Joseph Justus Scaliger
Ieithegwr ac hanesydd o Ffrainc oedd Joseph Justus Scaliger (5 Awst 1540 – 21 Ionawr 1609) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau arloesol at amseryddiaeth.
Joseph Justus Scaliger | |
---|---|
Portread o Joseph Justus Scaliger | |
Ffugenw | I. R. Batavus, Joannes Rutgers, Yvo Villiomarus, Nicolas Vincent, Nicolaus Vincentius |
Ganwyd | Joseph Juste Scaliger 5 Awst 1540 Agen |
Bu farw | 21 Ionawr 1609 Leiden |
Man preswyl | Bordeaux, Paris, Genefa, Leiden |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Ffrainc, Gweriniaeth yr Iseldiroedd |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | hanesydd, llenor, archeolegydd, cyfieithydd, academydd, ysgolhaig clasurol, bardd, nwmismatydd, ieithegydd, chronologist |
Swydd | athro prifysgol |
Cyflogwr | |
Tad | Julius Caesar Scaliger |
Ganed ef yn Agen,[1] tref ar lan Afon Garonne, yn Nheyrnas Ffrainc, yn ddegfed plentyn i'r meddyg ac athronydd Eidalaidd Julius Caesar Scaliger, a'i wraig o Ffrances. Derbyniodd elfennau cyntaf ei addysg gan ei dad. Pan yn 11 oed anfonwyd ef, ynghyd â'i ddau frawd, i Goleg Bordeaux, lle y llafuriodd yn bennaf i ddysgu'r iaith Ladin. Torrodd pla allan yn y dref, a dychwelodd yntau adref i Agen. Cymerodd ei dad eilwaith ofal ei addysg, a gorfododd ef i ysgrifennu traethawd Lladin ar ryw fater hanesyddol bob dydd, a thrwy'r ymarferiad hwn daeth y dyn ieuanc yn berffaith gyfarwydd â'r iaith honno. Weithiau, gosodai ei dad ef ar waith i ysgrifennu rhai o'i gyfansoddiadau barddonol ef ei hun, yr hyn a fu yn foddion i greu yn y bachgen hoffter at farddoniaeth; a chyn bod yn 16 oed gwnaeth gais i gyfansoddi treisgan ar stori'r Brenin Oedipus. Pan oedd yn 19 oed, bu farw ei dad, ac wedi hynny aeth yntau i Baris, lle yr ymroddodd i astudio'r iaith Roeg. Ar y cyntaf, aeth i wrando ar ddarlithiau'r clasurydd Adrianus Turnebus, ond pan y deallodd y gallai wneuthur mwy o gynnydd wrth astudio wrtho'i hun, cyfyngodd ei hun i'w ystafell, a dechreuodd ddarllen yr awduron Groegaidd. Dechreuodd gyda Homeros, ac mewn dwy flynedd, y rhai a dreuliwyd ganddo mewn neilltuaeth fawr, yr oedd wedi darllen ymron yr holl feirdd a rhyddieithwyr Groegaidd enwog. Yna fe drodd ei sylw at ieithoedd dwyreiniol, y rhai hefyd a ddysgwyd ganddo wrtho'i hun: yr Hebraeg, y Syrieg, a'r Berseg. Daeth yn fuan i allu ymffrostio y medrai siarad 13 o ieithoedd, hen a diweddar, a'r fath oedd ei ymroddiad i'w efrydiau y pryd hwn fel nad oedd yn caniatáu iddo'i hun ond ychydig o oriau i gysgu bob nos, a byddai am ddyddiau yn olynol yn eistedd i ddarllen, heb o'r bron gymryd amser i fwyta.
Nid oes ond ychydig iawn yn wybyddus am ddigwyddiadau bywyd Scaliger o'r blynyddoedd 1565 hyd 1593, ond iddo fod yn teithio cryn lawer, ac yn ymweld â phrifysgolion Ffrainc, yr Almaen, a'r Alban. Tybir iddo deithio yn yr Eidal hefyd. Yn ystod yr amser hwn y gadawodd efe Eglwys Rhufain, ac y daeth i broffesu Protestaniaeth, yr hyn, debygid, oedd y rheswm na chafodd efe un swydd gyhoeddus yn Ffrainc. Ym 1593, gwahoddwyd ef i gymryd cadair ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Leiden, lle y treuliodd y gweddill o'i oes. Yr oedd efe yn un o'r amryw o ddysgedigion mawrion a ystyrir hyd heddiw yn brif addurniadau Prifysgol Leiden, ac ymhlith ei ddisgyblion yr oedd ei gyfaill Hugo Grotius. Nid llawer o ddigwyddiadau cyffrous y gwyddys amdanynt mewn cysylltiad â'i fywyd yn Holand. Yn wir, ymddengys ei fod wedi ei lyncu i fyny gan ei efrydiau, fel nad oedd yn talu ond ychydig iawn o sylw i achosion bywyd cyffredin, a threuliai lawer o ddyddiau yn ei fyfyrgell, heb o'r bron feddwl am gymryd lluniaeth, a dywedir ei fod weithiau yn hynod o dlawd. Cynigiodd amryw bersonau o radd uchel, y rhai a edmygent ei dalent a'i ddysg, ei gynorthwyo yn ei amgylchiadau cyfyng, ond yr oedd yn rhy falch i dderbyn unrhyw rodd. Ni bu erioed yn briod. Ymddengys ei fod yn debyg o ran ei gymeriad i'w dad, oherwydd yr oedd yn hynod falch, ac fel yntau, efe a ymddygai tuag at ei wrthwynebwyr llenyddol gyda dirmyg. Bu farw Scaliger o'r dyfrglwyf yn Leiden yn 68 oed.[2]
Fel beirniad, saif yn uchel iawn, ac ychydig ydyw nifer y dysgedigion y gellir eu cymharu ag ef. Y mae rhai o'i ysgrifeniadau hyd heddiw yn cynhyrchu syndod ac edmygedd ar gyfrif y ddysgeidiaeth anarferol a amlygir ynddynt, wedi ei uno â synnwyr a chraffter digymar ymron. Er ei fod yn ei feirniadaeth ar eiriau, ac yn ei welliadau a'i ddyfaliadau,, yn fynych yn rhy eofn a mympwyol, eto y mae'r oll a wnaeth yn dwyn argraff ei athrylith fawr, ac nid yn fynych y gwna ei hun yn agored i'r cyhuddiad o anghywirdeb. Y pennaf o weithiau Scaliger ydyw ei 'De Emendatione Temporum, yr hwn sydd yn cynnwys cyfundrefn o amseryddiaeth wedi ei threfnu ar egwyddorion sefydlog, a enillodd y gwaith hwn iddo y teitl o dad y wyddor o amseryddiaeth. Rhifai ymysg ei gyfeillion ddysgedigion pennaf ei ddydd, megis Lipsius, Isaac Casaubon, Grotius, Heinsius, Claude a Pierre Dupuy, Saumaise, Vossius, Velser, a Pierre Pithou.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Magne Saebo; Christianus Brekelmans (1996). Hebrew Bible / Old Testament. III: From Modernism to Post-Modernism. Part I: The Nineteenth Century - a Century of Modernism and Historicism (yn Saesneg). Isd. t. 315.
- ↑ Schneiders, Marc (1992). Celtic studies in the Netherlands : a bibliography (yn Saesneg). Dublin: School of Celtic Studies, Dublin Institute for Advanced Studies. t. 71. ISBN 9781855001565.