Kalle Lasn
Gwneuthurwr ffilmiau, awdur, golygydd cylchgrawn ac ymgyrchydd o Ganada yw Kalle Lasn (ynganiad Estoneg: [ˈkɑlˑɛ ˈlɑsn̥]) (ganwyd 24 Mawrth 1942).
Kalle Lasn | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1942 Tallinn |
Dinasyddiaeth | Canada, Estonia |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, golygydd, llenor, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | Adbusters |
Bywgraffiad
golyguYn agos at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ffodd teulu Lasn o Estonia a threulio amser mewn gwersyll ffoaduriaid Almaenig. Symudodd gyda'i deulu i Awstralia pan oedd o'n saith mlwydd oed, lle magwyd a mynychodd yr ysgol yng Nghanberra. Arhosodd yno tan y 1960au; yna sefydlodd gwmni ymchwil marchnata yn Tokyo. Yn 1970, symudodd i Vancouver, Canada. Treuliodd ugain mlwydd yn cynhyrchu rhaglenni dogfen ar gyfer PBS a National Film Board of Canada.
Lasn yw cyd-sefydlydd y cylchgrawn Adbusters, a'r fam-gwmni sef Adbusters Media Foundation. Mae o hefyd yn awdur y llyfrau Culture Jam a Design Anarchy.
Llyfrau a ffilmiau
golyguMae llyfr cyntaf Lasn, Culture Jam, yn galw am "feddwl amgylcheddol" ac yn beirniadu cyfalafiaeth.