Awdures Almaenig yw Julia Franck (ganwyd 20 Chwefror 1970).

Julia Franck
Ganwyd20 Chwefror 1970 Edit this on Wikidata
Dwyrain Berlin, Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethysgrifennwr, rhyddieithwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLagerfeuer, Die Mittagsfrau Edit this on Wikidata
Gwobr/auYsgoloriaeth Alfred Döblin, Gwobr Marie Luise Kaschnitz, Gwobr Booker yr Almaen, Gwobr y Meic Agored, Gwobr Roswitha Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.juliafranck.de/site/julia_franck/home Edit this on Wikidata

Y dyddiau cynnar golygu

Fe'i ganed yn un o efeilliaid yn Nwyrain Berlin ar 20 Chwefror 1970. Mae'n ferchi i'r actores Anna Franck a'i thad yw'r cynhyrchydd teledu Jürgen Sehmisch.

Yn 1978 symudodd y teulu i Orllewin Berlin lle treuliodd naw mis mewn gwersyll ffoaduriaid ac yna i Schleswig-Holstein, sef y dalaith mwyaf gogleddol yn yr Almaen. Astudiodd Franck lenyddiaeth Almaeneg ac Astudiaethau Americanaidd ym Mhrifysgol Rydd Berlin a threuliodd beth amser yn yr Unol Daleithiau, Mecsico a Gwatemala. Gweithiodd fel golygydd ar gyfer Sender Freies Berlin a chyfrannodd at bapurau newydd a chylchgronau amrywiol. Yn 2019 roedd yn byw gyda'i phlant yn Berlin.[1][2][3]

Y llenor golygu

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Lagerfeuer a Die Mittagsfrau.

Hyd at 2019, roedd Franck yn awdur pum nofel, un casgliad o storiau byrion, a golygydd casgliad o draethodau. Mae ei thair nofel ddiweddaraf: Lagerfeuer, Die Mittagsfrau, a Rücken an Rücken, yn ogystal â'r casgliad Grenzübergänge, yn ymwneud yn benodol â hanes yr Almaen yn yr 20g. Mae Lagerfeuer wedi'i lleoli yng ngwersyll ffoaduriaid Gorllewin Berlin, sef y Berlin-Marienfelde yn y 1970au ac mae'n dilyn pedwar prif gymeriad, un ohonynt, Nelly Senff, wedi ffoi i Ddwyrain Berlin gyda'i ddau blentyn ifanc. Mae Rücken an Rücken hefyd wedi'i lleoli yn ystod y blynyddoedd pan godwyd Mur Berlin, gan ddiweddu yn y 1960au cynnar ac mae Die Mittagsfrau yn rhychwantu'r cyfnod rhwng y Rhyfel Byd Cyntaf a rhannu'r Almaen ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Er nad yw Franck wedi disgrifio'i hun fel awdur ffeministaidd, mae ysgolheigion ffeministaidd wedi tanlinellau rhai agweddau perthnasol i ffeministiaeth e.e. profiadau menywod mewn hanes, strwythurau pŵer merched, rhywioldeb, a pherthnasoedd (megis mamolaeth).

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Ganolfan PEN yr Almaen am rai blynyddoedd. [4]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Ysgoloriaeth Alfred Döblin (1998), Gwobr Marie Luise Kaschnitz (2004), Gwobr Booker yr Almaen (2007), Gwobr y Meic Agored (1995), Gwobr Roswitha (2005) .


Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014
  2. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2015. Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 13 Hydref 2015. "Julia Franck". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Franck". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Franck". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Julia Franck". "Julia Franck". "Julia Franck". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Man geni: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 8 Chwefror 2024.
  4. Man gwaith: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 2 Ebrill 2015