Gabriela Mistral
Bardd yn yr iaith Sbaeneg, addysgwraig a diplomydd o Tsile oedd Gabriela Mistral (ganwyd Lucila Godoy Alcayaga; 7 Ebrill 1889 – 10 Ionawr 1957). Hi oedd y llenor cyntaf o America Ladin i ennill Gwobr Lenyddol Nobel, ac hynny yn 1945 am "ei barddoniaeth delynegol, a ysbrydolwyd gan emosiynau grymus, sydd wedi gwneud ei henw yn symbol o uchelgeisiau delfrydyddol yr holl fyd Lladin-Americanaidd".[1]
Gabriela Mistral | |
---|---|
Ffugenw | Gabriela Mistral |
Llais | 07 GABRIELA MISTRAL.ogg |
Ganwyd | Lucila de María Godoy Alcayaga 7 Ebrill 1889 Vicuña |
Bu farw | 10 Ionawr 1957 Hempstead |
Dinasyddiaeth | Tsile |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, diplomydd, athro, llenor |
Cyflogwr |
|
Arddull | barddoniaeth |
Tad | Juan Jerónimo Godoy Villanueva |
Perthnasau | Juan Miguel Godoy Mendoza |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Gwobr Genedlaethol am Lenyddiaeth, Chevalier de la Légion d'Honneur |
Gwefan | http://www.gabrielamistral.uchile.cl |
llofnod | |
Ganwyd Lucila Godoy Alcayaga yn Vicuña, Tsile, i deulu o dras Sbaenaidd, Basgaidd, ac Indiaidd. Cafodd ei magu ym mhentref Montegrande, a chafodd swydd athrawes ysgol yn 15 oed. Gweithiodd ym maes addysg drwy gydol ei hoes, tra'n hefyd ysgrifennu a gwasanaethu mewn swyddi llywodraethol. Cyrhaeddodd swydd athrawes coleg a phenodwyd yn gyfarwyddwraig ysgolion gwledig. Cynorthwyodd weinidog addysg Mecsico, José Vasconcelos, wrth ddiwygio ysgolion y wlad honno. Yn ogystal â'i chyfnod yn weinidog diwylliannol Tsile, aeth i Ewrop fel is-gennad ym Madrid, Lisbon, Genoa, a Nice. Bu hefyd yn cynrychioli ei gwlad yng Nghynghrair y Cenhedloedd a'r Cenhedloedd Unedig.
Daeth i sylw fel bardd gyda'i chyfrol gyntaf, Sonetos de la muerte (1914), gwaith a enillodd wobr iddi. Mabwysiadodd y ffugenw Gabriela Mistral, cyfuniad o enwau ei hoff feirdd, Gabriele D'Annunzio a Frédéric Mistral. Mae ei hail lyfr, Desolación (1922), yn cynnwys y gerdd "Dolor" sy'n ymdrin â charwriaeth a ddaeth i ben pan wnaeth ei chariad ladd ei hun. Ni phriododd y bardd, o ganlyniad i'r profiad hwn.[2] Ymhlith ei chasgliadau eraill o farddoniaeth mae Ternura (1924), Tala (1938), a Lagar (1954).
Bu farw yn Hempstead, Efrog Newydd, yn 67 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1945", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 25 Mehefin 2019.
- ↑ (Saesneg) Gabriela Mistral. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Mehefin 2019.
Darllen pellach
golygu- Marjorie Agosín (gol.), Gabriela Mistral: The Audacious Traveler (Athens, Ohio: Ohio University Press, 2003).
- Ciro Alegría, Gabriela Mistral íntima (Lima: Editorial Universo, 1968).
- Fernando Alegría, Genio y figura de Gabriela Mistral (Buenos Aires: Editorial Universitaria de Buenos Aires, 1966).
- Margot Arce de Vázquez, Gabriela Mistral, the Poet and Her Work, cyfieithwyd gan Helene Masslo Anderson (Efrog Newydd: New York Universities Press, 1964).
- Jaime Concha, Gabriela Mistral (Madrid: Jńcar, 1987).
- María Luisa Daigre, Gabriela escondida: Una lectura de doce poemas de Tala (Santiago: Ril, 2005).
- Santiago Daydí-Tolson, El ultimo viaje de Gabriela Mistral (Santiago: Aconcagua, 1989).
- Ariel Fernández, Los Andes, Gabriela Mistral y mis padres (1912-1918) (Santiago: Tamurugal, 2005).
- Licia Fiol-Matta, A Queer Mother for the Nation: The State and Gabriela Mistral (Minneapolis: University of Minnesota Press, 2002).
- Harriet Alejandro Gumucio, Gabriela Mistral y el premio Nobel (Santiago: Nascimento, 1946).
- Matilde Ladrón de Guevara, Gabriela Mistral, rebelde magní ica (Buenos Aires: Losada, 1962).
- Sergio Macías, Gabriela Mistral, o, Retrato de una peregrina (Madrid: Tabla Rasa, 2005).
- Susana Munnich, Gabriela Mistral: Soberbiamente transgre sora (Santiago: LOM, 2005).
- Ana Pizarro, Gabriela Mistral: El proyecto de Lucila (Santiago: LOM, 2005).
- Grínor Rojo, Dirán que está en la gloria (Mistral) (Santiago: Fondo de Cultura Económica, 1997).
- Isauro Santelices E., Mi encuentro con Gabriela Mistral, 1912-1957 (Santiago: Editorial de Pacífico, 1972).
- Martín C. Taylor, Gabriela Mistral’s Religious Sensibility (Berkeley: University of California Press, 1968).
- Volodia Teitelboim, Gabriela Mistral, pńblica y secreta: Truenos y silencios en la vida del primer Nobel latinoamericano (Santiago: BAT, 1991; adolygwyd, Santiago: Editorial Sudamericana, 2003).
- Lila Zemborain, Gabriela Mistral: Una mujer sin rostro (Rosario: Beatriz Viterbo Editora, 2002).