La Goulette
Tref arfordirol ar Gwlff Tiwnis a phorthladd dinas Tiwnis, prifddinas Tiwnisia, yw La Goulette (Arabeg: حلق الوادي, Halq al-Ouadi). Mae'n gorwedd tua 10 km o ganol Tiwnis. Mae morglawdd dros Llyn Tiwnis yn ei chysylltu â'r brifddinas. Mae ganddi dair orsaf - La Goulette Vieille, Goulette Neuve a Goulette Casino - ar reilffordd ysgafn y TGM. Daw'r enw 'La Goulette' ('y gwddw') o'r sianel cyfyng ar ymyl y dref sy'n cysylltu Llyn Tiwnis a Gwlff Tiwnis. Mae sianel arall yn gwahanu La Goulette a Khéredine i'r gogledd.
Math | dinas â phorthladd, municipality of Tunisia |
---|---|
Gefeilldref/i | San Vito Lo Capo |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Northern Tunisia |
Sir | Tiwnis |
Gwlad | Tiwnisia |
Cyfesurynnau | 36.819111°N 10.306377°E |
Cod post | 2060 |
Porthladd La Goulette yw'r un prysuraf yn Nhiwnisia. Mae gwasanaeth llong fferi yn cysylltu La Goulette â Marseille yn Ffrainc, Trapani yn Sisili a Napoli a Genova ar arfordir gorllewinol Yr Eidal. Yn ogystal mae nifer o longau cargo yn defnyddio'r porthladd.
Datblygwyd y porth gan yr Arabiaid ar ôl iddynt gipio Tiwnis yn y 7g. Adeiladwyd y 'kasbah' (castell), Borj el-Karrak, ar safle caer gynharach a godwyd yn 1535 gan y brenin Siarl I, brenin Sbaen. Fe'i cipiwyd gan y Twrciaid Otomanaidd yn 1574 a'i hailadeiladu'n sylweddol. Dilynodd math o Oes Aur i La Goulette. Oddi yno hwyliai nifer o longau'r corsairs, môr-ladron dan nawdd y llywodraeth, i ymosod ar longau Cristnogol. Defnyddid y kasbah fel canolfan lle cedwid y caethweision a rwyfai'r llongau (roedd yn arfer defnyddio caethweision a charcharorion yn Ewrop hefyd, e.e. gan lynges Fenis).
Tyfodd tref fach gaerog i'r gorllewin o'r castell. Yma ac yn yr Hara yn Nhiwnis yr ymsefydlodd nifer o'r Iddewon a ffodd o Livorno yn y 16g. Daeth nifer o fewnfudwyr o Sisili yn ogystal â gelwir ardal yng ngogledd y dref yn 'Sisili Fach' hyd heddiw. Erbyn heddiw does dim llawer ohonyn nhw ar ôl.
La Goulette yw hoff gyrchfan trigolion Tiwnis i gael tipyn o haul a gwynt yn yr haf ac mae'n enwog am ei bwytai niferus sy'n arbenigo mewn bwydydd y môr. Mae'r traeth yn llydan a braf a cheir nifer o gaffis yno. Ceir golygfeydd da dros y Gwlff ar Cap Bon a bryniau Bou Kornine.