Juho Kusti Paasikivi
Gwleidydd a diplomydd o'r Ffindir oedd Juho Kusti Paasikivi (27 Tachwedd 1870 – 14 Rhagfyr 1956) a wasanaethodd yn Brif Weinidog y Ffindir ddwywaith, ym 1918 ac o 1944 i 1946, ac yn Arlywydd y Ffindir o 1946 i 1956. Cafodd ran flaenllaw a dylanwadol yn hanes y Ffindir yn yr 20g, fel aelod seneddol ym mlynyddoedd olaf Uchel Ddugiaeth y Ffindir, prif weinidog yn y weriniaeth annibynnol yn sgil y rhyfel cartref (1918), llysgennad i Sweden (1936–39) ac yna'r Undeb Sofietaidd (1940–41—y cyfnod rhwng Rhyfel y Gaeaf a Rhyfel y Parhad), prif weinidog eto ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ac yn bwysicach oll olynydd Carl Mannerheim yn yr arlywyddiaeth am ddeng mlynedd gyntaf y Rhyfel Oer, pan osododd sail i bolisi tramor niwtral (a elwir Athrawiaeth Paasikivi–Kekkonen) a fyddai'n parhau hyd at gwymp yr Undeb Sofietaidd.
Juho Kusti Paasikivi | |
---|---|
Ffotograff o Juho Kusti Paasikivi. | |
Ganwyd | Johan Gustaf Hellstén 27 Tachwedd 1870 Hämeenkoski |
Bu farw | 14 Rhagfyr 1956 Helsinki |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia (1870–1917) Teyrnas y Ffindir (1918–19) Y Ffindir (1919–56) |
Addysg | doethur yn y ddwy gyfraith |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, diplomydd, cyfreithiwr, banciwr |
Swydd | member of the Parliament of Finland, Arlywydd y Fffindir, Prif Weinidog y Ffindir, member of the Parliament of Finland, Prif Weinidog y Ffindir |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | National Coalition Party, Finnish Party |
Tad | Aukusti Hellsten |
Mam | Karoliina Vilhelmiina |
Priod | Alli Paasikivi, Anna Paasikivi |
Plant | Annikki Paasikivi |
Gwobr/au | Urdd Lenin, Urdd yr Eliffant, Urdd Brenhinol y Seraffim, Uwch Swyddog y Lleng Anrhydedd, Marchog Uwch Groes gyda Choler Urdd Sant Olav, Cross of Liberty, 1st Class, Cross of Liberty, 1st Class with star, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir gyda Choler, Grand Cross of the Order of the Lion of Finland, Grand Cross of the Order of the Cross of Liberty, Urdd Santes Anna, Ail Ddosbarth, Urdd Sant Anna, Ail Ddosbarth, Iron Cross on white ribbon, Uwch Groes Urdd y Goron, Urdd Seren y Gogledd - Cadlywydd y Groes Uwch, Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir, Grand Cross with Collar of the Order of the Falcon, Finnish Olympic Cross of Merit, First Class |
llofnod | |
Cyd-destun
golyguGaned ef yn neheubarth y Ffindir, a oedd ar y pryd yn rhan o Ymerodraeth Rwsia. Astudiodd y gyfraith ac ym 1903 cychwynnodd ar yrfa yn y byd ariannol, gan ymwneud â bancio ac yswiriant. Etholwyd yn aelod o Senedd y Ffindir ym 1907, a gwasanaethodd yn weinidog ariannol yr Uchel Ddugiaeth ym 1908–09. Eisteddai yn y senedd eto ym 1910–14, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn sgil annibyniaeth y Ffindir a buddugoliaeth y Gwynion gwrth-gomiwnyddol yn y rhyfel cartref, gwasanaethodd Paasikivi yn brif weinidog y weriniaeth o Fai i Dachwedd 1918. Treuliodd Paasikivi y rhan fwyaf o'r cyfnod rhwng y rhyfeloedd wrth ei waith yn y banc, gan barhau'n ffigur amlwg ym mywyd cyhoeddus y wlad.
Efe oedd prif gyflafareddwr y Ffindir yn y trafodaethau heddwch â'r Undeb Sofietaidd ym 1920, ac yn niwedd y 1930au gwasanaethodd yn llysgennad yn gyntaf i Stockholm ac yna i Moscfa, lle cafodd ran yn yr ymdrechion aflwyddiannus i atal Rhyfel y Gaeaf (1939–40). Er gwaethaf ei fethiant i gadw'r heddwch rhwng y ddwy wlad, cafodd arhraff ddymunol ar yr arweinyddiaeth Sofietaidd, gan gynnwys Joseff Stalin. Gwrthwynebodd Paasikivi benderfyniad y llywodraeth i ddatgan rhyfel yn erbyn yr Undeb Sofietaidd unwaith eto ym 1941, a fe arweiniodd y ddirprwyaeth Ffinnaidd i drafod cadoediad a dod â Rhyfel y Parhad i ben ym 1944.
Gwasanaethodd yn brif weinidog am yr eildro, o 1944 i 1946, yn ystod cyfnod olaf yr Ail Ryfel Byd. Yn sgil ymddiswyddo'r Cadfridog Carl Mannerheim ym 1945, etholwyd Paasikivi yn arlywydd y Ffindir a fe'i urddwyd yn y swydd ym 1946. O'r cychwyn, arddelai cysylltiadau cyfeillgar â'r Undeb Sofietaidd. Fe'i ail-etholwyd yn arlywydd ym 1950, yn bennaeth ar glymblaid wrth-gomiwnyddol. Ymddiswyddodd ym 1956 oherwydd ei iechyd gwael, a fe'i olynwyd yn yr arlywyddiaeth gan Urho Kekkonen, a bu farw Paasikivi erbyn diwedd y flwyddyn.
Teulu a phlentyndod (1870–82)
golyguGaned Juho Kusti Hellstein ar 27 Tachwedd 1870 ym mhentref Koski (heddiw Hämeenkoski) yn nhalaith hanesyddol Häme, yn ystod oes Uchel Ddugiaeth y Ffindir, tiriogaeth hunanlywodraethol dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia. Yr oedd yn fab i fasnachwr, August Hellsten, a Karolina Wilhelmina Selin.[1]
Addysg a gyrfa academaidd (1882–1907)
golyguCychwynnodd ar ei ysgol uwchradd yn Normaalilyseo ("Addysgfa Normal") Hämeenlinna ym 1882. Efe oedd disgybl rhagoraf ei ddosbarth trwy gydol y rhan fwyaf o'i amser yn yr ysgol, ac enillodd farciau uchel iawn yn ei arholiadau terfynol ym 1890, gan sicrhau ei dderbyniad i Brifysgol yr Ymerawdwr Alecsander (bellach Prifysgol Helsinki). Yno, dechreuodd astudio hanes a'r iaith Rwseg, gan gyflawni ei radd yn y celfyddydau ym 1892. Newidiodd ei sylw wedyn i'r gyfraith, gyda'r nod o ennill bywoliaeth yn y maes hwnnw, a derbyniodd ei radd meistr yn y gyfraith ym 1897. Parhaodd âi astudiaethau yn y gyfraith, gan deithio i brifysgolion Stockholm ac Uppsala yn Sweden a Leipzig yn yr Almaen ar gyfer gwaith ymchwil. Wedi iddo ennill ei ddoethuriaeth yn y gyfraith ym 1901, fe'i penodwyd yn is-ddarlithydd yn y gyfraith weinyddol ym Mhrifysgol yr Ymerawdwr Alecsander ym o 1902 i 1903.[1][2] Gadawodd y brifysgol i gychwyn ar yrfa yn y byd ariannol, gan ymwneud â bancio ac yswiriant.
Gyrfa wleidyddol gynnar (1907–18)
golyguYmaelododd Paasikivi â'r Hen Blaid Ffinnaidd, ac ymlynai â charfan y "Cydymffurfwyr", y rhai a alwodd am ufuddhau i ordinhadau ymerodrol a oedd yn amharu ar faterion mewnwladol y Ffindir. Ym 1907 fe'i etholwyd i Senedd y Ffindir, ac ym 1908 fe'i penodwyd yn weinidog ariannol. Ymddiswyddodd o'r llywodraeth ym 1909 i wrthdystio ymdrechion ymerodrol i Rwsieiddio'r Ffindir. Dychwelodd i'r senedd am dymor arall o 1910 i 1914.
Wedi cwymp Ymerodraeth Rwsia, datganwyd annibyniaeth y Ffindir yn Rhagfyr 1917. Cefnogodd Paasikivi y Gwynion gwrthchwyldroadol yn erbyn y Cochion comiwnyddol yn ystod y rhyfel cartref a gychwynnodd yn Ionawr 1918. Wedi buddugoliaeth y Gwynion ym Mai 1918, gwasanaethodd Paasikivi yn ail brif weinidog y weriniaeth newydd, o 27 Mai i 27 Tachwedd 1918, gan olynu Pehr Evind Svinhufvud. Ffafriodd berthynas glos â'r Almaen, a wnaeth gefnogi carfan y Gwynion yn ystod y rhyfel, ac hefyd sefydlu Teyrnas y Ffindir. Fodd bynnag, parhaodd hefyd â'i safbwynt realaidd o gydnabod grym Rwsia hyd yn oed dan y drefn gomiwnyddol newydd, ac ym 1920 fe gyflafareddodd y cytundeb heddwch rhwng y Ffindir a'r Undeb Sofietaidd yn Dorpat.
Bywyd personol
golyguPriododd ag Anna Matilda Forsman (1869–1931) ym 1897, a chawsant bedwar o blant: Annikki (1898–1952), Wellamo (1900–66), Juhani (1901–42), a Varma (1903–41). Wedi marwolaeth Anna ym 1931, priododd am yr eildro, ag Allina Valve (1879–1960).[1]
Bu farw Paasikivi ar 14 Rhagfyr 1956 yn Helsinki yn 86 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Tuomo Polvinen, "Paasikivi, Juho Kusti (1870 - 1956)", National Biography of Finland. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Ebrill 2023.
- ↑ (Saesneg) Juho Kusti Paasikivi. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2023.