Llanllibio
pentref ar Ynys Môn
Plwyf eglwysig ar Ynys Môn yw Llanllibio. Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin yr ynys i'r gogledd o bentref Rhosneigr.
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.3°N 4.5°W ![]() |
AS/au | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Llifon yng nghantref Aberffraw.[1]
Dyma fro 'Madam Wen', y cymeriad rhamantus honno o'r 17g a bortreadir yn nofel William David Owen, a aned yn y plwyf yn 1874. Cysylltir Madam Wen gydag ardal Llyn Traffwll, i'r de o bentref bychan Bodedern ym mhlwyf Llanfihangel-yn-Nhywyn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Atlas Môn (Llangefni, 1972).