Kathleen Courtney
Ffeminist o Loegr oedd Kathleen Courtney (1 Mawrth 1878 - 7 Rhagfyr 1975) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét ac ymgyrchydd dros heddwch.
Kathleen Courtney | |
---|---|
Ganwyd | 11 Mawrth 1878 Gillingham |
Bu farw | 7 Rhagfyr 1974 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ymgyrchydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét, ymgyrchydd heddwch |
Perthnasau | Elisabeth Furlong |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
Ganwyd Kathleen D'Olier Courtney yr ieuengaf o bum merch a'r pumed o saith o blant yn Gillingham, Caint i'r Is-gapten (Uwchgapten yn ddiweddarach) David Charles Courtney (1845-1909) a'i wraig, Alice Margaret (née Mann) yn 1 York Terrace, yn Gillingham ar 11 Mawrth 1878. Bu farw yn Llundain yn 1975. Roedd y teulu Courtney yn gyfoethog iawn ac ni fu'n rhaid iddynt boeni am arian. Penderfynodd Kathleen Courtney pan oedd yn ifanc y byddai'n treulio gweddill ei bywyd yn helpu achosion da.[1][2][3][4][5]
Wedi gadael ysgol Eingl-Ffrengig yn Kensington mynychodd Neuadd yr Arglwyddes Margaret cyn treulio 7 mis yn Dresden yn astudio Almaeneg. Yn Ionawr 1897 aeth i Lady Margaret Hall i astudio ieithoedd, ac yno y cychwynodd ei chyfeillgarwch gyda Maude Royden.
Ymgyrchu
golyguYn 1908 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd y North of England Society for Women's Suffrage. Yn 1911 symudodd i Lundain lle gweithiodd yn agos gyda Millicent Fawcett, ffeminist ac arweinydd deallusol, gwleidyddol ac undebol yn Lloegr, fel ysgrifennydd anrhydeddus National Union of Women's Suffrage Societies. Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914, gadawodd ei hymgyrch dros bleidlais menywod ac astudiodd wleidyddiaeth ryngwladol a cheisio adeiladu pontydd tuag at gydweithredu rhyngwladol.[6][7]
Yn Ebrill 1915, gwahoddodd Aletta Jacobs, swffragét o'r Iseldiroedd, aelodau o'r mudiadau dros etholfraint i 'Gyngres Rhyngwladol y Merched' yn Den Haag, sef canolfan llywodraeth a senedd yr Iseldiroedd a thrigfan Brenin yr Iseldiroedd. Aeth yno ynghyd â nifer eraill o fenywod, gan gynnwys: Mary Sheepshanks, Jane Addams, Alice Hamilton, Grace Abbott, Emily Bach, Lida Gustava Heymann, Emmeline Pethick-Lawrence, Emily Hobhouse, Chrystal Macmillan a Rosika Schwimmer. Yno, ffurfiwyd the Women's International League for Peace and Freedom (WIL). Etholwyd Kathleen Courtney yn Gadeirydd Adran Prydain o'r mudiad. Yn 1928 etholwyd hi'n aelod o bwyllgor gwaith y British League of Nations Union, yn 1939, yn is-Gadeirydd a rhwng 1949 a 1951 yn Gadeirydd.[6][7]
Cynorthwyodd i sefydlu'r Cymdeithas Etholfraint yr Oedolion (the Adult Suffrage Society) yn 1916 ac fel cyd-ysgrifennydd bu'n lobïo aelodau o Dŷ'r Cyffredin i ymestyn y fasnachfraint nes pasiwyd Deddf Cymhwyster Menywod yn 1918. Y flwyddyn ddilynnol daeth yn Is-Lywydd y 'National Union of Societies for Equal Citizenship. Yn ogystal â dadlau dros yr un hawliau pleidleisio â dynion, fe ymgyrchodd y sefydliad hefyd dros gyfreithiau cyflog-cyfartal, ysgariad teg a diwedd ar y gwahaniaethu yn erbyn menywod mewn gwaith.
Derbyniodd y CBE yn 1946 ac yn 1972 cafodd ei dyrchafu i DBE. Ym 1968 rhoddodd sgwrs yn San Steffan i ddathlu 50 mlynedd ers i rai menywod gael yr hawl i bleidleisio. Yn 1972 dyfarnwyd Medal Heddwch y Cenhedloedd Unedig iddi.[8]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Bwyllgor Rhyngwladol Menywod dros Heddwch Parhaol am rai blynyddoedd. [9]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig (1972), Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Dyddiad marw: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Man geni: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ 6.0 6.1 Profile, wilpf.org.uk; accessed 30 Awst 2015.
- ↑ 7.0 7.1 Biography, books.google.com; accessed 30 Awst 2015.
- ↑ Janet E. Grenier, ‘Courtney, Dame Kathleen D'Olier (1878–1974)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 accessed 9 March 2017
- ↑ Aelodaeth: https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/d8f24641-bafd-3fe0-bfb8-ea5bb823dd37. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2023. https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/d8f24641-bafd-3fe0-bfb8-ea5bb823dd37. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2023. https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/d8f24641-bafd-3fe0-bfb8-ea5bb823dd37. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2023. https://archiveshub.jisc.ac.uk/search/archives/d8f24641-bafd-3fe0-bfb8-ea5bb823dd37. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2023.