Gwleidydd Prydeinig o'r Blaid Geidwadol a newyddiadurwr oedd Leopold Charles Maurice Stennett Amery CH, a adwaenir gan amlaf fel Leo Amery neu L. S. Amery (22 Tachwedd 187316 Medi 1955)[1] a wasanaethodd yn Brif Arglwydd y Morlys o 1922 i 1924, yn Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau o 1924 i 1929, ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros India a Byrma o 1940 i 1945.

Leo Amery
Leo Amery ym 1921.
Ganwyd22 Tachwedd 1873 Edit this on Wikidata
Gorakhpur Edit this on Wikidata
Bu farw16 Medi 1955 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, newyddiadurwr, llenor Edit this on Wikidata
SwyddYsgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau, Ysgrifennydd Gwladol India, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Prif Arglwydd y Morlys, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 33ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Y Blaid Unoliaethol Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadCharles Frederick Amery Edit this on Wikidata
MamElizabeth Johanna Saphir Edit this on Wikidata
PriodAdeliza Florence Louise Hamar Greenwood Edit this on Wikidata
PlantJulian Amery, Baron Amery of Lustleigh, John Amery Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Gorakhpur, yn Nhaleithiau'r Gogledd-orllewin, yng nghyfnod y Raj Prydeinig yn India. Cafodd ei addysg yn Lloegr—Ysgol Harrow a Choleg Balliol, Rhydychen—cyn cychwyn ar yrfa yn y wasg. Amery oedd prif ohebydd The Times yn ystod Ail Ryfel y Boer o 1899 i 1900, a golygydd The Times History of the South African War (saith cyfrol, 1900–09). Gadawodd y papur newydd ym 1909, a chafodd ei ethol i Senedd y Deyrnas Unedig ym 1911.

Penodwyd Amery yn is-ysgrifennydd gwladol dros y trefedigaethau ym 1919, ac i swydd yn y Morlys ym 1921. Fe'i penodwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1922, ac yn Brif Arglwydd y Morlys o 1922 i 1924. Fe'i dyrchafwyd yn ysgrifennydd gwladol dros y trefedigaethau ym 1924, ac ym 1925 fe sefydlodd Swyddfa'r Dominiynau, adran lywodraethol a ailenwyd yn ddiweddarach yn Swyddfa Cysylltiadau'r Gymanwlad.

Cafodd ei gau allan o'r llywodraeth genedlaethol o 1931 i 1940, ac heb rym fe geisiai ddylanwadu ar bolisi tramor drwy ladd yn chwyrn ar Gytundeb München ac ymdrechion y Prif Weinidog Neville Chamberlain i ddyhuddo'r Almaen Natsïaidd. Ar 7 Mai 1940, yn ystod y ddadl ffyrnig yn Nhŷ'r Cyffredin dros arweinyddiaeth Chamberlain a'i gabinet o gamau cychwynnol yr Ail Ryfel Byd, ailadroddodd Amery orchymyn enwog Oliver Cromwell i'r Senedd Hir—"In the name of God, go!"—wrth alw am lywodraeth newydd. Yn sgil cwymp Chamberlain, gwasanaethodd Amery yn ysgrifennydd dros India a Byrma am weddill y rhyfel.

Bu farw yn Llundain yn 81 oed.

Amery a'r Iddewon

golygu

Iddewes ethnig o Fwdapest oedd ei fam, Elisabeth Leitner (tua 1841–1908), o deulu a drodd yn Brotestannaidd oddeutu 1840 ac a ymfudodd i Brydain yn y 1850au. Er nad oedd yn uniaethu fel Iddew, gweithiodd Amery dros achosion Iddewig trwy gydol ei yrfa wleidyddol, yn enwedig Seioniaeth. Ym 1917, fe gynorthwyodd Vladimir Jabotinsky wrth ennill caniatâd swyddogol i ffurfio'r Lleng Iddewig. Ym 1917–18, lluniodd Amery un o'r drafftiau ar gyfer Datganiad Balfour.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) L.S. Amery. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Mai 2023.
  2. (Saesneg) "Amery, Leopold Charles Maurice Stennett" yn Encyclopaedia Judaica. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 30 Mai 2023.