Lilly Becher
Awdures Almaenig oedd Lilly Becher (née Korpus; 27 Ionawr 1901 - 20 Medi 1978) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, cofiannydd a gwrthryfelwr milwrol, Comiwnyddol. Ond mae'n fwyaf adnabyddus am fod yn un o'r awduron gwrth-Natsïaidd cyntaf i gynhyrchu gwaith dogfennol yn ymwneud ag erledigaeth Iddewon yn yr Almaen Natsïaidd yn ystod y 1930au.
Lilly Becher | |
---|---|
Ganwyd | Lilly Korpus 27 Ionawr 1901 Nürnberg |
Bu farw | 20 Medi 1978 Dwyrain Berlin |
Man preswyl | Berlin, Fienna, Paris |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, cofiannydd, gwrthryfelwr milwrol, ymgyrchydd, stenotypist, golygydd cyfrannog, prif olygydd |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol yr Almaen, Plaid Undod Sosialaidd yr Almaen |
Priod | Johannes R. Becher |
Gwobr/au | Baner Llafar, Urdd Teilyngdod y Gwladgarwr |
Redd Lilly Becher yn wraig i'r awdur nodedig Johannes Becher a chafodd gydnabyddiaeth sylweddol yn Nwyrain yr Almaen fel awdur. Ganed Lilly Korpus yn Nürnberg yn nhalaith Bafaria yn yr Almaen a bu farw yn Nwyrain Berlin.[1][2][3]
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol yr Almaen a Phlaid Undod Sosialaidd yr Almaen.[4]
Gwaith
golyguAstudiodd ym Munich a Heidelberg. Wedi iddi ymuno â Phlaid Gomiwnyddol yr Almaen (KPD) yn 1919, dechreuodd ar yrfa hir fel newyddiadurwr gwleidyddol yn y 1920au, gan weithio i bapur newydd KPD Die Rote Fahne yn 1921 a threfnu adran menywod o'r Blaid Gomiwnyddol ym 1922-1923.
Symudodd i Fienna yn 1933, sef y flwyddyn y daeth Hitler i bwer yn yr Almaen, gan aros yno am flwyddyn cyn symud i weithio i gwmni cyhoeddi Éditions du Carrefour ym Mharis, lle bu'n helpu i gyhoeddi a dogfennu sefyllfa Iddewon yr Almaen o dan y Natsïaid yn Der Gelbe Fleck, un o'r gyfres o fewn y casgliad Éditions du Carrefour yn 1936. Roedd hwn yn un o'r gweithiau dogfen cyntaf o'r fath ar y pwnc. Ysgrifennwyd rhagair y llyfr gan Lion Feuchtwanger.
Ar ôl cyfarfod a phriodi Johannes R. Becher, ffoadur chwyldroadol a chyd-ffoaduriaid rhag y Natsïaid ym Mharis, symudodd y ddau i'r Undeb Sofietaidd, gan fyw yno tan 1945. Ymunodd y ddau â Phwyllgor Cenedlaethol dros Almaen Rydd (Almaeneg: Nationalkomitee Freies Deutschland, neu NKFD) yn dilyn goresgyniad yr Almaen o'r Undeb Sofietaidd. Ond wedi trechu'r Almaen dychwelodd y ddau i Ddwyrain yr Almaen - y rhan a feddiannodd yr Undeb Sofietaidd.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Bwyllgor Cenedlaethol ar gyfer Almaen Rhydd am rai blynyddoedd. [5]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Baner Llafar, Urdd Teilyngdod y Gwladgarwr .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014
- ↑ Redaktion Rudolf Olden, Hrsg.: Comité des Delegations Juives, Paris 1934.
- ↑ Galwedigaeth: https://www.infinite-women.com/women/lilly-becher/. https://www.infinite-women.com/women/lilly-becher/. https://www.infinite-women.com/women/lilly-becher/.