Jorge Rafael Videla
Cadfridog o'r Ariannin ac Arlywydd yr Ariannin o 1976 hyd 1981 oedd Jorge Rafaél Videla Almorozo[1] (2 Awst 1925 – 17 Mai 2013).
Jorge Rafael Videla | |
---|---|
Ganwyd | Jorge Rafael Videla 2 Awst 1925 Mercedes |
Bu farw | 17 Mai 2013 Marcos Paz |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, swyddog milwrol |
Swydd | Arlywydd yr Ariannin, commander-in-chief, Llywodraethwr Talaith Tucumán, cyfarwyddwr, Chief of the Army General Staff, executive officer, Chief of the Joint Staff of the Armed Forces |
Plaid Wleidyddol | military party |
Priod | Alicia Hartridge |
Llinach | Q5855772 |
Gwobr/au | Coler Urdd Isabella y Catholig, Gorchymyn Cyffredinol San Martin, Urdd yr Haul, Order of May, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen, Q99517061 |
llofnod | |
Ganwyd Videla ym Mercedes, yr Ariannin, yn fab i gyrnol yn y fyddin. Graddiod o Colegio Militar de la Nación ym 1944. Roedd yn frigadydd pan penodwyd yn Bennaeth Staff y Fyddin ym 1973, ac ym 1975 fe'i ddyrchafwyd yn bencadfridog y lluoedd arfog. Roedd Videla a chadfridogion eraill yn anhapus gyda llywodraeth sifil yr Ariannin, gan ei gweld yn aneffeithiol yn erbyn terfysgaeth gan grwpiau'r adain chwith ac am wneud llanast o'r economi gan arwain at chwyddiant uchel. Cipiodd y fyddin rym mewn coup d'état ar 24 Mawrth 1976 yn erbyn yr Arlywydd Isabel Martínez de Perón, gan sefydlu'r jwnta filwrol a reolodd y wlad hyd 1983.[2] Urddwyd Videla yn arlywydd y wlad ar 29 Mawrth 1976 mewn seremoni a barodd am ugain munud.[3]
Datganodd y jwnta "Rhyfel Brwnt" yn erbyn grwpiau gerila adain chwith, ac roedd tactegau'r llywodraeth yn cynnwys herwgipio, artaith, a llofruddiaeth. Defnyddiwyd 364 o ganolfannau cadw cudd rhwng 1976 a 1978 i brosesu los desaparecidos ("y diflanedig"), y rhai a arteithiwyd a lladdwyd; bu'r cyrff yn cael eu claddu mewn beddi torfol neu eu taflu allan o awyrennau i mewn i'r Río de la Plata.[3] Galwodd y jwnta ei chyfnod o reolaeth yn "Y Broses Ad-drefnu Genedlaethol", ac roedd y defnydd o sgwadiau marwolaeth a gormes yn erbyn yr adain chwith (yn enwedig y Montoneros a Byddin Chwyldroadol Drotscïaidd y Bobl) yn rhan o Ymgyrch Condor. Roedd polisïau economaidd y jwnta yn canolbwyntio ar breifateddio rhannau o'r sector cyhoeddus a datblygu allforion y sector amaethyddol.[2] Ymddiswyddodd Videla fel pencadfridog y fyddin ar 1 Awst 1978, ond parhaodd yn swydd yr arlywydd. Yn ystod arlywyddiaeth Videla bu farw o leiaf 9000 o bobl a "ddiflanwyd", carcharwyd 10,000 o garcharorion gwleidyddol, ac alltudiwyd mwy na chwarter miliwn o Archentwyr.[3] Ym 1981 trosglwyddodd Videla'r arlywyddiaeth i'r Cadfridog Roberto Viola.
Yn sgil trechiad yr Ariannin yn Rhyfel y Falklands a gwrthwynebiad ar draws y wlad i'r jwnta, cwympodd llywodraeth y cadfridogion a dychwelodd y wlad at ddemocratiaeth ym 1983. Yn ystod Treialon y Jwnta ym 1985, cafwyd Videla yn euog o gyfrifoldeb uniongyrchol mewn 66 o lofruddiaethau, 306 o herwgipiadau, 93 o achosion o artaith, a phedwar achos o ladrad, ac fe'i ddedfrydwyd i garchar am oes. Tynnwyd ei reng filwrol oddi arno a chafodd ei garcharu mewn dalfa mewn gwersyll y fyddin ger Buenos Aires.[3] Pardynwyd Videla ac aelodau eraill o'r jwnta gan yr Arlywydd Carlos Saúl Menem ym 1990.
Ym 1996 cyhuddwyd Videla o gipio pum plentyn o famau a "ddiflanwyd" yn ystod rheolaeth y jwnta; rhoddwyd y plant i deuluoedd milwrol neu gyplau eraill heb blant. Dadleuodd grwpiau hawliau dynol nad oedd y drosedd hon wedi ei heffeithio gan y pardwn – sy'n gymwys i'r cyfnod 1976–83 yn unig – gan fod y plant o hyd wedi eu cipio. Yn ddiweddarach, amcangyfrifwyd i 500 o babanod gael eu cipio o'u mamau.[3] Ym 1998 arestiwyd Videla ar gyhuddiadau o gipio plant a rhoddwyd dan arestiad tŷ ac yna yn 2008[4] fe'i ddanfonir i garchar milwrol. Yn ogystal â'r achos hwn, cafodd y pardynau a roddwyd ym 1990 eu dyfarnu'n anghyfansoddiadol gan farnwr yn 2007, ac felly roedd Videla a gweddill y jwnta yn gallu wynebu cyhuddiadau newydd.[2] Ar 22 Rhagfyr 2010, dedfrydwyd Videla i garchar am oes mewn dalfa sifil am artaith a llofruddiaeth 31 o garcharorion.[5] Yng Ngorffennaf 2012 cafwyd yn euog o gipio'r babanod a dedfrydwyd i garchar am 50 mlynedd.[6] Bu farw yn ei gwsg yng Ngharchar Marcos Paz yn Nhalaith Buenos Aires.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Gunson, Phil (17 Mai 2013). Jorge Rafaél Videla dies in jail aged 87. The Guardian. Adalwyd ar 18 Mai 2013.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Lopez, Elias E. (17 Mai 2013). Jorge Rafael Videla, Jailed Argentine Military Leader, Dies at 87. The New York Times. Adalwyd ar 18 Mai 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 (Saesneg) Caistor, Nicholas (17 Mai 2013). General Jorge Rafael Videla: Dictator who brought terror to Argentina in the 'dirty war'. The Independent. Adalwyd ar 18 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Jorge Rafael Videla (president of Argentina). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Argentina's former dictator Jorge Videla given life sentence. The Guardian (23 Rhagfyr 2010). Adalwyd ar 18 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Goni, Uki (6 Gorffennaf 2012). Jorge Rafael Videla convicted of baby thefts. The Guardian. Adalwyd ar 18 Mai 2013.