José Raúl Capablanca

Chwaraewr gwyddbwyll o Giwba oedd José Raúl Capablanca y Graupera (19 Tachwedd 18888 Mawrth 1942) ac ef oedd trydydd Pencampwr Gwyddbwyll y Byd (rhwng 1921 a 1927). Mae’n enwog am ei sgil eithriadol yn y diweddglo ac am gyflymder ei chwarae.

José Raúl Capablanca
Ganwyd19 Tachwedd 1888 Edit this on Wikidata
La Habana Edit this on Wikidata
Bu farw8 Mawrth 1942 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCiwba Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr gwyddbwyll, awdur ffeithiol, diplomydd Edit this on Wikidata
PriodGloria Simoni Betancourt, Olga Capablanca Edit this on Wikidata
Gwobr/aupencampwr gwyddbwyll y byd Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonColombia Edit this on Wikidata

Ganwyd Capablanca yn La Habana ym 1888. Trechodd Bencampwr Ciwba, Juan Corzo, mewn gêm ar 17 Tachwedd, 1901 dau ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn dair-ar-ddeg. [1][2] Cafodd wahoddiad i dwrnamaint San Sebastian 1911 yn dilyn ei fuddugoliaeth yn erbyn Frank Marshall ym 1909, ac enillodd o flaen chwaraewyr blaenllaw fel Akiba Rubinstein, Aron Nimzowitsch a Siegbert Tarrasch. Dros y blynyddoedd nesaf, cafodd ganlyniadau da mewn twrnamaintiau. Wedi sawl ymgais aflwyddiannus i drefnu gêm gyda phencampwr y byd ar y pryd Emanuel Lasker, enillodd Capablanca y teitl ym 1921. Bu Capablanca yn ddiguro o 10 Chwefror, 1916 tan 21 Mawrth, 1924, cyfnod yn cynnwys gornest pencampwriaeth y byd gyda Lasker .

Collodd Capablanca y teitl ym 1927 i Alexander Alekhine, nad oedd erioed wedi curo Capablanca cyn hyn. Yn dilyn ymdrechion aflwyddiannus i drefnu ail gêm dros nifer o flynyddoedd, aeth y berthynas rhyngddynt yn chwerw. Parhaodd Capablanca gyda canlyniadau twrnamaint rhagorol dros y cyfnod hwn ond rhoddodd y gorau i wyddbwyll difrifol ym 1931. Ail ddechreuodd ym 1934, a cael canlyniadau da, ond dangosodd hefyd symptomau pwysedd gwaed uchel, Bu farw ym 1942 o waedlif ar yr ymennydd.

Rhagorai Capablanca mewn sefyllfaoedd syml a'r diweddglo; Disgrifiodd Bobby Fischer ef fel rhywun â "chyffyrddiad ysgafn go iawn". Gallai chwarae gwyddbwyll tactegol pan oedd angen, ac roedd ganddo dechneg amddiffynnol dda. Ysgrifennodd sawl llyfr gwyddbwyll yn ystod ei yrfa, a dywedodd Mikhail Botvinnik mai ei lyfr 'Chess Fundamentals' oedd y llyfr gwyddbwyll gorau a ysgrifennwyd erioed. Roedd yn well gan Capablanca ganolbwyntio ar eiliadau tyngedfennol mewn gêm yn hytrach na chyflwyno dadansoddiad manwl. Bu ei steil o wyddbwyll yn ddylanwadol yn chwarae pencampwyr byd y dyfodol Bobby Fischer ac Anatoly Karpov .

Bywgraffiad a gyrfa

golygu

Plentyndod

golygu
 
Capablanca yn chwarae gwyddbwyll gyda'i dad José María Capablanca ym 1892

Ganwyd José Raúl Capablanca, yr ail fab a oroesodd i swyddog o fyddin Sbaen, José María Capablanca, a dynes Sbaenaidd o Gatalwnia, Matilde María Graupera y Marín, [3] yn Hafana ar 19 Tachwedd 1888. Yn ôl Capablanca, dysgodd chwarae gwyddbwyll yn bedair oed trwy wylio ei dad yn chwarae gyda ffrindiau, tynnodd sylw at symudiad anghyfreithlon gan ei dad, ac yna curodd ei dad.[4] Yn wyth oed aethpwyd ag ef i Glwb Gwyddbwyll Hafana, oedd wedi cynnal nifer o gystadlaethau pwysig, ond ar gyngor meddyg nid oedd yn cael chwarae'n aml. Yn ystod Tachwedd a Rhagfyr, 1901 curodd Bencampwr Gwyddbwyll Ciwba, Juan Corzo, o drwch blewyn mewn gornest. [5] [6] [7] Fodd bynnag, yn Ebrill, 1902 gorffennodd yn bedwerydd allan o chwech yn y Bencampwriaeth Genedlaethol, gan golli ei ddwy gêm yn erbyn Corzo. [7] Ym 1905 pasiodd arholiadau mynediad Coleg Columbia (Efrog Newydd), ac roedd yn eiddgar i chwarae i dîm pêl-fas cryf Columbia, a cyn bo hir roedd yn chwarae ar y safle byr i dîm myfyrwyr blwyddyn gyntaf. [6] Yr un flwyddyn ymunodd â Chlwb Gwyddbwyll Manhattan, ac fe'i gydnabyddwyd fel chwaraewr cryfaf y clwb yn fuan iawn. [5] Yr oedd yn arbennig o dda yn chwarae gwyddbwyll cyflym, ac enillodd twrnamaint chwarae cyflym ym 1906 ar y blaen i Bencampwr Gwyddbwyll y Byd, Emanuel Lasker. [5] Cynrychiolodd Columbia ar bwrdd un mewn gwyddbwyll rhyng-golegol. [8] Ym 1908 gadawodd y brifysgol i ganolbwyntio ar wyddbwyll. [5] [6]

Yn ôl Prifysgol Columbia, cofrestrodd Capablanca yn Ysgol Mwyngloddiau, Peirianneg a Chemeg ym mis Medi, 1910 i astudio peirianneg gemegol. [9] Yn ddiweddarach, tynnwyd ei gymorth ariannol yn ôl gan bod well ganddo chwarae gwyddbwyll nag astudio peirianneg. Gadawodd Columbia ar ôl un semester a dechrau ei yrfa gwyddbwyll.

Gyrfa cynnar

golygu
 
Capablanca ym 1919

Roedd gallu Capablanca mewn gwyddbwyll cyflym yn berffaith ar gyfer arddangosfeydd ar-y-pryd, ac arweiniodd hyn at daith ledled yr Unol Daleithiau ym 1909. [10] Ar ôl chwarae 602 o gemau mewn 27 o ddinasoedd, sgoriodd 96.4%—canran dipyn uwch nag, er enghraifft, 88% Geza Maroczy, a 86% gan Frank Marshall ym 1906. Enillodd y perfformiad hwn nawdd iddo ar gyfer gêm arddangos y flwyddyn honno yn erbyn Marshall, Pencampwr yr Unol Daleithiau, [11] a oedd wedi ennill twrnamaint Cambridge Springs 1904 ar y blaen i Bencampwr y Byd Emanuel Lasker a Dawid Janowski, sydd yn cael ei raddio gan Chessmetrics yn un o dri chwaraewr gorau'r byd ar ei anterth.[12] Curodd Capablanca Marshall 15–8 ( +8, -1, = 14, ) — digon tebyg i'r hyn a gyflawnodd Lasker yn erbyn Marshall 11.5 - 3.5 ( +8, -0, =7 ) wrth guro'r ornest am Bencampwriaeth y Byd ym 1907. Ar ôl y gêm, dywedodd Capablanca nad oedd erioed wedi agor llyfr ar agoriadau gwyddbwyll. [5] [13] Yn dilyn y gêm hon, dyfarna Chessmetrics fod Capablanca yn drydydd chwaraewr cryfaf y byd am y rhan fwyaf o'r cyfnod rhwng 1909 a 1912. [14]

Enillodd Capablanca chwe gêm gyda un gêm gyfartal ym mhencampwriaeth talaith Efrog Newydd ym 1910. Enillodd Capablanca a Charles Jaffe eu pedair gêm yn y rhagbrofion terfynol ac yna cyfarfod i benderfynu ar yr enillydd, pwy bynnag fyddai'r cyntaf i ennill dwy gêm. Ar ôl gêm gyfartal enillodd Capablanca'r ail a'r drydedd gêm. Wedi cyfres hir arall o arddangosfeydd ar-y-pryd, [10] daeth Capablanca yn ail, gan sgorio 9½ o 12, yn y Twrnamaint Cenedlaethol ym 1911, yn Efrog Newydd, hanner pwynt tu ôl i Marshall, a hanner pwynt o flaen Charles Jaffe ac Oscar Chajes.[15] [16] Mynnodd Marshall, ar ôl iddo gael gwahoddiad i chwarae mewn twrnamaint yn San Sebastián, Sbaen ym 1911, fod Capablanca yn cael chwarae hefyd. [17]

Yn ôl David Hooper a Ken Whyld, San Sebastian 1911 oedd "un o'r pum twrnamaint cryfaf a gynhaliwyd hyd at hynny", ac roedd holl chwaraewyr blaenllaw'r byd yn cystadlu ac eithrio'r Pencampwr, Lasker. [18] [19] Ar ddechrau'r twrnamaint, gwrthwynebodd Ossip Bernstein ac Aron Nimzowitsch fod Capablanca'n cael cystadlu am nad oedd wedi cyflawni'r amod mynediad o ennill o leiaf y drydedd wobr mewn dau brif dwrnamaint.[5] Enillodd Capablanca yn wych yn erbyn Bernstein yn y rownd gyntaf, ac yna'n fwy syml yn erbyn Nimzowitsch, [10] a syfrdanodd y byd gwyddbwyll trwy orffen yn gyntaf, gyda chwe buddugoliaeth, un colled a saith gêm gyfartal, ar y blaen i Akiba Rubinstein, Milan Vidmar, Marshall, Carl Schlechter a Siegbert Tarrasch, a.y. [5] Ystyrir ei unig golled yn un o gemau mwyaf disglair gyrfa Rubenstein. [20] Roedd rhai beirniaid Ewropeaidd yn grwgnach bod arddull Capablanca yn rhy ofalus, er iddo ildio llai o gemau cyfartal na'r chwech chwaraewr agosaf iddo. Cydnabyddwyd Capablanca wedi hyn fel ymgeisydd go iawn am Bencampwriaeth y Byd. [10]

Cystadleuydd am Bencampwriaeth y Byd

golygu

Ym 1911, heriodd Capablanca Lasker am Bencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd. Derbyniodd Lasker a cynnig 17 amod ar gyfer yr ornest. Gwrthwynebodd Capablanca rai o'r amodau, a oedd yn ffafrio Lasker, ac ni chynhaliwyd yr ornest. [21]

 
Gêm Gyntaf yr ornest rhwng Alekhine a Capablanca ar 14 Rhagfyr, 1913 mewn arddangosfa yn St. Petersburg

Ym 1913, enillodd Capablanca dwrnamaint yn Efrog Newydd efo 11/13, hanner pwynt o flaen Marshall. [15] [22] Yna gorffennodd Capablanca yn ail i Marshall yn Hafana, gan sgorio 10/14 a cholli un o'u gemau unigol. [15] [23] Roedd y 600 yn y gynulleidfa yn naturiol yn ffafrio eu harwr lleol, ond rhoddwyd “gymeradwyaeth daranllyd” i Marshall. [23] [24] Mewn twrnamaint yn Efrog Newydd ym 1913, yn y Rice Chess Club, enillodd Capablanca bob un o'r 13 gêm. [10] [15]

Ym mis Medi, 1913 derbyniodd Capablanca swydd gyda Swyddfa Dramor Ciwba, [5] a olygai nad oedd rhaid iddo boeni am arian o hynny ymlaen. [19] Dywed Hooper a Whyld, "Nid oedd ganddo unrhyw ddyletswyddau penodol, ond roedd disgwyl iddo weithredu fel math o lysgennad, fel ffigwr adnabyddus a fyddai'n rhoi Ciwba ar y map lle bynnag y bo." [25] Ei gyfarwyddiadau cyntaf oedd i fynd i St. Petersburg, lle'r oedd i chwarae mewn twrnamaint mawr. [10] Ar y ffordd yno, chwaraeodd arddangosfeydd ar-y-pryd yn Llundain, Paris a Berlin, a chwaraeodd gornest dwy gêm yr un ym Merlin yn erbyn Richard Teichmann a Jacques Mieses, gan ennill y bedair. [5] [10] Yn St Petersburg, chwaraeodd gornestau tebyg yn erbyn Alexander Alekhine, Eugene Znosko-Borovsky a Fyodor Duz-Chotimirsky, gan golli un gêm i Znosko-Borovsky ac ennill y gweddill. [5]

Y tro cyntaf i Capablanca wynebu Lasker dan amodau twrnamaint oedd yn nhwrnamaint gwyddbwyll St. Petersburg 1914.[10] Trefnwyd y digwyddiad hwn mewn ffordd anarferol: ar ôl twrnamaint pawb-yn-chwarae-pawb rhagbrofol gydag un-ar-ddeg chwaraewr, roedd y pump uchaf i chwarae eto mewn fformat pawb-yn-chwarae-pawb dwbl, gyda cyfanswm sgoriau o'r twrnamaint rhagarweiniol yn cael eu cario drosodd [10] Gorffennodd Capablanca yn gyntaf yn y twrnamaint rhagarweiniol, 1½ pwynt ar y blaen i Lasker, nad oedd wedi bod yn chwarae'n rheolaidd ac wedi dechrau'n sigledig. Er gwaethaf ymdrech galed gan Lasker, roedd Capablanca ar y ffordd i fuddugoliaeth. Ond yn eu hail gêm, llwyddodd Lasker i roddi Capablanca mewn sefyllfa lle na fedrai wneud dim, a cafodd Capablanca ei ysgwyd gymaint nes iddo golli'n ddrwg yn ei gêm nesaf hefyd, yn erbyn Tarrasch. [10] Enillodd Lasker ei gêm olaf, yn erbyn Marshall, a gorffennodd hanner pwynt o flaen Capablanca, a 3½ o flaen Alekhine. [5] [26] Dywedodd Alekhine:

Dechreuodd ei wir ddoniau anghymharol ddod yn hysbys am y tro cyntaf yn St. Petersburg, 1914, lle deuthum i'w adnabod yn bersonol. Nid wyf cyn nac wedi hynny wedi gweld—ac ni allaf ddychmygu gweld ychwaith—y fath gyflymdra syfrdanol o ddealltwriaeth gwyddbwyll â’r hyn a feddiannwyd gan Capablanca y cyfnod hwnnw. Digon yw dweud ei fod wedi rhoi'r ods o 5-1 i holl feistri St Petersburg mewn gemau cyflym - ac ennill! Ac ar yr un pryd yr oedd bob amser yn llawn hiwmor, yn boblogaidd gyda'r merched, ac yn mwynhau iechyd da rhyfeddol - ymddangosiad disglair go iawn. Rhaid priodoli iddo ddyfod yn ail i Lasker i'w ieuenctid—yr oedd eisoes yn chwarae cystal ag ef. [27]

Yn dilyn methiant y trafodaethau i gynnal gêm deitl ym 1911, drafftiodd Capablanca reolau ar gyfer cynnal heriau yn y dyfodol, a cytunwyd arnynt gan y chwaraewyr blaenllaw eraill yn nhwrnamaint Saint Petersburg 1914, gan gynnwys Lasker, ac fe'i cymeradwywyd yng Nghyngres Mannheim yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Y prif bwyntiau oedd: rhaid i'r pencampwr fod yn barod i amddiffyn ei deitl unwaith y flwyddyn; dylai'r ornest gael ei hennill gan y chwaraewr cyntaf i ennill chwech neu wyth gêm, pa un bynnag oedd orau gan y pencampwr; a dylai'r ernes fod o leiaf yn £1,000 (gwerth tua £26,000 neu $44,000 yn 2013 [28] ).

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Dechreuodd y Rhyfel Byd Cyntaf yng nghanol haf 1914, gan dod â gwyddbwyll rhyngwladol i ben am fwy na phedair blynedd. [10] Enillodd Capablanca dwrnameintiau yn Efrog Newydd ym 1914, 1915, 1916 (gyda gemau pawb-yn-chwarae-pawb rhagarweiniol a therfynol) a 1918, gan golli dim ond un gêm.[29] Yng nghystadleuaeth 1918, cafwyd wrthymosodiad cymhleth gan Marshall, yn chwarae Du yn erbyn Capablanca, a gafodd ei alw'n ddiweddarach yn Ymosodiad Marshall, yn erbyn y Ruy Lopez. Dywedir fod Marshall wedi cadw'r amrywiad hon yn gyfrinach i'w ddefnyddio yn erbyn Capablanca ers colli iddo ym 1909; [30] ond darganfu Edward Winter sawl enghraifft rhwng 1910 a 1918 lle cafodd Marshall gyfle i ddefnyddio'r ymosodiad yn erbyn Capablanca; a hefyd cafwyd gêm o 1893 lle defnyddiodd linell debyg. [31] Mae'r gambit hwn mor gymhleth fel bod Garry Kasparov yn ei osgoi, [32] a cafodd Marshall y fantais o ddefnyddio amrywiad yr oedd wedi baratoi o flaen llaw. Serch hynny, daeth Capablanca o hyd i ffordd trwy'r cymhlethdodau ac ennill. [19] Heriwyd Capablanca i gêm ym 1919 gan Borislav Kostic, a oedd wedi gorffen yn ail ac yn ddi-guro yn nhwrnamaint 1918. Y cyntaf i ennill wyth gêm oedd y bwriad ond ymddiswyddodd Kostić ar ôl colli’r pum gêm gyntaf. [5] [33] Ystyriai Capablanca ei fod ar ei fwyaf nerthol tua'r amser hwn. [10] [34]

Pencampwr y Byd

golygu
 
Capablanca ym 1920

'Twrnamaint y Fuddugoliaeth' yn Hastings ym 1919 oedd y gystadleuaeth ryngwladol gyntaf ar dir y Cynghreiriaid ers 1914. Nid oedd yn gystadleuol iawn, [10] ac enillodd Capablanca gyda 10½ /11, un pwynt ar y blaen i Kostić. [29]

Ym mis Ionawr, 1920 arwyddodd Lasker a Capablanca gytundeb i chwarae gornest Pencampwriaeth y Byd ym 1921, gan nodi nad oedd Capablanca yn rhydd i chwarae ym 1920. Oherwydd yr oedi, mynnodd Lasker pe bai'n ymddiswyddo o'r teitl, yna dylai Capablanca ddod yn Bencampwr y Byd. Roedd Lasker wedi cynnwys cymal tebyg yn ei gytundeb cyn y Rhyfel Byd Cyntaf i chwarae gydag Akiba Rubenstein am y teitl, pe bai Lasker yn ymddiswyddo, yna dylai Rubinstein ddod yn bencampwr. Ar 27 Mehefin, 1920 ymddiswyddodd Lasker, gan ddweud wrth Capablanca, "Rydych wedi ennill y teitl nid trwy ffurfioldeb her, ond trwy eich meistrolaeth wych." Wedi i selogion gwyddbwyll yng Nghiwba godi $20,000 i ariannu'r gêm ar yr amod ei bod yn cael ei chwarae yn Hafana, cytunodd Lasker ym mis Awst, 1920 i chwarae yno, ond mynnodd mai ef oedd yr heriwr gan mai Capablanca oedd y pencampwr bellach. Llofnododd Capablanca gytundeb a oedd yn derbyn y pwynt hwn, ac yn fuan wedyn cyhoeddodd lythyr yn ei gadarnhau. [35]

Chwaraewyd yr ornest yn ystod Mawrth ac Ebrill, 1921; ymddiswyddodd Lasker ar ôl 14 gêm, wedi iddo golli pedair, ac heb ennill un. Priodolodd Reuben Fine a Harry Golombek y canlyniad unochrog i chwarae sâl annisgwyliadwy Lasker. [29] [36] Soniodd Fred Reinfeld bod dyfalu bod hinsawdd llaith Hafana wedi gwanhau Lasker a’i fod yn ddigalon ynghylch canlyniad y Rhyfel Byd Cyntaf, yn enwedig gan ei fod wedi colli ei gynilion i gyd.[10] Ar y llaw arall, roedd Vladimir Kramnik o'r farn bod Lasker wedi chwarae'n eithaf da a bod yr ornest yn "frwydr gyfartal a hynod ddiddorol" nes i Lasker wneud camgymeriad gwael yn y gêm ddiwethaf. Ychwanegodd Kramnik fod Capablanca ugain mlynedd yn iau, yn chwaraewr ychydig yn gryfach, ac, yn wahanol i Lasker, wedi cael digon o ymarfer chwarae cyn yr ornest. [37]

Ar ôl crynodeb hir o’r ffeithiau, daeth Edward Winter i’r casgliad, “Roedd y wasg yn diystyru dymuniad Lasker i roi’r teitl i Capablanca, a hefyd yn cwestiynu cyfreithlondeb y fath beth, ac yn ystyried ei fod wedi dod yn Bencampwr y Byd ar ôl trechu Lasker ar y bwrdd." Mae llyfrau hanes yn ddieithriad yn rhoi teyrnasiad Capablanca fel Pencampwr y Byd yn dechrau ym 1921, nid 1920. [38] [39] [40]

 
Taflen sgôrio pan drechwyd Capablanca gan Richard Réti yn nhwrnamaint gwyddbwyll Efrog Newydd 1924, ei golled gyntaf mewn wyth mlynedd

Enillodd Capablanca dwrnamaint Llundain 1922 a sgorio 13/15, yn ddi-golled, ar y blaen i Alekhine efo 11½, Milan Vidmar efo 11, ac Akiba Rubenstein 10½. [41] Yn ystod y gystadleuaeth hon, cynigiodd Capablanca "Rheolau Llundain" i reoleiddio trafodaethau Pencampwriaeth y Byd yn y dyfodol : byddai'r chwaraewr cyntaf i ennill chwe gêm yn ennill yr ornest; byddai sesiynau chwarae yn cael eu cyfyngu i 5 awr; yr amseru fyddai 40 symudiad mewn 2½ awr; rhaid i bencampwr amddiffyn ei deitl o fewn blwyddyn o dderbyn her gan Feistr cydnabyddedig; y pencampwr fyddai'n penderfynu dyddiad yr ornest; nid oedd yn rhaid i'r pencampwr dderbyn her am bwrs llai na $10,000 (gwerth tua $260,000 yn 2006 [42] ); roedd 20% o'r pwrs i'w dalu i ddeiliad y teitl a'r gweddill i'w rannu, 60% i'r enillydd, a 40% i'r collwr; roedd rhaid derbyn y cais gyda'r pwrs uchaf. [43] Arwyddodd Alekhine, Efim Bogoljubow, Géza Maroczy, Richard Réti, Rubinstein, Tartakower a Vidmar. [44] Rhwng 1921 a 1923 heriodd Alekhine, Rubinstein a Nimzowitsch Capablanca, ond dim ond Alekhine allai godi'r arian, ym 1927. [45]

Ym 1922, chwaraeodd Capablanca mewn arddangosfa ar-y-pryd yng Nghleveland yn erbyn 103 o wrthwynebwyr, y nifer mwyaf mewn hanes hyd hynny, gan ennill 102 gydag un gêm gyfartal - a gosod record am y ganran fuddugol orau erioed mewn arddangosfa o'r fath. [46]

Ar ôl dechrau gyda phedair gêm gyfartal, ac yna colli'r nesaf, [10] gorffennodd Capablanca yn ail yn nhwrnamaint gwyddbwyll Efrog Newydd 1924 gyda sgôr o 14½/20 (+10−1=9), 1½ pwynt tu ôl i Lasker, a 2½ ar y blaen i Alekhine a orffennodd yn drydydd. [41] Colled Capablanca yn erbyn Réti yn y bumed rownd oedd ei golled gyntaf mewn cystadleuaeth ddifrifol mewn wyth mlynedd. [15] [47] Dechreuodd yn sâl yn nhwrnamaint gwyddbwyll Moscow 1925,[10] cyn ymladd yn ôl i gipio trydydd safle, dau bwynt tu ôl i Bogoljubow a ½ pwynt tu ôl i Lasker. Enillodd Capablanca yn Lake Hopatcong, 1926 gyda 6/8, ar y blaen i Abraham Kupchik (5) a Maroczy (4½). [48]

Addawodd grŵp o ddynion busnes o’r Ariannin, gyda chefnogaeth gwarant gan arlywydd y wlad, yr arian ar gyfer gornest am Bencampwriaeth y Byd rhwng Capablanca ac Alekhine ym 1927. [49] Gan fod Nimzowitsch wedi ei herio cyn Alekhine, rhoddodd Capablanca hyd at 1 Ionawr, 1927 i Nimzowitsch godi'r ernes er mwyn trefnu gêm. [50] Ni wireddwyd hyn felly gwnaed drefniadau ar gyfer gornest am Bencampwriaeth y Byd Capablanca-Alekine, i ddechrau ym Medi 1927. [51]

Yn nhwrnamaint gwyddbwyll Efrog Newydd 1927, a gynhaliwyd rhwng 19 Chwefror a 23 Mawrth, 1927 [52] [53] chwaraeodd chwech o feistri cryfaf y byd ornest pawb-yn-chwarae-pawb pedwarplyg, sef Alekhine, Rudolf Spielmann, Milan Vidmar, Nimzowitsch, Marshall a Capablanca, [48] gyda Bogoljubow a Lasker yn absennol. [19] Cyn y twrnamaint, ysgrifennodd Capablanca fod ganddo "fwy o brofiad ond llai o bŵer" nag ym 1911, ei fod wedi cyrraedd uchafbwynt ym 1919 a bod rhai o'i wrthwynebwyr wedi dod yn gryfach yn y cyfamser. [10] Ond cafodd lwyddiant ysgubol: gan orffen yn ddi-guro gyda 14/20, gan ennill y gemau unigol gyda phob un o'i gystadleuwyr, 2½ pwynt ar y blaen i Alekhine ddaeth yn ail, ac ennill y wobr am y "gêm orau" am ei fuddugoliaeth yn erbyn Spielmann. [48]

Ym mis Rhagfyr 1921, yn fuan ar ôl dod yn Bencampwr y Byd, priododd Capablanca â Gloria Simoni Betancourt. Cawsant fab, José Raúl Jr., ym 1923 a merch, Gloria, ym 1925. [54] Dywed ail wraig Capablanca, Olga, y chwalwyd ei briodas gyntaf yn weddol fuan, ac roedd ganddo ef a Gloria gariadon. [55] Bu farw dau riant Capablanca yn ystod ei deyrnasiad, ei dad yn 1923 a'i fam yn 1926. [54]

Colli'r Bencampwriaeth

golygu
 
Alekhine vs. Capablanca

Gan fod Capablanca wedi ennill twrnamaint gwyddbwyll Efrog Newydd 1927 mor hawdd ac am nad oedd erioed wedi colli gêm i Alekhine, ef oedd y ffefryn i ennill Pencampwriaeth Gwyddbwyll y Byd ym 1927. [10] Ond enillodd Alekhine yr ornest, a chwaraewyd o fis Medi i fis Tachwedd, 1927 ym Muenos Aires, gyda 6 buddugoliaeth, 3 colled, a 25 gêm gyfartal [50] — yr ornest hiraf ym Mhencampwriaeth y Byd tan ornest enwog 1984-85 rhwng Anatoly Karpov a Garry Kasparov. [56] Synnodd buddugoliaeth Alekhine y byd gwyddbwyll i gyd bron. [50] Wedi marwolaeth Capablanca, mynegodd Alekhine ei syndod ei hun, nid oedd yn meddwl ei fod yn well na Capablanca, ac awgrymodd fod Capablanca wedi bod yn or-hyderus. [27] Nid oedd Capablanca wedi paratoi yn gorfforol na'n dechnegol, [5] [10] tra bod Alekhine mewn cyflwr corfforol da [57] ac wedi astudio chwarae Capablanca yn drylwyr. [58] Yn ôl Kasparov, datgelodd ymchwil Alekhine lawer o wallau bach yn chwarae ei wrthwynebwr, a ddigwyddai am nad oedd Capablanca'n fodlon canolbwyntio'n ddwys. [59] Dywedodd Vladimir Kramnik mai hon oedd y gystadleuaeth gyntaf lle na chafodd Capablanca unrhyw fuddugoliaethau hawdd. [37] Awgrymodd Ludek Pachman nad oedd Capablanca yn gyfarwydd â cholli gemau neu unrhyw fath o rwystr, a'i fod wedi mynd yn isel ei ysbryd oherwydd ei golled ddiangen yn yr 11eg gêm mewn diweddglo anodd lle cafwyd gwallau gan y ddau chwaraewr. [60] [61] Daeth yr ornest braidd yn enwog am y defnydd ddi-ddiwedd o Gambit y Frenhines a wrthodwyd; chwaraewyd yr agoriad hwn ym mhob gêm ar ôl y ddwy gyntaf, ac mae cwymp Capablanca wedi'i briodoli'n rhannol gan rai i'w amharodrwydd i chwarae unrhyw agoriad eraill.

Yn syth ar ôl ennill, dywedodd Alekhine ei fod yn barod i ail-chwarae Capablanca, ar yr un telerau ag yr oedd Capablanca wedi'u mynnu fel pencampwr - rhaid i'r heriwr ddarparu'r ernes o $10,000, a byddai mwy na hanner yn mynd i'r pencampwr oedd yn amddiffyn hyd yn oed pe collai. [62] Roedd Alekhine wedi herio Capablanca yn y 1920au cynnar, ond ni allai Alekhine godi'r arian tan 1927. [45] Ar ôl marwolaeth Capablanca, ysgrifennodd Alekhine fod Capablanca'n mynnu ar ernes o $10,000 mewn ymgais i osgoi heriau. [27] Bu trafodaethau'n llusgo ymlaen rhyngddynt am nifer o flynyddoedd, ond yn chwalu pan oedd cytundeb yn ymddangos yn agos. Aeth eu perthynas yn chwerw, a mynnai Alekhine ffioedd ymddangosiad llawer uwch ar gyfer twrnameintiau lle'r oedd Capablanca hefyd yn ymddangos. [57] [63]

Wedi'r bencampwriaeth

golygu
 
Yn ystod arddangosfa ar-y-pryd gyda deg-ar-hugain o fyrddau ym Merlin, Mehefin 1929

Ar ôl colli Pencampwriaeth y Byd ddiwedd 1927, chwaraeodd Capablanca'n amlach mewn twrnameintiau, gan obeithio cryfhau ei gyfle am ail-chwarae. [64] O 1928 hyd 1931, enillodd chwe gwobr gyntaf, gan orffen hefyd yn ail ddwywaith ac unwaith yn gydradd ail. [15] Ymysg eraill chwaraeodd sêr y dyfodol fel Max Euwe ac Isaac Kashdan, [65] [66] yn ogystal â sêr y 1920au, ond ni chwaraeodd Capablanca gydag Alekhine yn ystod y cyfnod hwn, nes cyfarfod yn nhwrnamaint Nottingham 1936, wedi i Alekhine golli'r teitl i Euwe y flwyddyn flaenorol. [64] [67] [68] Ar ddiwedd 1931, enillodd Capablanca ornest yn erbyn Euwe (+2, -0, =8), [15] [68] - mae Chessmetrics yn graddio Euwe'n chweched yn y byd yr adeg hynny. [69]

Er ei ganlyniadau rhagorol, gellid gweld arwyddion o ddirywiad yn ei chwarae: roedd yn dipyn arafach, ac weithiau yn mynd i drafferth amser; [19] er hyn parhaodd i chwarae llawer o gemau gwych, ond gwneud rhai camgymeriadau difrifol hefyd. [10] [19] [68] Serch hynny, mae Chessmetrics yn gosod Capablanca yn ail chwaraewr cryfaf y byd (tu ôl i Alekhine) ers colli'r teitl hyd at hydref 1932 heblaw am un ymddangosiad byr ar y brig. [14]

Daeth cynnig Alekhine i chwarae Capablanca mewn gêm ail gyfle pe bai modd iddo godi ernes o $10,000 i ddim oherwydd y Dirwasgiad Mawr . Ar ôl ennill cystadleuaeth yn Efrog Newydd ym 1931, tynnodd yn ôl o wyddbwyll i ryw raddau, [15] efallai wedi'i ddigalonni gyda'i anallu i sicrhau gêm ail-gyfle gydag Alekhine, [68] a chwaraeodd gemau llai difrifol yn unig yng Nghlwb Gwyddbwyll Manhattan ac arddangosfeydd ar-y-pryd. [70] Ar 6 Rhagfyr, 1933 enillodd Capablanca bob un o'i gemau (9) yn un o dwrnameintiau gwyddbwyll cyflym wythnosol y clwb, gan orffen dau bwynt o flaen Samuel Reshevsky, Reuben Fine a Milton Hanauer, [70]

O'r cyfnod hwn y ceir yr unig ffilm sydd wedi goroesi lle mae Capablanca'n siarad. Mae gyda Euwe a'r newyddiadurwr chwaraeon radio o'r Iseldiroedd, Han Hollander. Mae Hollander yn holi Capablanca am ei farn am gêm Bencampwriaeth y byd oedd ar y gorwel rhwng Euwe ac Alekhine ym mis Hydref y flwyddyn honno (1935). Atebodd Capablanca: "Mae gêm Dr. Alekhine yn 20% bluff. Mae gêm Dr. Euwe yn glir ac yn syml. Nid yw gêm Dr. Euwe— mor gryf â gêm Alekhine mewn rhai ffyrdd—ond mae'n fwy cytbwys.” Yna mae Euwe yn rhoi ei asesiad yn Iseldireg, gan esbonio bod ei deimladau'n amrywio o optimistiaeth i besimistiaeth, ond yn ystod y deng mlynedd blaenorol, roedd y sgôr rhyngddynt yn gyfartal, sef 7-7. [71]

Ailgydio mewn gwyddbwyll cystadleuol

golygu

Ar y dechrau ni ysgarodd Capablanca ei wraig gyntaf, gan nad oedd yn bwriadu ailbriodi. Ond ysgrifennodd Olga, ei ail wraig, iddi gyfarfod ag ef ar ddiwedd gwanwyn 1934; ac erbyn diwedd mis Hydref roedd y ddau mewn cariad, a daeth uchelgais Capablanca i brofi mai ef oedd chwaraewr gorau'r byd yn ôl. [55] Ym 1938 ysgarodd ei wraig gyntaf a phriododd Olga ar yr 20fed Hydref, [55] tua mis cyn twrnamaint AVRO. [72]

Wrth ail-ddechrau chwarae gwyddbwyll go-iawn yn nhwrnamaint Hastings 1934-35, gorffennodd Capablanca yn bedwerydd, ond ar y blaen i Mikhail Botvinnik ac Andor Lilienthal. [73] Daeth yn ail o ½ pwynt yn nhwrnameintiau Margate ym 1935 a 1936. Ym Moscow 1935 gorffennodd Capablanca yn bedwerydd, 1 pwynt tu ôl i'r enillwyr ar y cyd, [73] tra cafodd trydydd safle Lasker yn 66 mlwydd oed ei alw'n "wyrth fiolegol." [74] Blwyddyn wedyn, enillodd Capablanca dwrnamaint cryfach byth ym Moscow, pwynt o flaen Botvinnik a 3½ o flaen Salo Flohr, a gipiodd y trydydd safle; [73] Fis yn ddiweddarach, daeth yn gydradd gyntaf gyda Botvinnik yn Nottingham, gyda sgôr o (+5 - 1 = 8), gan golli i Flohr yn unig. Collodd i Flohr wedi cael ei aflonyddu gan Euwe pan mewn trafferth amser. [75] Gorffennodd Alekhine yn chweched, 1 pwynt tu ôl i'r enillwyr ar y cyd. [73] Y twrnameintiau hyn ym 1936 oedd y ddau olaf i Lasker chwarae, [76] a'r unig adegau lle gorffennodd Capablanca o flaen Lasker, oedd bellach yn 67. [77] Yn ystod y buddugoliaethau hyn dechreuodd Capablanca ddioddef symptomau pwysau gwaed uchel. [34] Gorffennodd yn gydradd ail yn Semmering ym 1937, ond yna gorffen yn seithfed o'r wyth chwaraewr yn nhwrnamaint AVRO 1938 [78] cystadleuaeth elitaidd a gynlluniwyd i ddewis heriwr am Bencampwriaeth y Byd yn erbyn Alekhine. [79] [80]

Ni chafodd pwysedd gwaed uchel Capablanca ei ddarganfod na'i drin yn gywir tan ar ôl twrnamaint AVRO, ac achosodd i'w feddwl fynd ar chwâl tua diwedd y sesiynau chwarae. [34] Ym 1940, roedd ganddo orbwysedd hynod beryglus o 210 /180 (mae argyfwng pwysau gwaed yn 180/120 neu uwch, a hyd yn oed ar ôl triniaeth roedd pwysau gwaed Capablanca yn 180/130). [81]

Ar ôl ennill Ym Mharis ym 1938 a gorffen yn ail mewn twrnamaint ychydig yn gryfach ym Margate ym 1939, chwaraeodd Capablanca i Giwba yn yr 8fed Olympiad Gwyddbwyll, ym Muenos Aires, ac enillodd y fedal aur am y perfformiad gorau ar bwrdd un.[82] Tra bod Capablanca ac Alekhine ill dau yn cynrychioli eu gwledydd ym Muenos Aires, gwnaeth Capablanca ymgais arall i drefnu gornest am Bencampwriaeth Y Byd. Gwrthododd Alekhine, gan ddweud fod rhaid iddo fod ar gael i amddiffyn ei famwlad fabwysiedig, Ffrainc, gan fod Yr Ail Ryfel Byd newydd ddechrau.[83] Cyhoeddodd Capablanca o flaen llaw na fyddai'n chwarae Alekhine pe bai eu timau yn cwrdd.[84]

Marwolaeth

golygu
 
Bedd Capablanca ym Mynwent Colon

Ychydig cyn ei farwolaeth, roedd ei orbwysedd gwaed i fyny i'r 200-240/160+ sy'n beryglus iawn. Diwrnod cyn ei strôc angheuol, rhybuddiodd ei arbenigwr fasgwlaidd Dr. Schwarzer ef yn gryf fod ei fywyd mewn perygl oni bai ei fod yn ymlacio'n llwyr, ond dywedodd Capablanca na allai oherwydd bod ei gyn-wraig a'i blant wedi dechrau achos llys yn ei erbyn. Beiodd y meddyg ei farwolaeth ar "y trafferthion a'r poenau hyn". [85]

Ar 7 Mawrth, 1942 tra'n gwylio gêm skittles ac yn sgwrsio â ffrindiau yng nghlwb gwyddbwyll Manhattan yn Ninas Efrog Newydd, gofynnodd am help i dynnu ei got, a llewygodd yn fuan wedyn. Cafodd gymorth cyntaf gan y meddyg enwog Eli Moschcowitz a gyrrwyd am ambiwlans. Aed ag ef i Ysbyty Mynydd Sinai, ond bu farw am 6:00 AM drannoeth. Dim ond blwyddyn ynghynt bu farw Emanuel Lasker yn yr un ysbyty. [86] Rhoddwyd achos ei farwolaeth fel " cerebral hemorrhage a ysgogwyd gan orbwysedd gwaed ", yn enwedig hemorrhage thalamig hypertensive. Dywedodd yr adroddiad derbyniadau i’r ysbyty:

Pan dderbyniwyd i Ysbyty M. Sinai, dangosodd yr archwiliad: Claf yn ddifrifol wael mewn coma dwfn, ddim yn ymateb i ysgogiadau nocioceptive, canhwyllau llygaid anghyfartal gyda'r un chwith wedi ymledu (sefydlog a dim yn ymateb i olau), parlys chwith yr wyneb, hemiplegia chwith, atgyrchau tendinous isel eu hysbryd a thensiwn prifwythiennol 280/140. Perfformiwyd twll meingefnol a ddangosodd hylif serebro-sbinol hemorrhagic (CSF) gyda phwysedd o 500 mm o ddŵr. [87]

Dangosodd yr awtopsi llawn, gan y Meddygon. Moschcowitz, Prill, a Levin, fod y thalmws chwith bron wedi ei ddinistrio yn llwyr, ac yn ei le roedd hematoma 2 fodfedd o led a 2 fodfedd o uchder. Roedd y system fentriglaidd gyfan a'r cisterna magna yn waed i gyd. Roedd y gyri wedi'u gwastatau a'u sulci wedi culhau, sy'n cyd-fynd â blynyddoedd o orbwysedd gwaed eithafol. Roedd ei galon wedi chwyddo, 575 g yn lle'r 300-350 g arferol, gan gynnwys hypertroffedd 3cm yn wal y fentrigl chwith. Roedd gan y wal hon nifer o hemorrhages subendiocardial, a brofwyd yn ddiweddarach i fod yn gyffredin mewn cleifion â gorbwysedd rhyng-greuanol difrifol. Achosodd hyn ryddhau llawer iawn o sylweddau fasoweithredol i'r llif gwaed, gan gynnwys acetylcholin a noradrenalin a achosodd yr hemorrhages hyn. [88] [89]

Roedd y pigiad meingefnol yn syniad drwg, gan fod gorbwysedd mewngreuanol bellach yn wrth-arwyddyn adnabyddus oherwydd ei fod yn rhyddhau pwysedd yr hylif serebro-sbinol gan wrthweithio grym torgestol y gorbwysedd. Ond mae'r niwrolawfeddyg Orlando Hernandez-Meilan wedi dweud na fyddai hyd yn oed y feddyginiaeth fodern orau wedi gallu adfywio Capablanca. [87]

Cafodd Capablanca angladd gyhoeddus ym Mynwent Colon Hafana ar 15 Mawrth, 1942. [85]

Teyrngedau

golygu

Ysgrifennodd Alekhine mewn teyrnged i Capablanca: “Cafodd Capablanca ei gipio o’r byd gwyddbwyll yn llawer rhy gynnar. Gyda'i farwolaeth, rydym wedi colli athrylith gwych, ac ni chawn weld neb tebyg iddo eto." [27] Dywedodd Lasker unwaith: "Rwyf wedi adnabod llawer o chwaraewyr gwyddbwyll, ond dim ond un athrylith gwyddbwyll: Capablanca." [90]

Cynhelir twrnamaint Coffa Capablanca yn flynyddol yng Nghiwba, gan amlaf yn Hafana, ers 1962. [91]

Asesiad

golygu

Arddull a chryfder chwarae

golygu

Fel oedolyn, dim ond 34 o gemau go iawn a gollodd Capablanca. [86] Bu'n ddiguro o 10 Chwefror, 1916, pan gollodd i Oscar Chajes yn nhwrnamaint Efrog Newydd 1916, hyd at 21 Mawrth, 1924, pan gollodd i Richard Réti yn nhwrnamaint Rhyngwladol Efrog Newydd . Yn ystod y rhediad hwn, a oedd yn cynnwys gornest am Bencampwriaeth y Byd ym 1921 yn erbyn Lasker, chwaraeodd 63 gêm, gan ennill 40 gyda 23 yn gyfartal. [47] [92] Mewn gwirionedd, dim ond Marshall, Lasker, Alekhine a Rudolf Spielmann enillodd ddwy gêm neu fwy yn erbyn y Capablanca aeddfed, ond ym mhob achos, roedd eu sgoriau dros oes yn negyddol (curodd Capablanca Marshall +20−2=28, Lasker +6 -2 =16, Alekhine +9−7=33), ac eithrio Spielmann oedd yn gyfartal (+2−2=8). [93] O’r chwaraewyr gorau, dim ond Keres gafodd sgôr cadarnhaol bach yn ei erbyn (+1−0=5). [94] Daeth buddugoliaeth Keres yn nhwrnamaint gwyddbwyll AVRO 1938, pan ddathlodd Capablanca ei ben-blwydd yn hanner cant, tra bod Keres yn 22. [95]

Mae systemau graddio ystadegol yn gosod Capablanca yn uchel ymhlith y chwaraewyr gorau erioed. Mae llyfr Nathan Divinsky a Raymond Keene Warriors of the Mind (1989) yn ei osod yn bumed, y tu ôl i Garry Kasparov, Anatoly Karpov, Bobby Fischer a Mikhail Botvinnik — ac o flaen Emanuel Lasker. [96] Yn ei lyfr ym 1978 The Rating of Chessplayers, Past and Present, rhoddodd Arpad Elo sgoriau ôl-weithredol i chwaraewyr yn seiliedig ar eu perfformiad dros gyfnod pum mlynedd gorau eu gyrfa. Dywed mai Capablanca oedd y cryfaf o’r rhai a arolygwyd, gyda Lasker a Botvinnik yn gydradd ail [97] Mae 'Chessmetrics' (2005) braidd yn sensitif i hyd y cyfnodau sy'n cael eu cymharu, ac yn gosod Capablanca rhwng y trydydd a'r pedwerydd cryfaf erioed ar gyfer cyfnodau brig yn amrywio mewn hyd o un i bymtheg mlynedd. [98] Daeth ei awdur, yr ystadegydd Jeff Sonas, i'r casgliad bod Capablanca wedi cael mwy o flynyddoedd yn y tri uchaf nag unrhyw un heblaw Lasker, Karpov a Kasparov - er bod Alekhine wedi cael mwy o flynyddoedd yn y ddau safle uchaf. [99] Canfu astudiaeth yn 2006 mai Capablanca oedd y mwyaf cywir o holl Bencampwyr y Byd o'i gymharu â dadansoddiad cyfrifiadurol o gemau Pencampwriaeth y Byd. [100] [101] Beirniadwyd y dadansoddiad hwn am ddefnyddio rhaglen gwyddbwyll ail reng, Crafty, a addaswyd i gyfyngu ei gyfrifiadau i chwe symudiad bob ochr, ac am ffafrio chwaraewyr a oedd gyda arddull sy'n cyfateb i arddull y rhaglen; [102] fodd bynnag canfu dadansoddiad cyfrifiadurol 2011 gan Bratko a Guid gan ddefnyddio'r peiriannau cryfach Rybka 2 a Rybka 3 ganlyniadau tebyg i ddadansoddiad Crafty 2006 ar gyfer Capablanca. [103]

Ystyriau Boris Spassky, Pencampwr y Byd rhwng 1969 a 1972, mai Capablanca oedd y chwaraewr gorau erioed. [104] Roedd Bobby Fischer, Pencampwr o 1972 i 1975, yn edmygu "cyffyrddiad ysgafn" Capablanca a'i allu i weld y symudiad cywir yn gyflym iawn. Dywedodd Fischer fod aelodau hŷn Clwb Gwyddbwyll Manhattan yn y 1950au yn siarad gyda pharch mawr am ei berfformiadau. [105]

Roedd Capablanca'n rhagori mewn sefyllfaoedd syml ac yn y diweddglo, ac roedd ei farn lleoliadol yn rhagorol, i'r fath raddau fel bod y rhan fwyaf o'r ymdrechion i ymosod yn ei erbyn yn dod i ddim heb unrhyw ymdrech amddiffynnol ar ei ran. Ond fe allai chwarae gwyddbwyll tactegol gwych pan oedd angen—yn nhwrnamaint Pencampwriaeth clwb gwyddbwyll Manhattan 1918, chwaraeodd Marshall amrywiad agoriadol oedd wedi'i ddadansoddi’n ddwfn o flaen llaw, ond gwrthbrofodd Capablanca yr amrywiad wrth y bwrdd tra'n chwarae o dan yr amseru arferol (er bod ffyrdd wedi’u canfod ers hynny i gryfhau Ymosodiad Marshall). [19] [106] Roedd hefyd yn gallu defnyddio chwarae tactegol ymosodol i droi mantais lleoliadol yn fuddugoliaeth, pan oedd yn ystyried hynny'n ddiogel a'r ffordd fwyaf effeithlon o ennill, er enghraifft yn erbyn Spielmann yn nhwrnamaint Efrog Newydd 1927. [107] [108]

Dylanwad

golygu

Ni chafwyd 'Ysgol Capablanca' fel y cyfryw, ond dylanwadodd ei arddull ar bencampwyr y byd Fischer, Karpov, a Botvinnik. Addysgwyd Alekhine mewn chwarae lleoliadol gan Capablanca cyn i'r frwydr am deitl y byd eu troi'n elynion.

Fel awdur gwyddbwyll, ni chyflwynai Capablanca lawer iawn o ddadansoddiad manwl, ond yn hytrach canolbwyntiau ar yr eiliadau tyngedfennol mewn gêm. Roedd ei arddull ysgrifennu yn blaen ac yn hawdd ei deall. [109] Roedd Botvinnik o'r farn mai llyfr Capablanca Chess Fundamentals oedd y llyfr gwyddbwyll gorau a ysgrifennwyd erioed. [109] Mewn darlith ac yn ei lyfr 'A Primer of Chess' nododd, er bod yr esgob fel arfer yn gryfach na'r Marchog, fod brenhines a marchog fel arfer yn well na brenhines ag esgob, yn enwedig yn y diweddglo lle mae'r esgob ond yn dynwared symudiad lletraws y frenhines, tra gall y marchog gyrraedd sgwariau ar unwaith na all y frenhines. [110] [111] Mae ymchwil yn ansicr ar hyn: yn 2007, ni chanfu Glenn Flear fawr o wahaniaeth, [112] tra ym 1999, ar ôl dadansoddi cronfa ddata fawr o gemau, daeth Larry Kaufman i'r casgliad bod canlyniadau yn ffafrio brenhines a marchog o ychydig. [113] Ysgrifennodd John Watson ym 1998 fod cyfran anarferol o fawr o gemau gyda diweddglo brenhines a marchog yn erbyn brenhines ac esgob yn gorffen yn gyfartal, a bod y rhan fwyaf o gemau a enillwyd yn cael eu nodweddu gan fod yr ochr fuddugol efo un neu fwy o fanteision amlwg yn y gêm benodol honno. [114]

Personoliaeth

golygu

Cafodd Capablanca rywfaint o feirniadaeth, ym enwedig ym Mhrydain, am y disgrifiad ymffrostgar honedig o'i yrfa yn ei lyfr cyntaf, My Chess Career. Yn dilyn hyn rhoddodd bron i bob un o'r gemau gollwyd ganddo yn Chess Fundamentals, ynghyd â rhai o'i fuddugoliaethau addysgiadol. Serch hynny, mae ei ragymadrodd i rifyn 1934 o Chess Fundamentals yn hyderus y "gall y darllenydd felly fynd dros gynnwys y llyfr gyda sicrwydd bod popeth sydd ei angen arno ynddo." [109] Ysgrifennodd Julius du Mont ei fod yn adnabod Capablanca yn dda ac y gallai dystio nad oedd yn ben bach. Ym marn du Mont, dylai beirniaid ddeall y gwahaniaeth rhwng y dawnus yn unig ac athrylith aruthrol Capablanca, a'r cyferbyniad rhwng y duedd Brydeinig tuag at wyleidd-dra a thueddiad Lladinaidd ac Americanaidd i ddweud "Chwaraeais y gêm hon cystal ag y gellid ei chwarae" pan oedd o'r farn bod hynny'n wir. [5] Dywed Capablanca ei hun, yn nodyn yr awdur yn rhagymadrodd My Chess Career : " Ystyriaf balchder yn beth ffôl, ond ffolineb mwy yw'r gwyleidd-dra ffug sydd yn ceisio celu yn ofer be mae pob ffaith yn brofi." Roedd Fischer hefyd yn edmygu'r gonestrwydd hwn. [105] Dywedodd Du Mont fod Capablanca braidd yn sensitif i feirniadaeth, [5] a dangosodd yr hanesydd gwyddbwyll Edward Winter amryw o enghreifftiau o hunanfeirniadaeth yn My Chess Career . [109]

Er gwaethaf ei orchestion ymddangosai fod gan Capablanca fwy o ddiddordeb mewn pêl fas nag mewn gwyddbwyll, a ddisgrifiodd fel "ddim yn gêm anodd i ddysgu ac yn gêm bleserus i chwarae." [115] Meddyliau ei ail wraig, Olga, ei fod yn digio bod gwyddbwyll wedi cymryd drosodd ei fywyd, ac na chafodd gyfle i astudio cerddoriaeth neu feddygaeth. [55]

Gwyddbwyll Capablanca

golygu
abcdefghij
8          8
7          7
6          6
5          5
4          4
3          3
2          2
1          1
abcdefghij
Gwyddbwyll Capablanca. Mae'r archesgob (bishop+knight compounds) yn dechrau ar c1/c8; a'r canghellor (rook+knight compounds), ar h1/h8.[116]

Mewn cyfweliad yn 1925, gwadodd Capablanca adroddiadau ei fod yn credu bod gwyddbwyll eisoes wedi cyrraedd ei derfyn ar y pryd oherwydd ei bod yn hawdd i'r chwaraewyr gorau gael gêm gyfartal. Roedd yn bryderus, fodd bynnag, y gallai cyflymu datblygiad techneg gwyddbwyll a gwybodaeth agoriadol achosi marweidd-dra o'r fath mewn hanner can mlynedd. Felly, awgrymodd fabwysiadu bwrdd 10 × 8 gyda dau ddarn ychwanegol bob ochr:

  •   Canghellor sy'n cyfuno symudiadau Castell a Marchog;
  •   Archesgob sy'n cyfuno symudiadau Esgob a Marchog. Byddai'r darn hwn yn gallu danfon checkmate ar ei ben ei hun, na all yr un o'r darnau confensiynol ei wneud, ond ni ellir gorfodi checkmate heb gymorth ei frenin ei hun. Credai y byddai hyn yn atal gwybodaeth dechnegol rhag dod yn ffactor mor flaenllaw, am rai canrifoedd o leiaf. [117]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Archived copy" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 6 Ebrill 2017.CS1 maint: archived copy as title (link)
  2. Miguel A. Sánchez (2015) Jose Raul Capablanca: A Chess Biography. pg 77 ISBN 9781476614991
  3. "Jose Capablanca" (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Chwefror 2015.
  4. Capablanca, J. R. (1916). "How I learned to play chess". Munsey's Magazine. tt. 94–96. Cyrchwyd 27 Ionawr 2020.
  5. 5.00 5.01 5.02 5.03 5.04 5.05 5.06 5.07 5.08 5.09 5.10 5.11 5.12 5.13 5.14 Du Mont, J. (1959). "Memoir of Capablanca". In Golombek, H. (gol.). Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 1–18.
  6. 6.0 6.1 6.2 Reynolds, Q. (2 March 1935). "One Man's Mind". Collier's Weekly. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 January 2000. Cyrchwyd 2 January 2009.
  7. 7.0 7.1 Hooper, D.; Brandreth, D.A. (1994). "The Corzo Match". The Unknown Capablanca. Courier Dover Publications. tt. 116–140. ISBN 0486276147. |access-date= requires |url= (help)
  8. The Bobby Fischer I Knew And Other Stories, by Arnold Denker and Larry Parr, Hypermodern, San Francisco, 1995, p. 5.
  9. Columbia University: José Raúl Capablanca (C250 Celebrates Columbians Ahead of Their Time).
  10. 10.00 10.01 10.02 10.03 10.04 10.05 10.06 10.07 10.08 10.09 10.10 10.11 10.12 10.13 10.14 10.15 10.16 10.17 10.18 10.19 Reinfeld, F. (1990) [1942]. "Biography". The Immortal Games of Capablanca. Courier Dover Publications. tt. 1–13. ISBN 0-486-26333-9.
  11. Hooper, D.; Brandreth, D.A. (1994). "Simultaneous Exhibitions". The Unknown Capablanca. Courier Dover Publications. t. 141. ISBN 0-486-27614-7.
  12. "Chessmetrics Player Profile: Frank Marshall". Cyrchwyd 2 January 2009.
  13. Kasparov, Garry (2003). My Great Predecessors, part I. Everyman Chess. t. 232. ISBN 1-85744-330-6.
  14. 14.0 14.1 Sonas, J. "Chessmetrics Player Profile: José Capablanca". Cyrchwyd 1 June 2009. (select the "Career Details" option)
  15. 15.0 15.1 15.2 15.3 15.4 15.5 15.6 15.7 Golombek, H. (1959). "List of Tournaments and Matches". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 19–20.. Note: Edward Winter gives a list of errors in Golombek's book : Chesshistory document by Edward Winter
  16. "New York 1910". Cyrchwyd 2 January 2009.[dolen farw]
  17. "Chessville vignettes: José Raoul Capablanca y Graupera". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-17. Cyrchwyd 2 January 2009.
  18. David Hooper; Kenneth Whyld (1992). The Oxford Companion to Chess (arg. 2). Oxford: Oxford University Press. t. 67. ISBN 0-19-866164-9.
  19. 19.0 19.1 19.2 19.3 19.4 19.5 19.6 Fine, R. (1952). "José Raúl Capablanca". The World's Great Chess Games. André Deutsch (now as paperback from Dover). tt. 109–121.
  20. Kmoch, H. (1960). Rubinstein's Chess Masterpieces. Dover. tt. 65–67. ISBN 0-486-20617-3.
  21. Hooper & Whyld 1992, pp. 67–68.
  22. Hooper, D.; Brandreth, D. (1975). The Unknown Capablanca. R.H.M. Press. t. 170. ISBN 0890582076.
  23. 23.0 23.1 Marshall, F.J. (1960). Frank J. Marshall's Best Games of Chess. Dover. tt. 19–20. ISBN 0-486-20604-1. Page 19: "My two 1913 tournaments took a curious course. At New York, Capa beat me out by half a point, but a month later I reversed the procedure at Havana." P. 20: Marshall thought the crowd were "after my blood for defeating their idol and asked for an escort to my hotel. It turned out, however, that the good Cubans were just showing their sportsmanship and were cheering me!"
  24. Winter, E.G. (1989). "Rapid ascent". Capablanca chess. McFarland. ISBN 0-89950-455-8.
  25. Hooper & Whyld 1992, p. 68.
  26. Soltis, A. (1975). The Great Chess Tournaments and Their Stories. Chilton Book Company. tt. 96–103. ISBN 0-8019-6138-6.
  27. 27.0 27.1 27.2 27.3 Alekhine, A.; Winter, E.G. (1980). 107 Great Chess Battles'. Dover. tt. 157–158. ISBN 0-486-27104-8. Cyrchwyd 2009-06-02.
  28. Using average incomes for the conversion; if average prices are used, the result is about £66,000. "Five Ways to Compute the Relative Value of a U.K. Pound Amount, 1830–2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2016. Cyrchwyd 9 June 2008.
  29. 29.0 29.1 29.2 Golombek, H. (1959). "On the Way to the World Championship". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 59–86.
  30. "The Total Marshall". 15 April 2002. Cyrchwyd 1 June 2009.
  31. Winter, E.G. "The Marshall Gambit". Cyrchwyd 1 June 2009.
  32. Silman, J. (2004). "Marshall Attack". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 April 2012. Cyrchwyd 1 June 2009.
  33. Winter, E. (1981). World Chess Champions. Pergamon Press. t. 58. ISBN 0-08-024094-1.
  34. 34.0 34.1 34.2 Winter, Edward (1939). "Capablanca Interviewed". El Gráfico. http://www.chesshistory.com/winter/extra/capablanca11.html. Adalwyd 3 June 2009.
  35. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw WinterHowCapaBecameChampion
  36. Fine, R. (1976). "The Age of Capablanca". The World's Great Chess Games (arg. 2nd). Dover (first edition published by André Deutsch in 1952). t. 109.
  37. 37.0 37.1 Vladimir Kramnik. "Kramnik Interview: From Steinitz to Kasparov". Kramnik.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 May 2008. Cyrchwyd 2 January 2009.
  38. Hooper, D.; Whyld, K. (1992). The Oxford Companion to Chess (arg. 2nd). Oxford University Press. tt. 67, 217. ISBN 0-19-866164-9.
  39. Golombek, H., gol. (1977). Golombek's Encyclopedia of Chess. Crown Publishers. tt. 58, 172. ISBN 0-517-53146-1.
  40. B. M. Kazić (1974). International Championship Chess: A Complete Record of FIDE Events. Pitman. t. 218. ISBN 0-273-07078-9.
  41. 41.0 41.1 Golombek, H. (1959). "World Champion". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 60–114.
  42. Using incomes for the conversion; if prices are used, the result is about $103,000. "Six Ways to Compute the Relative Value of a U.S. Dollar Amount, 1774 to Present". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 March 2016. Cyrchwyd 9 June 2008.
  43. Winter, E.G. "The London Rules". Cyrchwyd 1 June 2009.
  44. Clayton, G. "The Mad Aussie's Chess Trivia: Archive #3". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 May 2008. Cyrchwyd 9 June 2008.
  45. 45.0 45.1 "Jose Raul Capablanca: Online Chess Tribute". Chessmaniac.com. 28 June 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-13. Cyrchwyd 20 May 2008.
  46. Damsky, Yakov (2005). The Batsford Book of Chess Records. London: Batsford. t. 253. ISBN 0-7134-8946-4.
  47. 47.0 47.1 34 losses out of 571 games, according to Young, M.C. (1998). Guinness Book of World Records, 1999 (arg. 26). Bantam Books. t. 117. ISBN 0-553-58075-2. Edward Winter quotes page 565 of the 1988 edition, which does not include the number of games – "Chess Records". Cyrchwyd 2 January 2009.
  48. 48.0 48.1 48.2 Golombek, H. (1959). "Victory and Disaster". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 115–147.
  49. "Jose Raul Capablanca". Chesscorner.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-08. Cyrchwyd 23 May 2008.
  50. 50.0 50.1 50.2 Cree, G. "1927 World Chess Championship". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 January 2005. Cyrchwyd 2 June 2009.
  51. Alekhine, A. (1960). My Best Games of Chess 1924–1937 (arg. 2). Bell. tt. 38–53.
  52. Reti, R. "Introduction". In Tartakower, S.; Leach, C. (gol.). New York 1927. |access-date= requires |url= (help)
  53. Alekhine, A. (1960). My Best Games of Chess 1924–1937 (arg. 2). Bell. tt. 28–33.
  54. 54.0 54.1 Winter, E.G. (1990). "5: Champion". Capablanca: A Compendium ... McFarland. ISBN 0-89950-455-8.
  55. 55.0 55.1 55.2 55.3 Winter, E.G. "The Genius and the Princess". Cyrchwyd 2 June 2009.
  56. Byrne, R. (21 December 1984). "Chess title match to become longest one in modern era". The New York Times. https://www.nytimes.com/1984/12/21/nyregion/chess-title-match-to-become-longest-one-in-modern-era.html. Adalwyd 3 June 2009.
  57. 57.0 57.1 Fine, Reuben (1952). "Alexander Alexandrovitch Alekhine". The World's Great Chess Games. André Deutsch (now as paperback from Dover). tt. 149–162.
  58. Pachman, L.; Russell, A.S. (1971). "Individual Style: Psychological Play". Modern chess strategy. Courier Dover. tt. 306. ISBN 0-486-20290-9. Cyrchwyd 2 June 2009.
  59. Kasparov, G.; Russell, H.W. (28 July 2003). "Interview with Garry Kasparov: Part 2" (PDF). Cyrchwyd 3 June 2009.
  60. Pachman, L. (1987). "World Championship 1927: Why Did Alekhin Win?". Decisive Games in Chess History. Courier Dover. tt. 86–90. ISBN 0-486-25323-6.
  61. Alekhine described the game as a "comedy of errors", and included it in his "Best Games" collection only because it was "the crucial point of the match": Alekhine, A. (1960). My Best Games of Chess 1924–1937 (arg. 2). Bell. tt. 41–45.
  62. Winter, E. "Capablanca v Alekhine, 1927". Cyrchwyd 9 June 2008. Regarding a possible "two-game lead" clause, Winter cites Capablanca's messages to Julius Finn and Norbert Lederer, dated 15 October 1927, in which he proposed that, if the Buenos Aires match were drawn, the second match could be limited to 20 games. Winter cites La Prensa 30 November 1927 for Alekhine's conditions for a return match.
  63. Fine, R. (1983) [1958]. Lessons from My Games: A Passion for Chess. Dover. t. 80. ISBN 0-486-24429-6.
  64. 64.0 64.1 Golombek, H. (1959). "Attempts at Rehabilitation". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 148–170.
  65. Fine, Reuben (1952). "Max Euwe". The World's Great Chess Games. André Deutsch (now as paperback from Dover). tt. 192–200.
  66. Fine, Reuben (1952). "Isaac Kashdan". The World's Great Chess Games. André Deutsch (now as paperback from Dover). tt. 175–179.
  67. Golombek, H. (1959). "1929 – A Rich Year". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 171–202.
  68. 68.0 68.1 68.2 68.3 Golombek, H. (1959). "Prelude to Retirement". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 171–202.
  69. Sona, J. "Chessmetrics Player Profile: Max Euwe". Chessmetrics.com. Cyrchwyd 3 June 2009.
  70. 70.0 70.1 Winter, E.G. "Capablanca's clean sweep". Cyrchwyd 3 June 2009. Based on reports in: American Chess Bulletin, January 1934, page 15; The New York Times, 7 December 1933, page 31.
  71. Han interviews Dutchman Max Euwe and Capablanca, Dutch Public Broadcasting archives, 18 May 2012
  72. Sonas, J. "Event Details: AVRO, 1938". Chessmetrics. Cyrchwyd 4 June 2009.
  73. 73.0 73.1 73.2 73.3 Golombek, H. (1959). "Triumphant Return". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 203–249.
  74. Fine, R. (1976). "The Age of Lasker". The World's Great Chess Games (arg. 2nd). Dover (first edition published by André Deutsch in 1952). t. 51. ISBN 0-486-24512-8.
  75. Winter, E.G. (1989). "Rapid ascent". Capablanca chess. McFarland. ISBN 0-89950-455-8., p. 279.
  76. Hannak, J. (1959). Emanuel Lasker: The Life of a Chess Master. Simon and Schuster. tt. 284, 297.
  77. Fine, R. (1976). "The Age of Lasker". The World's Great Chess Games (arg. 2nd). Dover (first edition published by André Deutsch in 1952). t. 50. ISBN 0-486-24512-8.
  78. Golombek, H. (1959). "The Final Phase". Capablanca's Hundred Best Games of Chess. G. Bell & Sons. tt. 250–267.
  79. Winter, E. "World Championship Disorder". Cyrchwyd 15 September 2008.
  80. "AVRO 1938". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 October 2008. Cyrchwyd 15 September 2008.
  81. Capablanca's Death, chesshistory.com.
  82. "3rd Chess Olympiad: Hamburg 1930". Cyrchwyd 23 May 2008.
  83. Winter, E.G. "4696. Capablanca and Alekhine in Buenos Aires, 1939". Cyrchwyd 3 June 2009. See also Winter, E.G. "4742. Capablanca and Alekhine in Buenos Aires, 1939 (C.N. 4696)". Cyrchwyd 3 June 2009.
  84. Winter, E.G. "4696. Capablanca and Alekhine in Buenos Aires, 1939". Cyrchwyd 3 June 2009.
  85. 85.0 85.1 Winter, E.G. "Capablanca's Death". Cyrchwyd 4 June 2009.
  86. 86.0 86.1 Edward Winter, gol. (1981). World Chess Champions. Pergamon Press. t. 64. ISBN 0-08-024094-1.
  87. 87.0 87.1 Miguel Angel Sánchez (2015). Jose Raul Capablanca: A Chess Biography, Jefferson, North Carolina: McFarland & Company, p. 490.
  88. Hernandez-Meilan, O.; Hernandez-Meilan, M.; Machado-Curbelo, C. (1998). "Capablanca's stroke: An early case of neurogenic heart disease. Cuban-world-champion of chess 1921–1927". Journal of the History of the Neurosciences 7 (2): 137–140. doi:10.1076/jhin.7.2.137.1866. PMID 11620526. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/11620526.
  89. Koskelo, P.; Punsar, S.; Sipilä, W. (1964). "Subendocardial Haemorrhage and E.C.G. Changes in Intracranial Bleeding". British Medical Journal 1 (5396): 1479–1480. doi:10.1136/bmj.1.5396.1479. PMC 1814701. PMID 14132084. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1814701.
  90. Jose Raul Capablanca Archifwyd 2023-06-02 yn y Peiriant Wayback, ChessGames.com. Retrieved on 14 January 2021
  91. "All Capablanca Memorial chess tournaments". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 October 2009. Cyrchwyd 4 June 2009.
  92. Soltis, A. (2002). Chess Lists, Second Edition. McFarland. tt. 42–43. ISBN 0-7864-1296-8.
  93. "CHESSGAMES.COM * Chess game search engine". chessgames.com. Cyrchwyd 12 June 2020.
  94. Capablanca–Keres games. ChessGames.com. Retrieved on 2 June 2009.
  95. A.V.R.O. 1938, British Chess Magazine, pp. xiii, 1.
  96. Keene, Raymond; Divinsky, Nathan (1989). Warriors of the Mind. Brighton, UK: Hardinge Simpole. See the summary list at "All Time Rankings". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 November 2009. Cyrchwyd 21 November 2008.
  97. Elo, A. (1978). The Rating of Chessplayers, Past and Present. Arco. ISBN 0-668-04721-6. The URL provides greater detail, covering 47 players whom Elo rated, and notes that Bobby Fischer and Anatoly Karpov would have topped the list if the 1 January 1978 FIDE ratings had been included – the FIDE ratings use Elo's system.
  98. "Peak Average Ratings: 1 year peak range". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 March 2012. Cyrchwyd 10 June 2008."Peak Average Ratings: 5 year peak range". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 March 2012. Cyrchwyd 10 June 2008."Peak Average Ratings: 10 year peak range". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 March 2012. Cyrchwyd 10 June 2008."Peak Average Ratings: 15 year peak range". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 March 2012. Cyrchwyd 10 June 2008.
  99. Sonas, J. (2005). "The Greatest Chess Player of All Time – Part IV". Chessbase.com. Cyrchwyd 19 November 2008. Part IV gives links to all three earlier parts.
  100. Guid, Matej; Bratko, Ivan (June 2006). "Computer Analysis of World Chess Champions". ICGA Journal 29 (2): 65–73. doi:10.3233/ICG-2006-29203. http://chessbase.com/newsdetail.asp?newsid=3455. Adalwyd 7 January 2015.
  101. Guid, M.; Bratko, I. (30 December 2006). "Computers choose: who was the strongest player?". Chessbase. Cyrchwyd 1 June 2009.
  102. Riis, S. (2006). "Review of "Computer Analysis of World Chess Champions"". Chessbase. Cyrchwyd 2 January 2009.
  103. Bratko and Guid. (2011). "Review of "Computer Analysis of World Chess Champions"". Chessbase. Cyrchwyd 11 November 2011.
  104. Chess Canada magazine, February 2008, p. 13.
  105. 105.0 105.1 "Fischer on Icelandic Radio" (yn Saesneg). Chessbase. 4 Tachwedd 2006. Cyrchwyd 18 Mehefin 2009.
  106. "Jose Raul Capablanca vs Frank James Marshall, New York 1918". chessgames.com. A page where you can play through the game (no annotation)
  107. Golombek, H. (1947). Capablanca's 100 Best Games of Chess. Bell.
  108. "Jose Raul Capablanca vs Rudolf Spielmann, New York 1927". Chessgames.com. A page where you can play through the game (no annotation)
  109. 109.0 109.1 109.2 109.3 Winter, E. (1997). "Capablanca Goes Algebraic".
  110. Winter, Edward. "A Lecture by Capablanca". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 January 2013. Cyrchwyd 30 May 2010.
  111. Capablanca, José (2002). "Synthesis of General Theory". A Primer of Chess. Houghton Mifflin Harcourt. t. 202. ISBN 0-15-602807-7. |access-date= requires |url= (help)
  112. Flear, Glenn (2007). Practical Endgame Play – beyond the basics: the definitive guide to the endgames that really matter. Everyman Chess. tt. 422–23. ISBN 978-1-85744-555-8.
  113. Kaufman, L. (March 1999). "The Evaluation of Material Imbalances". Chess Life. http://home.comcast.net/~danheisman/Articles/evaluation_of_material_imbalance.htm. Adalwyd 1 June 2009.
  114. Watson, John (1998). Secrets of Modern Chess Strategy: Advances Since Nimzowitsch. Gambit Publications. t. 73. ISBN 1-901983-07-2.
  115. Reynolds. Q. (2 March 1935). "One Man's Mind". Collier's Magazine. http://www.chessarch.com/excavations/0017_capablanca/capablanca.shtml. Adalwyd 2 May 2008.
  116. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Trice2004-80SqChess
  117. Winter, E.G. "Capablanca on Moscow" (yn Saesneg). Cyrchwyd 4 Mehefin 2009.