Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr

(Ailgyfeiriad o PISA)

Astudiaeth fyd-eang gan y Mudiad dros Gydweithrediad a Datblygiad Economaidd (Organisation for Economic Co-operation and Development) (OECD) o berfformiad addysgol disgyblion 15 mlwydd oed ym meysydd mathemateg, gwyddoniaeth a darllen ydy'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (Programme for International Assessment; PISA). Cafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 2000 ac yna pob tair blynedd ers hynny. Caiff yr asesiad ei gynnal gyda'r nod o wella polisïau ac allbynnau addysgol. Gwneir defnydd cynyddol o'r data i asesu dylanwad safonau addysgol ar incwmau a thwf ac er mwyn deall yr hyn sy'n achosi gwahaniaethau ymhlith gwahanol genhedloedd.[1]

Cymrodd 470,000 o ddisgyblion 15 mlwydd oed o 65 o genhedloedd a thiriogaethau ran ym mhrofion PISA yn 2009. Ym mhrofion 2012, cymeroddodd 34 o wledydd OECD ran, a 31 o wledydd eraill, gyda 510,000 o ddisgyblion - 40,000 yn fwy na'r tro cynt.[2][3]

Gwledydd Prydain golygu

Ym mhrofion 2009 a 2012 roedd canlyniad y profion yng ngwledydd Prydain ychydig uwch na'r cyfartaledd, gyda gwyddoniaeth yn uwch na mathemateg a darllen.[4] Ceir canlyniadau ar wahân i'r gwledydd hyn a'r canlyniad gwaethaf yn y blynyddoedd hyn oedd mathemateg yng Nghymru, gyda Chymru'n 43ydd allan o 65 gwlad. Yn ôl y Gweinidog Addysg ar y pryd, Huw Lewis, nid oedd ateb sydyn i'r broblem.[5] Nid oes fawr o wahaniaeth rhwng canlyniadau disgyblion ysgolion breifat y DU ac ysgolion awdurdodau lleol, ac roedd y gwahaniaeth rhwng bechgyn a merched mewn darllen yn llai nag yn y rhan fwyaf o wledydd, lle mae'r ferch, ar y cyfan, yn perfformio'n well na'r bechgyn.[4]

Sgorau cymedrig PISA 2009 ar gyfer gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig


Darllen Mathemateg Gwyddoniaeth
Y DU 494 492 514
Lloegr 495 492 515
Yr Alban 500 499 514
Gogledd Iwerddon 499 493 511
Cymru 476 472 496

Cymru golygu

Ym mhrofion 2012 mewn mathemateg, daeth Cymru'n 43fed allan o 68 o wledydd, o'i gymharu â 40fed ym mhrofion 2009. Ym maes darllen mae'n 41fed o'i gymharu â 38fed yn 2009. Ac ym maes gwyddoniaeth, mae Cymru wedi disgyn o'r 30ain safle i'r 36ed y tro hwn. Dywedodd pennaeth Pisa, Andreas Schleicher fod y "bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill y DU yn arwyddocaol iawn iawn; rydych chi'n siarad am dri chwarter blwyddyn ysgol".

2012 golygu

Aelodau OECD mewn ffont trwm.
Mathemateg Gwyddoniaeth Darllen
1   Shanghai, Tsieina 613
2   Singapôr 573
3   Hong Cong, Tsieina 561
4   Taiwan 560
5   De Corea 554
6   Macau, Tsieina 538
7   Japan 536
8   Liechtenstein 535
9   Y Swistir 531
10   Yr Iseldiroedd 523
11   Estonia 521
12   Y Ffindir 519
13=   Canada 518
13=   Gwlad Pwyl 518
15   Gwlad Belg 515
16   Yr Almaen 514
17   Fietnam 511
18   Awstria 506
19   Awstralia 504
20=   Iwerddon 501
20=   Slofenia 501
22=   Denmarc 500
22=   Seland Newydd 500
24   Y Weriniaeth Tsiec 499
25   Ffrainc 495
26   Y Deyrnas Unedig 494
27   Gwlad yr Iâ 493
28   Latfia 491
29   Lwcsembwrg 490
30   Norwy 489
31   Portiwgal 487
32   Yr Eidal 485
33   Sbaen 484
34=   Russia 482
34=   Slofacia 482
36   Unol Daleithiau America 481
37   Lithwania 479
38   Sweden 478
39   Hwngari 477
40   Croatia 471
41   Israel 466
42   Gwlad Groeg 453
43   Serbia 449
44   Twrci 448
45   Rwmania 445
46   Cyprus 440
47   Bwlgaria 439
48   Emiradau Arabaidd Unedig 434
49   Casachstan 432
50   Gwlad Tai 427
51   Tsile 423
52   Maleisia 421
53   Mecsico 413
54   Montenegro 410
55   Wrwgwái 409
56   Costa Rica 407
57   Albania 394
58   Brasil 391
59=   Yr Ariannin 388
59=   Tiwnisia 388
61   Gwlad Iorddonen 386
62=   Colombia 376
62=   Qatar 376
64   Indonesia 375
65   Periw 368
1   Shanghai, Tsieina 580
2   Hong Cong, Tsieina 555
3   Singapôr 551
4   Japan 547
5   Y Ffindir 545
6   Estonia 541
7   De Corea 538
8   Fietnam 528
9   Gwlad Pwyl 526
10=   Liechtenstein 525
10=   Canada 525
12   Yr Almaen 524
13   Taiwan 523
14=   Yr Iseldiroedd 522
14=   Iwerddon 522
16=   Macau, Tsieina 521
16=   Awstralia 521
18   Seland Newydd 516
19   Y Swistir 515
20=   Slofenia 514
20=   Y Deyrnas Unedig 514
22   Y Weriniaeth Tsiec 508
23   Awstria 506
24   Gwlad Belg 505
25   Latfia 502
26   Ffrainc 499
27   Denmarc 498
28   Unol Daleithiau America 497
29=   Sbaen 496
29=   Lithwania 496
31   Norwy 495
32=   Yr Eidal 494
32=   Hwngari 494
34=   Lwcsembwrg 491
34=   Croatia 491
36   Portiwgal 489
37   Russia 486
38   Sweden 485
39   Gwlad yr Iâ 478
40   Slofacia 471
41   Israel 470
42   Gwlad Groeg 467
43   Twrci 463
44   Emiradau Arabaidd Unedig 448
45   Bwlgaria 446
46=   Serbia 445
46=   Tsile 445
48   Gwlad Tai 444
49   Rwmania 439
50   Cyprus 438
51   Costa Rica 429
52   Casachstan 425
53   Maleisia 420
54   Wrwgwái 416
55   Mecsico 415
56   Montenegro 410
57   Gwlad Iorddonen 409
58   Yr Ariannin 406
59   Brasil 405
60   Colombia 399
61   Tiwnisia 398
62   Albania 397
63   Qatar 384
64   Indonesia 382
65   Periw 373
1   Shanghai, Tsieina 570
2   Hong Cong, Tsieina 545
3   Singapôr 542
4   Japan 538
5   De Corea 536
6   Y Ffindir 524
7=   Taiwan 523
7=   Canada 523
7=   Iwerddon 523
10   Gwlad Pwyl 518
11=   Liechtenstein 516
11=   Estonia 516
13=   Awstralia 512
13=   Seland Newydd 512
15   Yr Iseldiroedd 511
16=   Macau, Tsieina 509
16=   Y Swistir 509
16=   Gwlad Belg 509
19=   Yr Almaen 508
19=   Fietnam 508
21   Ffrainc 505
22   Norwy 504
23   Y Deyrnas Unedig 499
24   Unol Daleithiau America 498
25   Denmarc 496
26   Y Weriniaeth Tsiec 493
27=   Awstria 490
27=   Yr Eidal 490
29   Latfia 489
30=   Lwcsembwrg 488
30=   Portiwgal 488
30=   Sbaen 488
30=   Hwngari 488
34   Israel 486
35   Croatia 485
36=   Gwlad yr Iâ 483
36=   Sweden 483
38   Slofenia 481
39=   Lithwania 477
39=   Gwlad Groeg 477
41=   Russia 475
41=   Twrci 475
43   Slofacia 463
44   Cyprus 449
45   Serbia 446
46   Emiradau Arabaidd Unedig 442
47=   Gwlad Tai 441
47=   Tsile 441
47=   Costa Rica 441
50   Rwmania 438
51   Bwlgaria 436
52   Mecsico 424
53   Montenegro 422
54   Wrwgwái 411
55   Brasil 410
56   Tiwnisia 404
57   Colombia 403
58   Gwlad Iorddonen 399
59   Maleisia 398
60=   Yr Ariannin 396
60=   Indonesia 396
62   Albania 394
63   Casachstan 393
64   Qatar 388
65   Periw 384


Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Llywodraeth Cymru; adalwyd Mehefin 2016
  2. PISA 2012 Results in Focus, OECD, 3 December 2013, http://www.oecd.org/pisa/keyfindings/pisa-2012-results-overview.pdf, adalwyd 4 Rhagfyr 2013
  3. "Programme for International Student Assessment (PISA)". The Council of Ministers of Education, Canada. Cyrchwyd 2016-06-05. Italic or bold markup not allowed in: |website= (help)
  4. 4.0 4.1 Adams, Richard (2013-12-03), UK students stuck in educational doldrums, OECD study finds, The Guardian, http://www.theguardian.com/education/2013/dec/03/uk-students-education-oecd-pisa-report, adalwyd 2013-12-04
  5. Pisa ranks Wales' education the worst in the UK BBC. 3 Rhagfyr 2013. Adalwyd Rhagfyr 2013.