José Vasconcelos
Llenor, athronydd, gwleidydd, ac addysgwr o Fecsico oedd José Vasconcelos (28 Chwefror 1882 – 30 Mehefin 1959).[1]
José Vasconcelos | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1881, 27 Chwefror 1882 Oaxaca |
Bu farw | 30 Mehefin 1959 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Mecsico |
Galwedigaeth | llenor, athronydd, gwleidydd, academydd, cyfreithiwr |
Swydd | gweinidog addysg |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Partido Nacional Antirreeleccionista |
Gwobr/au | Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X |
Ganwyd yn Oaxaca de Juárez, Oaxaca, yn ne Mecsico. Mynychodd yr Escuela Nacional Preparatoria yn Ninas Mecsico. Dechreuodd astudio'r gyfraith yn yr Escuela de Jurisprudencia yn 1905, ac yno Vasconcelos oedd un o sefydlwyr yr Ateneo de la Juventud, cymdeithas o ddeallusion ifainc, yn 1909. Bu'r grŵp honno yn arwain y mudiad deallusol yn erbyn positifiaeth llywodraeth Porfirio Díaz, a fu'n Arlywydd Mecsico yn y cyfnodau 1877–80 a 1884–1911.
Yn ystod Chwyldro Mecsico (1910–20), ymgyrchodd Vasconcelos dros achos Francisco I. Madero a'r cadfridog Pancho Villa erbyn lluoedd Díaz. Gwrthododd Vasconcelos swydd yn llywodraeth Madero (1911–13), ond fe ymunodd â'r frwydr yn erbyn yr Arlywydd Victoriano Huerta (1913–14) yn sgil llofruddiaeth Madero. Wedi buddugoliaeth y chwyldroadwyr, ymunodd Vasconcelos â llywodraeth Álvaro Obregón yn rheithor Prifysgol Genedlaethol Ymreolus Mecsico (UNAM) o 1920 i 1921 ac yn weinidog addysg o 1921 i 1924.[2] Cychwynnodd ar raglen i ddiwygio ysgolion cyhoeddus y wlad ac i hyfforddi athrawon yng nghefn gwlad. Cefnogodd mudiad y murlunwyr a chomisiynwyd sawl arlunydd o fri i baentio murluniau didactig mewn adeiladau cyhoeddus.[1] Gorchmynnwyd argraffiadau rhad o glasuron llenyddol ar raddfa eang, lansiodd ymgyrch lythrennedd genedlaethol, a sefydlodd cyfundrefn o lyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Mecsico. Yn ei amser rhydd, golygodd Vasoncelos gyfndoolion megis El maestro a La antorcha ar gyfer athrawon. Gwahoddwyd ffigurau diwylliannol o wledydd eraill America Ladin, gan gynnwys y bardd Tsileaidd Gabriela Mistral a'r ysgrifwr o Weriniaeth Dominica Pedro Henríquez Ureña, i Fecsico i gynorthwyo yn natblygiadau deallusol a chelfyddydol y wlad.[2]
Anghytunodd Vasoncelos â dulliau gorthrymus y llywodraeth, ac ymddiswyddodd o'r cabinet yn 1924. Gadawodd y wlad am gyfnod. Dychwelodd i Fecsico yn 1928, ac ymgyrchodd am yr arlywyddiaeth yn 1929. Collodd yr etholiad, a gadawodd y wlad unwaith eto. Yn y cyfnod hwn trodd yn fwyfwy at safbwyntiau'r adain dde. Dychwelodd yn 1940 i gymryd swydd Cyfarwyddwr y Llyfrgell Genedlaethol, a daliodd y swydd honno am weddill ei oes.[2] Bu farw yn Ninas Mecsico yn 77 oed.
Datblygodd Vasconcelos ffurf newydd ar athroniaeth Ladin-Americanaidd yn ei lyfrau La raza cósmica (1925) ac Indología (1926) sy'n ffafrio dealltwriaeth gyfanfydol yn hytrach na indigenismo. Rhodd yr enw "monyddiaeth esthetaidd" ar y syniadaeth hon o undod cosmig y byd, a mynegir ei athroniaeth gyfan yn glir yn y gyfrol Todología (1952). Dadleuodd dros roi ei syniadau ar waith yn mywyd cymdeithasol Mecsico, drwy gyfuniad o holl ddiwylliannau'r wlad ar sail y bobloedd frodorol, i drosgynnu cyfyngiadau diwylliant y Gorllewin. Ymhlith ei weithiau eraill mae Bolivarismo y Monroismo (1934). Cyhoeddodd ei hunangofiant mewn pum cyfrol: Ulises Criollo (1935), La tormenta (1936), El desastre (1938), El proconsulado (1939), a La flama (1959). Yn ogystal â'i werth llenyddol, mae ei hunangofiant yn ffynhonnell bwysig am hanes cymdeithasol a gwleidyddol Mecsico yn hanner cyntaf yr 20g.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) José Vasconcelos. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Rafael Olea Franco, "Vasconcelos, José" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 589–90.
Darllen pellach
golygu- I. Bar-Lewaw Mulstock,José Vasconcelos: Viday obra (Dinas Mecsico: Clásica Selecta Editora Librera, 1966).
- G. De Beer, José Vasconcelos and His World (Efrog Newydd: Las Américas, 1966).
- C. Fell, José Vasconcelos: Los años del aguila 1920–25 (Dinas Mecsico: UNAM, 1989).
- M. Robles, Entre el poder y las letras: Vasconcelos en sus memorias (Dinas Mecsico: Empresas Editoriales, 1989).]
[[Categori:Athronwyr yr 20fed ganrif o Fecsico]