Jwnta milwrol

Llywodraeth wedi ei harwain gan arweinwyr milwrol sydd, fel rheol, wedi cipio grym drwy dduliau treisiol.

Llywodraeth a arweinir gan bwyllgor o arweinwyr milwrol yw jwnta milwrol[1] (ceir y sillafiad junta hefyd yn Gymraeg,[2] a gellir ynganu'r "j" un ai gan ddilyn patrwm y Sbaeneg, /x/ fel "ch" Gymraeg, ai gan ddilyn patrwm y Saesneg gyda /dʒ/). Mae'r gair junta yn dod o'r Sbaeneg a'i ystyr yw "cyfarfod" neu "bwyllgor" ac mae'n tarddu o'r "junta" cenedlaethol a lleol a drefnwyd fel rhan o wrthwynebiad Sbaen i ymosodiad Napoleon ar Sbaen ym 1808.[3] Defnyddir y term bellach i gyfeirio at ffurf awdurdodaidd ar lywodraeth a nodweddir gan unbennaeth filwrol oligarchaidd.[4]

Jwnta milwrol
Enghraifft o'r canlynolmath o lywodraeth Edit this on Wikidata
Mathllywodraeth filwrol, cynulliad Edit this on Wikidata
Y Cadfridog Jorge Rafael Videla ddaeth i rym drwy coup d'état ar 24 Mawrth 1976 gyda Jwnta filwrol yr Ariannin (1976–83). Mae America Ladin yn ddrwg-enwog am amlder jwntas milwrol yn meddiannu grym dros eu gwledydd

Daw jwnta i rym yn aml o ganlyniad i coup d'état.[3] Gall y jwnta naill ai gymryd pŵer yn ffurfiol fel corff llywodraethu'r genedl, gyda'r pŵer i reoli trwy archddyfarniad, neu gall ddefnyddio pŵer trwy arfer rheolaeth gyfrwymol (ond anffurfiol) dros lywodraeth sy'n sifil mewn enw.[5]

Dydy'r gair "junta" o'i hun yn Sbaeneg, ddim yn golygu grym milwrol. Gall ddynodi dim mwy na "chyfarfod" neu gorff sy'n cymryd penderfyniadau.[6]

Dau fath o Jwnta

golygu

Gellir dadlau bod dau fath o jwnta; rheolaeth agored a rheolaeth gudd.[7]

  • Rheolaeth Agored - bydd yn yn cynnwys defnydd amlwg o'r jwnta yn gwisgo ffurfwisg filwrol, yn dathlu neu'n peidio gochel rhag ddefnydd o drais (gan gynnwys dienyddio gwrthwynebwyr gwir neu honedig), diddymu aparatws ddemocrataidd y wladwriaeth a chyfyngu neu gwaredu ar elfennau a grwpiau o fewn cymdeithas ddinesig megis pleidiau gwleidyddol, grwpiau pwyso, efallai sefydliadau crefyddol.
  • Rheolaeth Gudd - gall rheolaeth gudd fod ar ffurf naill ai sifileiddio (civilianisation) neu reolaeth anuniongyrchol.[7] Mae sifileiddio yn digwydd pan fydd jwnta yn dod â'i nodweddion milwrol amlwg i ben yn gyhoeddus, ond yn parhau â'i oruchafiaeth.[7] Er enghraifft, gall y jwnta derfynu'r gyfraith filwrol, ildio iwnifformau milwrol a defnyddio gwisg sifil, "coloneiddio" llywodraeth gyda chyn swyddogion milwrol, a gwneud defnydd o bleidiau gwleidyddol neu sefydliadau torfol.[8] Ceir rheolaeth anuniongyrchol pan fo jwnta'n rheoli, neu'n ceisio rheoli, yn gudd y tu ôl i'r llenni dros lywodraeth byped sifil.[7] Gall rheolaeth anuniongyrchol gan y fyddin gynnwys naill ai rheolaeth eang dros y llywodraeth neu reolaeth dros set gulach o feysydd polisi, megis materion diogelwch milwrol neu genedlaethol.[7]

Amlrwydd

golygu

Drwy gydol yr 20g, gwelwyd jwntas milwrol yn aml yn America Ladin, yn nodweddiadol ar ffurf "jwnta sefydliadol, uwch gorfforaethol neu broffesiynol" dan arweiniad prif swyddogion y gwahanol ganghennau milwrol (y fyddin, y llynges a'r llu awyr), a weithiau byddai pennaeth yr heddlu cenedlaethol neu gyrff allweddol eraill yn ymuno ag ef.[5]

Cyfundrefnau jwnta mwy nodedig

golygu
 
Jwnta milwrol Colombia yn 1957
 
Jwnta milwrol Brasil yn 1969
Gwlad Cyfnod rheoli
  Thailand 1932–1973
1976–1980
1991–1992
2006–2008
2014-
  Nigeria 1966–1979
1983–1998
  Gwlad Groeg 1967-1974
  Peru 1968–1980
  Brasil 1930
1969
  Bolifia 1970–1971
1980–1982
  Chile 1973–1990
  Portugal 1974–1976
  Ethiopia 1974–1987
  Yr Ariannin 1976–1983
  El Salvador 1979–1982
  Liberia 1980–1986
  Gwlad Pwyl 1981–1983
  Myanmar 1988–2011
  Haiti 1991–1994
  Mauritania 2008–2009
  Yr Aifft 2011–2012
2013-

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Junta". Geiriadur yr Academi. Cyrchwyd 6 Medi 2024.
  2. "Dygymod â chaethiwed". BBC Cymru Fyw. 16 Tachwedd 2010.
  3. 3.0 3.1 Junta, Encyclopædia Britannica (last updated 1998).
  4. Lai, Brian; Slater, Dan (2006). "Institutions of the Offensive: Domestic Sources of Dispute Initiation in Authoritarian Regimes, 1950-1992". American Journal of Political Science 50 (1): 113–126. doi:10.1111/j.1540-5907.2006.00173.x. JSTOR 3694260. https://archive.org/details/sim_american-journal-of-political-science_2006-01_50_1/page/113.
  5. 5.0 5.1 Paul Brooker, Non-Democratic Regimes (Palgrave Macmillan: 2d ed. 2009), pp. 148-150.
  6. "Junta". Briannica. Cyrchwyd 6 Medi 2024.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Paul Brooker, Comparative Politics (ed. Daniele Caramani: Oxford University Press, 2014), pp. 101-102.
  8. Brooker, Non-Democratic Regimes (2d ed.), p. 153.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.