Llabedlys anomalaidd

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Llabedlys anomalaidd
Mylia anomala

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Jungermanniales
Teulu: Myliaceae
Genws: Mylia
Rhywogaeth: M. anomala
Enw deuenwol
Mylia anomala

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llabedlys anomalaidd (enw gwyddonol: Mylia anomala; enw Saesneg: anomalous flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Mae M. anomala i'w gael yn aml yng nghanol mwsoglau mewn corsydd mawn, ond gellir eu canfod hefyd yn tyfu dros greigiau a chlogfeini, ar foncyffion coed, dros hwmws mewn corsydd a thros lannau pridd, neu weithiau ar bren sy'n pydru.

Mae'n cael ei adnabod oherwydd fod ganddo ddail ochrol mawr, crwn sy'n edrych fel clustiau Mickey Mouse wrth eu torri mewn darn traws a gwasgu'n fflat.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Llabedlys anomalaidd gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.