Lionel Messi

Pêl-droediwr o'r Ariannin ydy Lionel Messi (ganwyd Lionel Andrés Messi 24 Mehefin 1987) sy'n chwarae i glwb Paris Saint-Germain yn La Liga ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Yr Ariannin.

Lionel Messi

Messi yn chwarae i Barcelona yn 2011
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnLionel Andrés Messi[1]
Dyddiad geni (1987-06-24) 24 Mehefin 1987 (35 oed)[1]
Man geniRosario, Yr Ariannin[1]
Taldra1.69m[1]
SafleYmosodwr
Y Clwb
Clwb presennolParis Saint-Germain
Rhif30
Gyrfa Ieuenctid
1995–2000Newell's Old Boys
2000–2003Barcelona
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2003–2004Barcelona C10(5)
2004–2005Barcelona B22(6)
2004–2021Barcelona520(474)
2021–Paris Saint-Germain1(0)
Tîm Cenedlaethol
2004–2005Yr Ariannin dan 2018(14)
2007–2008Yr Ariannin dan 235(2)
2005–Yr Ariannin97(45)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 23:10, 28 Ebrill 2015 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 01:00, 15 Mehefin 2014 (UTC)

Pan yn 11 cafwyd fod Messi yn dioddef o ddiffyg hormon tyfiant a cytunodd Barcelona i dalu'r $900 oedd ei angen am y triniaeth ar yr amod ei fod yn symud i Sbaen ac yn ymuno ag Academi'r clwb[2].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Barcelona yn erbyn Espanyol ar 16 Hydref 2004 yn 17mlwydd ac 114 diwrnod oed gan ddod y trydydd chwaraewr ieuengaf i chwarae dros y clwb yn La Liga, record fyddai'n cael ei dorri gan Bojan Krkić ym Medi 2007.

Yn 21 mlwydd oed cafodd ei enwebu ar gyfer gwobrau'r Ballon d'Or a Chwaraewr y Flwyddyn FIFA ac yn 2009 casglodd y cyntaf o'i wobrau Ballon d'Or cyn ennill y wobr eto yn 2010, 2011 a 2012.

Daeth yn brif sgoriwr yn holl hanes Barcelona ar 16 Mawrth 2014 pan sgoriodd hat-tric yn erbyn Osasuna[3].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i'r Ariannin yn 2005 yn 18 mlwydd oed yn erbyn Hwngari, ond wedi dod i'r maes fel eilydd wedi 63 munud, cafodd ei hel o'r maes dau funud yn ddiweddarach am drosedd[4] a chasglodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2008 yn Beijing.

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "10 Messi". fcbarcelona.com. FC Barcelona. Cyrchwyd 6 Ionawr 2012.
  2. "Franck Ribery the man to challenge Lionel Messi and Barcelona". 2009-04-04. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Leo Messi surpasses Paulino Alcantara". 2014-03-16. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Messi handles 'new Maradona' tag". 2005-08-22. Unknown parameter |published= ignored (help)


  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.