Juno and the Paycock
Drama uchel ei pharch yn Iwerddon yw Juno and the Paycock gan Seán O'Casey, sy'n cael ei pherfformio'n aml. Llwyfannwyd hi gyntaf yn Theatr yr Abbey yn Nulyn ym 1924. Mae wedi'i gosod yn nhenementau dosbarth gweithiol Dulyn ar ddechrau'r 1920au, yn ystod cyfnod Rhyfel Cartref Iwerddon. Y gair "paycock" yw'r ynganiad Gwyddelig o "peacock" [paun], a dyna yw cyhuddiad Juno am ei gŵr, "y capden".
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Seán O'Casey |
Genre | drama |
Cymeriadau | Juno Boyle, Captain Jack Boyle, "Joxer" Daly, Mary Boyle, Johnny Boyle, Jerry Devine, Charles Bentham, Maisie Madigan, Mrs Tancred, "Needle" Nugent, Neighbour, Irregular, Irregular II |
Lleoliad y perff. 1af | Theatr yr Abbey, Dulyn |
Dyddiad y perff. 1af | 3 Mawrth 1924 |
Lleoliad y gwaith | Dulyn |
Dyma'r ail o'i "Dublin Trilogy" [Trioleg Dulyn] - y ddau arall yw The Shadow of a Gunman (1923) a The Plough and the Stars (1926).
Plot
golyguAct I
golyguLleolir Juno and the Paycock yn nhenementau Dulyn ym 1922, yn fuan ar ôl cychwyn Rhyfel Cartref Iwerddon, ac yn ymwneud ag anffawdau dyrys y teulu Boyle. Mae'r tad, "Capten" Jack (a elwir felly oherwydd ei duedd i adrodd straeon gorliwiedig am ei 'yrfa fer fel masnachwr morwrol), sy'n honni na 'all weithio oherwydd poenau yn ei goesau, sy'n dod i'r amlwg pan sonia rywun am waith. Er gwaethaf tlodi ei deulu, mae Jack yn treulio ei holl amser ac arian yn y dafarn gyda Joxer Daly, ei “butty" da-i'm-byd, yn lle chwilio am swydd. Y fam Juno (a lys enwir felly oherwydd bod holl ddigwyddiadau pwysig ei bywyd wedi digwydd ym mis Mehefin), yw'r unig aelod o'r teulu sy'n gweithio ar hyn o bryd, gan fod ei merch Mary ar streic a'i mab Johnny yn anabl, ar ôl colli ei fraich yn y Rhyfel Annibyniaeth. Mae Mary’n teimlo’n euog am derfynu ei pherthynas â'i chariad, Jerry Devine, sy’n dangos mwy o gariad tuag ati hi, nag y mae hi at y fo. Yn y cyfamser, mae Johnny yn gofidio am fradychu ei gyfaill Robbie Tancred, cymydog a chyn-gymrawd yn yr IRA, a lofruddiwyd gan gefnogwyr y Wladwriaeth Rydd; Mae Johnny yn ofni bydd yr IRA yn ei ddienyddio fel cosb am fod yn hysbysydd. Tua diwedd yr act, daw'r newydd bod un o berthynasau Jack wedi marw, ac mae'r athro ysgol, Charles Bentham, yn cyhoeddi bod y teulu wedi ennill etifeddiaeth fawr; Mae Bentham yn cyhoeddi'n uchel fod yr ewyllys yn enwi "John Boyle, [fy] nghefnder cyntaf, o Ddulyn" fel un o'r buddiolwyr. Wrth ei fodd gyda'r newyddion, mae Jack yn addo i Juno bydd yn terfynu ei gyfeillgarwch â Joxer, ac yn bihafio.
Act II
golyguGwta deuddydd ar ôl y newyddion da, mae Jack eisoes wedi dechrau gwario ei gyfoeth newydd trwy brynu siwt, dodrefn newydd, gramoffon, a moethau eraill ar gredyd, gan ragweld derbyn yr etifeddiaeth yn fuan. Mae'r teulu Boyle yn cynnal parti ac yn gwahodd Bentham, sy'n caru Mary. Mae Joxer yn bresennol, a Jack eisoes wedi anghofio ei adduned i derfynu ei gysylltiad ag ef, a Mrs Maisie Madigan, cymydog y mae Jack yn ddyledus iddi. Yn ystod y parti, mae gorymdaith angladdol Robbie Tancred yn tarfu ar y tylwyth, gydag ymweliad mam alarus Tancred sy'n cael ei gwahodd i mewn gan deulu Boyle. Mae Mrs Tancred, tra'n traddodi ymson 'alaru am golli ei mab, yn gweddïo am ddiwedd i'r rhyfel, ond mae'r Jack hunanol yn anwybyddu ei dioddefaint.
Act III
golyguDdeufis yn ddiweddarach, mae Bentham wedi rhoi'r gorau i ymweld â'r teulu, ac wedi torri pob cysylltiad â nhw, gan gefnu hefyd ar Mary, sydd, fel y datgelir, yn disgwyl ei blentyn. Tra bod Jack yn cysgu, mae Juno yn mynd â Mary at y meddyg. Yn fuan wedyn, mae Needle Nugent, y teiliwr lleol, yn galw ac yn adfeddiannu siwt Jack, am na dderbyniodd geiniog o ad-daliad hyd yma. Yna geilw Mrs Madigan, gan fynnu ad-daliad o'r benthyciad a roddodd hithau i Jack; pan fydd yntau'n gwrthod talu, mae hi'n cymryd y gramoffon fel ad-daliad. Mae Joxer (a fu'n bresennol ar gyfer y ddau ddigwyddiad heb wneud dim i helpu), yn hysbysu Jack am y sïon a'r sibrydion sydd ar led, nad yw'r etifeddiaeth am gael ei dalu. Try hyn yn ddadl, wrth i Joxer watwar etifeddiaeth Jack fel un twyllodrus.
Tra bod Johnny yn codi cywilydd ar ei dad am godi cywilydd ar y teulu, mae Juno yn dychwelyd ar ei phen ei hun ac yn rhannu'r newyddion am feichiogrwydd Mary. Wrth i Juno erfyn ar Jack i ddefnyddio'r arian sy'n weddill o'r etifeddiaeth i fudo'r teulu i ddinas wahanol, mae'n datgelu'n ddig nad oes ceiniog o'r etifeddiaeth yn ddaliadwy iddynt, a hynny drwy gamgymeriad a wnaeth Bentham wrth ddrafftio'r ewyllys (methodd â chynnwys enwau'r buddiolwyr, gan gyfeirio at Jack yn unig fel "[fy] nghefnder cyntaf"). O ganlyniad, mae nifer o berthnasau yn hawlio'r etifeddiaeth, sy'n cael ei wario'n gyflym ar gostau cyfreithiol; i wneud pethau'n waeth, mae'n debyg bod Bentham wedi ffoi o'r wlad o gywilydd.
Mae Johnny yn ceryddu ei dad am ei fyrder golwg a'i drachwant. Methu ymdopi â straen y sefyllfa, mae Jack yn cefnu ar ei ferch feichiog Mary ac yn cilio i'r dafarn i yfed gyda Joxer. Mae Johnny yn perswadio Juno i ddilyn Jack, i erfyn arno i ddychwelyd adref. Mae Mary yn dychwelyd, ac mae Johnny yn cefnu arni hefyd. Mae Jerry Devine yn ail-ymweld er mwyn cymodi â Mary, ond mae yntau hefyd yn ymwrthod â hi, pan ddaw i wybod am ei beichiogrwydd. Wrth i'r celfi olaf o ddodrefn newydd ffansi Jack gael ei adfeddiannu, mae sawl dyn o'r IRA yn cyrraedd ac yn llusgo Johnny oddi yno; Yn ddiweddarach mae Juno yn clywed gan Mrs Madigan, bod corff tebyg i gorff Johnny wedi'i ddarganfod ar ffordd wledig, yn frith o fwledi.
Mae Juno yn penderfynu ffoi gyda'i merch Mary, i geisio bywyd gwell, gan amau na all Jack fyth newid, na ymgymeryd â'i gyfrifoldebau fel tad ac enillydd cyflog y teulu. Mae'n anfon Mary i fyw gyda pherthynas, cyn mynd i orsaf yr heddlu i adnabod corff ei mab Johnny, gan adleisio gweddïau galarus Mrs Tancred yn Act II.
Yn hwyrach, mae'r Jack meddw yn baglu adref o'r dafarn gyda Joxer, heb wybod bod ei fab wedi marw na bod ei wraig a'i ferch wedi ei adael. Ar ôl sgwrs fer, mae Jack yn gollwng ei chwe cheiniog olaf ar y llawr; mae'n galaru'n feddw fod "the whole world is in a terrible state o' chassis", cyn llewygu.
Cynhyrchiad gwreiddiol
golyguLlwyfannwyd y ddrama gyntaf yn Theatr yr Abbey, Dulyn ar 3 Mawrth 1924.
Cast:
- Sara Allgood fel Juno Boyle
- Barry Fitzgerald fel Capten Jack Boyle
- FJ McCormick fel Joxer Daly
- Eileen Crowe fel Mary Boyle
- Arthur Shields fel Johnny Boyle
- Maureen Delany fel Mrs Maisie Madigan
- Gabriel J. Fallon fel Charles Bentham
- PJ Carolan fel Jerry Devine
- Christine Murphy fel Mrs Tancred
- Maurice Esmonde fel yr Afreolydd cyntaf
- Michael J. Dolan fel yr ail Afreolydd / Needle Nugent
- Peter Nolan fel y Mudwr Dodrefn cyntaf / Dyn Peiriant Gwnïo
- Tony Quinn fel Ail Fudwr Dodrefn / Gwerthwr Blociau Glo
- Irene Murphy ac Eileen O'Kelly fel Dau Gymydog
Tîm cynhyrchu:
- Cyfarwyddwr Cerddorol: Dr. JF Larchet
- Cynhyrchydd: Michael J. Dolan
- Rheolwr Llwyfan: FJ McCormick [1]
Dyfyniadau
golygu- "I ofen looked up at the sky an' assed meself the question – what is the moon, what is the stars?" —Capten Boyle, Act I
- "Th' whole worl's in a terrible state o' chassis" - Capten Boyle, Act III, llinell olaf y ddrama.
- "Never tired o' lookin' for a rest" - Juno Boyle, Act I
- “Mae hi bron yn amser i ni gael ychydig llai o barch at y meirw, ac ychydig mwy o barch at y byw.” — Juno Boyle, Act II
- "Isn't all religions curious?-if they weren't you wouldn't get anyone to believe in them" - Capten Boyle, Act II
- "It'll have what's far better- it'll have two mothers"- Juno Boyle, Act III
- "A darlin' (enw), a daarlin' (enw ail-adroddus)!" Ebychnod Joxer drwy gydol y ddrama wrth iddo fychanu popeth
- "It doesn't matter what you say, ma – a principle's a principle." – Mary Boyle yn siarad am y streic
- "He ought to be here." – Johnny ar absenoldeb Boyle
Addasiadau
golyguFfilm
golyguYm 1930, cynhyrchwyd addasiad ffilm Prydeinig o'r ddrama, a gyfarwyddwyd gan Alfred Hitchcock . Yn yr Unol Daleithiau, cafodd ei adnabod hefyd wrth y teitl The Shame of Mary Boyle .
Teledu
golyguMae amryw o addasiadau teledu o Juno and the Paycock :
- 1938, Teledu'r BBC : gyda Maire O'Neill fel Juno a Harry Hutchinson fel Capten Jack. [2]
- 1951, teledu BBC: gyda Shela Ward a John Kelly yn serennu. [3]
- 1952, teledu Canada: gyda Nancy Pyper a Frank Peddie yn serennu. [4]
- 1957, teledu BBC: gyda Peggy Marshall a Liam Redmond yn serennu. [5]
- 1960: Teledu UDA, gyda Hume Cronyn a Walter Matthau yn serennu. [6]
- 1974, teledu Sweden: Skuggan av en hjälte ( Cysgod arwr ). [7]
- 1980, teledu BBC: Yn serennu Frances Tomelty fel Juno a Dudley Sutton fel Capten Jack. [8]
Radio
golyguMae o leiaf 11 o addasiadau wedi'u cynhyrchu ar gyfer Radio'r BBC. Roedd pedair o'r pum seren gyntaf yn cynnwys Maire O'Neill, a ymddangosodd yn flaenorol yn ffilm Hitchcock fel chwaer Juno, Mrs. Maisie Madigan.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "IrishPlayography.com: Juno and the Paycock". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-01-21. Cyrchwyd 29 February 2012.
- ↑ "IMDB Entry for 1938 Television version of Juno and the Paycock". IMDb. 21 Hydref 1938. Cyrchwyd 6 Hydref 2014.
- ↑ "Broadcast - BBC Programme Index".
- ↑ ""Encounter" Juno and the Paycock (TV Episode 1952) - IMDb".
- ↑ "Broadcast - BBC Programme Index".
- ↑ "IMDB Entry for 1960 Television version of Juno and the Paycock". IMDb. 1 Chwefror 1960. Cyrchwyd 6 Hydref 2014.
- ↑ "Skuggan av en hjälte (TV Movie 1974) - IMDb".
- ↑ "IMDB Entry for 1980 Television version of Juno and the Paycock". IMDb. 6 Hydref 1980. Cyrchwyd 6 Hydref 2014.
Dolenni allanol
golygu- Testun llawn Juno a'r Paycock yn Llyfrgell Ddigidol HathiTrust
- Andrew E. Malone: Iwerddon yn Rhoi Dramodydd newydd i'r Byd