry Freak, bu hi farw ym Mharis ym 1854. Ym 1856 priododd ei drydedd wraig, Margaret Anne unig ferch David Pugh [2] ei ragflaenydd fel AS Bwrdeistref Trefaldwyn, bu iddynt ddwy ferch.
Gyrfa
golyguYmunodd a’r Llynges Frenhinol ar 1 Chwefror 1807, fel gwirfoddolwr dosbarth cyntaf gan wasanaethu ar y llong Vestal o dan gapteiniaeth Edwards Lloyd Graham. Gwasanaethodd ar y Vestal am ddwy flynedd allan o orsaf Newfoundland. Ym 1809 fe’i dyrchafwyd yn Fêt Feistr gan gael gofal o’r llong the Fortitude, gan ei hwylio i Lisbon a Cadiz ac yna’n ôl i Loegr. Yn Lloegr bu’n gwasanaethu ar y slŵp, Port Mahon. Erbyn 1816 bu'n is-gapten ar y llong Queen Charlotte gan chware ran yn yr ymosodiad ar Algiers gan Lynges yr Arglwydd Exmouth i geisio rhwystro’r fasnach caethwasiaeth o’r porthladd. Bu’n llywio’r llong Wolverine yn y rhyfeloedd yn erbyn Tsieina ym 1842. Fe’i dyrchafwyd yn Bost Gapten ym 1846 ac yn Gapten ychydig cyn ymddeol o’r llynges ym 1847.
Gyrfa wleidyddol
golyguAr farwolaeth ei dad yng nghyfraith yn Ebrill 1861, cafodd Willes-Johnson ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel olynydd iddo fel Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Bwrdeistref Trefaldwyn. Ond ni fu’n aelod am yn hir, gan iddo ef marw ychydig dros ddwy flynedd yn niweddarach.
Y celfyddydau
golyguRoedd Willes-Johnson yn awdur ac yn arlunydd. Cyhoeddwyd ei lyfr The Traveller's Guide Through France, Italy, and Switzerland; Or the Best Method of Travelling on the Continent Pointed Out in a Tour Through the Above Countries. By John Willes Johnson, Commander, R.N. ym 1828[3]. Mae un o’i darluniau, A Steam Yacht off Dover i’w weld yn y casgliad brenhinol yng Nghastell Windsor.[4]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Westhill, Wiltshire [5].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wikisource A Naval Biographical Dictionary/Johnson, John Samuel Willes adalwyd 28 Awst 2017
- ↑ "Family Notices - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1856-09-27. Cyrchwyd 2017-08-28.
- ↑ Google Books
- ↑ Y Casgliad Brenhinol A Steam Yacht off Dover 1830[dolen farw]
- ↑ "FamilyNotices - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1863-07-31. Cyrchwyd 2017-08-28.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: David Pugh |
Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn 1861 -1863 |
Olynydd: Charles Hanbury-Tracy |