Koundinyasana (Y Doethor Kaundinya)

asana cydbwyso o fewn ioga

Asana, neu osgo'r corff mewn ymarferiad ioga yw Koundinyasana (Sansgrit: कौण्डिन्यासन, IAST: kauṇḍinyāsana), neu Y Doethor Kaundinya, sy'n asana cydbwyso'r corff ar y dwylo mewn ioga modern ac fel ymarfer corff.

Koundinyasana
Eka Pada Koundinyasana II
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas cydbwyso Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Geirdarddiad golygu

Enwir y ystum ar ôl Kaundinya (Sansgrit: कौण्डिन्य), saets Indiaidd, ac āsana (Sansgrit: आसन )sy'n golygu "osgo" neu "safle'r corff". Mae'r amrywiadau ar gyfer un a dwy goes yn cynnwys y geiriau Sansgrit am un (ek) neu ddwy (dvi), a pada (Sanskrit) sy'n golygu "troed".[1] [2]

Nid yw'r ystum yn cael ei ddisgrifio yn ioga hatha canoloesol. Mae'n ymddangos yn yr 20g ymhlith yr asanas a ddisgrifiwyd gan BKS Iyengar yn ei lyfr 1966 Light on Yoga,[1] a'r rhai a ddysgwyd gan Pattabhi Jois yn Mysore yn ei Ioga ashtanga vinyasa.[3] Roedd Iyengar a Jois yn ddisgyblion i Krishnamacharya.[4]

Amrywiadau golygu

  1. Gellir ei berfformio gyda'r ddwy goes wedi'u plygu (Dvi Pada Koundinyasana), neu
  2. gydag un goes dros y fraich gefn, y goes arall yn syth (Eka Pada Koundinyaasana).[5][6][1]
  3. Yn yr amrywiad Eka Pada Galavasana (Clomen yn hedfan) ceir un goes wedi'i phlygu, a'r droed wedi'i bachu dros y fraich gyferbyn, o dan y corff.

Mae gan Eka Pada Koundinyaasana un goes wedi'i hymestyn yn syth yn unol â'r corff.[5]"Eka Pada Koundinyasana I". Yoga Journal. Cyrchwyd 2 December 2012."Eka Pada Koundinyasana I". Yoga Journal. Retrieved 2 December 2012.</ref>

Yn Eka Pada Galavasana (Colomen ehedog) plygir un goes, ac mae'r droed wedi'i bachu dros y fraich gyferbyn, o dan y corff. Mae'r ystum llawn, Galavasana, yn croesi'r coesau mewn osgo Padmasana, un pen-glin wedi'i guddio rhwng y breichiau.[7][1]

Llyfryddiaeth golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Iyengar 1979.
  2. "Eka Pada Koundinyasana/ One-legged Pose dedicated to Sage Koundinya". Asana International Yoga Journal. Cyrchwyd 16 Awst 2019.
  3. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 100–101. ISBN 81-7017-389-2.
  4. Pagés Ruiz, Fernando (May 2001). "Krishnamacharya's Legacy". Yoga Journal (May/June 2001). http://www.yogajournal.com/wisdom/465.
  5. 5.0 5.1 "Eka Pada Koundinyasana I". Yoga Journal. Cyrchwyd 2 December 2012.
  6. "Eka Pada Koundinyasana II". Yoga Journal. Cyrchwyd 22 Oct 2015.
  7. Rizopoulos, Natasha (9 Awst 2012). "Flight Club: 5 Steps to Flying Pigeon Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 8 Chwefror 2019.