Kirsty Wade

rhedwr pellter canol Prydeinig

Cyn athletwraig yw Kirsty Wade (née McDermott, ganed 6 Awst 1962) oedd yn cystadlu dros Prydain Fawr a Chymru mewn rasys pelter canolig. Llwyddodd i gipio'r fedal aur yn yr 800m yng Ngemau'r Gymanwlad 1982 a cwblhaodd y dwbwl gan ennill yr 800m a'r 1500m yng Ngemau'r Gymanwlad 1986. Bu hefyd yn ddeiliad record Prydain am yr 800m a'r milltir.

Kirsty Wade
Gwybodaeth bersonol
Ganwyd6 Awst 1962

Gyrfa golygu

Ganed Wade yn Girvan, Yr Alban, ond symudodd ei theulu i Landrindod ym Powys pan yn dair mlwydd oed. Ar ôl serennu mewn rasys traws gwlad yn yr ysgol cafodd ei hannog gan ei athrawon i ymuno â Chlwb Athletau Aberhonddu. Ym 1979, yn 17 mlwydd oed, cipiodd McDermott, fel ag roedd ar y pryd, ei phencampwriaeth Cymreig cyntaf wrth ennill Pencampwriaeth 800m Cymru - y cyntaf o 10 coron yn olynol rhwng 1979 a 1988.[1]

Tra'n astudio am radd Saesneg ym Mhrifysgol Loughborough bu ond y dim i Wade roi'r gorau i'w gyrfa athletau ar ddechrau'r 1980au. Roedd cyffuriau gwella perfformiad yn taflu cysgod dros y gamp a gan nad oedd yn teimlo ei bod yn cael chwarae teg fel athletwraig glân, penderfynodd Wade mai Gemau'r Gymanwlad 1982 fyddai ei chystadleuaeth mawr olaf wrth iddi geisio am yrfa fel nyrs.[1][2]

Ond llwyddodd Wade i synnu'r byd athletau wrth gipio'r fedal aur a llwyddodd ei hyfforddwr, Tony Wade, sydd bellach yn ŵr iddi, i ddwyn perswâd arni i barhau â'i gyrfa athletau.[1]

Cafodd dymor siomedig ym 1984 wrth fethu a sicrhau ei lle yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer y Gemau Olympaidd yn Los Angeles ond ym 1985 llwyddodd Wade i ailsefydlu ei hun fel un o rhedwyr gorau'r byd athletau. Yn yr Ulster Games yn Belfast ar 24 Mehefin 1985 llwyddodd i dorri record Prydain dros 800m gan orffen yn y ras mewn amser o 1:57.42 - record fyddai'n sefyll am bron i ddegawd tan i Kelly Holmes ei dorri ym 1995 - a mis yn ddiweddarach torodd record Prydain dros filltir mewn ras yn IOslo, Norwy.[2][3]

Ar ôl priodi, dechreuodd tymor 1986 yn rasio i glwb Blaydon Harriers yng ngogledd ddwyrain Lloegr a daeth y ferch cyntaf erioed i ennill y dwbwl o'r 800m a'r 1500m yng Ngemau'r Gymanwlad yng Nghaeredin. Enillodd yr 800m mewn amser o 2:00.94 gyda Diane Edwards a Lorraine Baker o Loegr yn ail a thrydydd, ac enillodd y 1500m mewn amser o 4:10.91 gyda'r ddeuawd o Ganada, Debbie Bowker a Lynn Kanuka-Williams, yn ail a thrydydd.[4] Yn ddiweddarach yn y tymor, gorffennodd yn seithfed yn rownd derfynol Pencampwriaeth Athletau Ewrop yn Stuttgart mewn amser o 4:04.99.[5]

Ym Mehefin 1987 cafodd Wade un o fuddugoliaethau mwyaf ei gyrfa wrth ennill y 1500m yng Nghwpan Ewrop yn Prague mewn amser o 4:09.03 gan guro Tatyana Samolenko o'r Undeb Sofietaidd aeth ymlaen i ennill Pencampwriaeth y Byd yn y 1500m yn Rhufain yn Awst 1987 - ras lle gorffennodd Wade yn chweched.[6]

Cafodd Wade ei dewis yn nhîm Prydain Fawr ar gyfer yr 800m a'r 1500m yng Ngemau Olympaidd Seoul ym 1988. Cyrhaeddodd rownd gynderfynol yr 800m gan redeg amser o 2:00.86, ond cafodd amser siomedig o 4:08.37 yn ras ragbrofol y 1500m a methodd a chyrraedd y rownd derfynol.[7]

Ni fu'n cystadlu yn ystod tymor 1990 gan iddo roi genedigaeth i'w phlentyn hynnaf, ond llwyddodd i orffen yn chweched yn y 1500m m Mhencampwriaethau'r Byd yn Tokyo mewn amser o 4:05.16 a'r tymor canlynol cyrhaeddodd rownd gynderfynol y 1500m yng Ngemau Olympaidd Barcelona.

Mae ei record Cymreig ar gyfer yr 800m yn sefyll hyd heddiw.[8]

Gyrfa wedi athletau golygu

Mae Wade bellach yn byw yn Steòrnabhagh ar ynys Leòdhas gyda'i gwr a'r teulu lle mae hi'n rhedeg busnes gwely a brecwast.[1]

Amseroedd gorau golygu

  • 800m - 1:57.42 (24 Mehefin 1985 Belfast, record DU 1985-1995)
  • 1000m - 2:33.70 (9 Awst 1985 Gateshead, record DU 1985-1995)
  • 1500m - 4:00.73 (26 Gorffennaf 1987 Gateshead)
  • 1 milltir - 4:19.41 (27 Gorffennaf 1985 Oslo, record DU Jul 1985-Aug 1985)
  • 3000m - 8:47.07 (5 Awst 1987 Gateshead)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Commonwealth Games: Golden girl Kirsty's Hebridean life". Wales Online.
  2. 2.0 2.1 "Where are they now? Kirsty Wade". Athletics Weekly.
  3. "UK All Time Records 800m". GBRAthletics.com.
  4. "Commonwealth Games Results". CGF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2002-07-25. Cyrchwyd 2016-04-09.
  5. "Women's 1500m". European Athletics.
  6. "2ND IAAF World Championships: 1500m Women". IAAF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-15. Cyrchwyd 2016-04-09.
  7. "1988 Olympic Games: Athletics". Olympic.org.
  8. "Welsh Outdoor Records" (PDF) (pdf). welshathletics.[dolen marw]
Rhagflaenydd:
Steve Jones
Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn BBC Cymru
1986
Olynydd:
Ian Woosnam