Tom Rolt

(Ailgyfeiriad o L. T. C. Rolt)

Awdur o Sais oedd Lionel Thomas Caswall Rolt (11 Chwefror 19109 Mai 1974). Roedd o’n arloeswr ym meysydd teithio camlesi a rheilffyrdd treftadaeth. Ysgrifennodd fywgraffiadau peirianwyr sifil pwysig megis Isambard Kingdom Brunel a Thomas Telford.

Tom Rolt
Ganwyd11 Chwefror 1910 Edit this on Wikidata
Caer Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mai 1974 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Cheltenham Edit this on Wikidata
Galwedigaethhunangofiannydd, awdur ffeithiol, cofiannydd, railway historian Edit this on Wikidata
Adnabyddus amNarrow Boat Edit this on Wikidata
PriodSonia Rolt Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Daeth ei dad yn ôl i Brydain ar ôl weithio ar fferm gwartheg yn Awstralia, planhigfa yr yr India ac yn methu ennill ei ffortiwn yn Yukon. Collodd fwyafrif ei bres wrth bythsoddu a symudodd y teulu i bâr o fythynnod yn Stanley Pontlarge, Caerloyw.[1]

Bywyd cynnar golygu

Astudiodd Tom yng Ngholeg Cheltenham, a dechreuodd gwaith dysgu am dyniant stêm cyn dechrau prentisiaeth gyda’r cwmni Kerr Stuart yn Stoke, lle oedd ei ewythr, Kyrle Willans, yn brif beiriannydd datblygu. Prynodd Willans gwch camlas a gosododd peiriant stêm. Doedd hi ddim posibl cyfeirio’r cwch, a disodlwyd y peiriant stêm gan beiriant Ford model T.

Ceir golygu

Aeth Kerr Stuart i’r wal ym 1930, a datblygodd Rolt ddiddordeb mewn hen geir. Prynodd nifer ohonynt, gan gynnwys Alvis ‘Cefn Hwyaden’ 1924 y cedwydd am weddill ei oes.[2]

Prynodd rhan o bartneriaeth garej modur yn Hartley Wintney, Swydd Hampshire. Efo eraill, dechreuodd Clwb Hen Sbortsgeir ym 1934. Sefydlodd a helpodd i greu Ras Riwiau Prescott. Ysgrifennodd y llyfr Horseless Carriage ym 1959 yn erbyn masgynhyrchiad.[3]

Cressy golygu

Penderfynodd Rolt i fyw ar gwch, a phrynodd ‘Cressy’ oddi ar ei ewythr. Priododd Angela Orred ar 11 Gorffennaf 1939 ac aethant ar Gamlas Rhydychen.

Ail Ryfel Byd golygu

Gweithiodd ar beiriannau Merlin ar gyfer awyrennau Spitfire yn ffatri Rolls-Royce yng Cryw, ond yn fuan daeth cynnig o waith yn Ffowndri Cloch Aldbourne]] yn Swydd Wiltshire, lle gweithiodd o am dros flwyddyn. Ysgrifennodd o lyfr, ‘Painted Ship’, yn disgrifio taith gyntaf ‘Cressy’ ond nad oedd galw am lyfrau yn ymwneud â chamlesi. Ond cyhoeddwyd y llyfr gyda’r enw ‘Narrow Boat’ yn Rhagfyr 1944 a daeth o’n boblogaidd.

Cymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol golygu

Cafodd Rolt lythyrau oddi ar Robert Aickman a Charles Hadfield, a ffurfiwyd y gymdeithas ym May 1946 gan y tri ohonynt. Roedd y camlesi wedi cael eu gwladoli ym 1947. Trefnodd Rolt ymdrech i atal cau Camlas Stratford-upon-Avon, a threfnodd Arddangosfa Dyfrffyrdd llwyddiannus, yn dechrau yn Llundain a theithiodd yr wlad. Awgrymodd cynnal rali cychod yn Market Harborough. Cafodd ffrae efo Aickman ym 1951 a diarddelwyd o’r gymdeithas. Gadawodd ‘Cressy’ ac aeth yn ol i aelwyd ei deulu yn Stanley Pontlarge. Gadawodd ei wraig i ymuno a sircws Billy Smart.

Rheilffordd Talyllyn golygu

Andfonodd Rolt lythyr at y Birmingham Post ym 1954, a dechreuwyd hanes y Gymdeithas Warchod y Rhielffordd Talyllyn, a daeth o’n gadeirydd y gymdeithas.[4] ac wedyn i 'Railway Adventure'. Priododd Rolt Sonia Smith, cyn-actores. Roedd hi wedi bod yn aelod o Gyngor Gymdeithas y Ddyfrffyrdd Mewndirol.

Awdur golygu

Ysgryfennodd Rolt mwy o lyfrau yn y 50au, gan gynnwys awtobiograffiadau Isambard Kingdom Brunel.[5] Ym 1950, rhoddodd Rolt y Darlith Brunel cyntaf yng [[Coleg Brunel o Dechnoleg, y daeth yn brifysgol hwyrach ymlaen. <ref>[1], a siaradodd hefyd am George Stephenson a Robert Stephenson, a Thomas Telford.

Plac coffa yng Nghaer

Cyfeiriadau golygu

  1. Ian Mackersey, Tom Rolt and the Cressy Years (Llundain: M & M Baldwin, 1985)
  2. "Gwefan Amgueddfa Genedlaethol Rhilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-03-08. Cyrchwyd 2022-12-20.
  3. L.T.C. Rolt, Horseless Carriage (Llundain: Constable, 1950)
  4. David Bolton, Race Against Time: How Britain's Waterways were Saved (Llundain: Methuen, 1990)
  5. Hanes y BBC[dolen marw]