Llabedlys calonffurf
Llabedlys calonffurf Jungermannia exsertifolia | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Jungermanniaceae |
Genws: | Jungermannia |
Rhywogaeth: | J. exsertifolia |
Enw deuenwol | |
Jungermannia exsertifolia |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llabedlys calonffurf (enw gwyddonol: Jungermannia exsertifolia; enw Saesneg: cordate flapwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, gogledd Lloegr ac Iwerddon, ond yn fwyaf cyffredin yn yr Alban. Mae'r Jungermannia yn blanhigyn mawr, cryf ac aromatig, gyda'r coesynnau hyd at 5 mm o led. Fel arfer mae'n tyfu mewn twmpathau mawr. Mae'r dail tua 2 mm o hyd ac yn llydan, ac fe arfer yn siâp calon, gyda sylfaen lydan sy'n culhau'n gyflym i'r coesyn a blaen cul, crwn.
Llysiau'r afu
golygu- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.