Llandywynnog
Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Llandywynnog (Saesneg: Whitchurch).[1]
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod unedol) |
Poblogaeth | 1,005 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.85°N 2.65°W |
Cod SYG | E04000908 |
Cod OS | SO550174 |
Saif Llandywynnog ar yr A40 – rhwng tref Mynwy yn y gorllewin a Rhosan ar Wy (Ross-on-Wye) yn y dwyrain; y dref agosaf yw Symonds Yat. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Deuarth Fach (The Doward valley) o fewn Dyffryn Afon Gwy. Mae eglwys y plwyf wedi ei chysegui i Ddyfrig Sant (Saint Dubricius).
Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 964.[2]
Hyd at y 9g arferai'r gymuned fod yn Nheyrnas Erging, Cymru, cyn i wŷr Mersia ei hawlio, ac yna'n ddiweddarach, yn y 16C daeth yn rhan o Swydd Henffordd, Lloegr.[3] Ar ôl 1066 newidiwyd enw'r ardal yma (yr hen Erging Seisnig) i "Archenfield".
Mae'r enw Llandywynnog yn cyfeirio at Sant Tywynnog.[4]
Mae hen gartref y teulu Gwillim yn dal i sefyll, sef yr Old Court Hotel, lle y bu John Graves Simcoe (Llywodraethwr Canada Uchaf a sefydlydd dinas Toronto) a'i wraig Elizabeth Posthuma Gwillim, hefyd yn trigo am ysbaid.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 28 Tachwedd 2022
- ↑ City Population; adalwyd 28 Tachwedd 2022
- ↑ Colin Lewis, Herefordshire: the Welsh Connection (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
- ↑ Welsh place names in Herefordshire; adalwyd 17 Mehefin 2016.