Llyn Tiwnis
Mae Llyn Tiwnis (Arabeg البحيرة El Bahira, Ffrangeg 'Lac de Tunis') yn lagŵn naturiol a leolir rhwng Tiwnis, prifddinas Tiwnisia, a Gwlff Tiwnis (Môr Canoldir). Mae ganddo arwynebedd o 37 km² (14 milltir sgwar) ac mewn cymhariaeth â'i faint mae'n fas iawn. Ar un adeg dyma oedd harbwr naturiol dinas Tiwnis.
Math | llyn, Lagŵn, ardal gadwriaethol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnis |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 37 km² |
Cyfesurynnau | 36.82°N 10.25°E |
Statws treftadaeth | safle Ramsar |
Manylion | |
Hanes
golyguRhedai ffordd hynafol o Carthago i Diwnis ar hyd glannau'r llyn. Oherwydd lleoliad Llyn Tiwnis yn rheoli mynediad y Carthaginiaid i'r meysydd ffrwythlon ar y gwastatiroedd tu allan i'w dinas, codwyd argae gan y Rhufeiniaid dros y llyn, gan ei rannu'n ddau. Heddiw mae sylfaen yr argae honno yn cario traffordd a thrac rheilffordd y TGM sy'n cysylltu Tiwnis a La Goulette a threfi arfordirol Carthago, Sidi Bou Saïd, a La Marsa.
Yn y gorffennol roedd Llyn Tiwnis yn enwog am ei heidiau o fflamingos. Roedd hefyd yn gallu creu problemau iechyd yn yr haf am fod ei glannau'n dir bridio mosgitos. Mae rhan ogleddol y llyn yn cynnwys ynys Chikly, oedd yn gadarnle i'r Sbaenwyr yn y 16g ond sydd rwan yn warchodfa natur (ers 1993).
Gan fod y llyn yn llenwi â thywod ar ddiwedd y 19g cloddiodd y Ffrancod gamlas trwyddi, 6 milltir o hyd, 150 troedfedd o led, ac 20 troedfedd o ddyfnder. Roedd hyn yn cysylltu hen borthladd Tiwnis â La Goulette. Nid yw'n addas i longau mawr heddiw.
Darllen pellach
golygu- Tunis: la ville et les monuments (Guides Cérès, Tiwnis, 1980)