William David Owen
Nofelydd Cymraeg oedd William David Owen (21 Hydref 1874 – 4 Tachwedd 1925), a ysgrifennai wrth yr enw W. D. Owen. Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y rhamant hanesyddol Madam Wen.[1]
William David Owen | |
---|---|
Ganwyd | 21 Hydref 1874 Bodedern |
Bu farw | 4 Tachwedd 1925 Rhosneigr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, llenor |
Bywgraffiad
golyguGaned W. D. Owen yn "Nhŷ Franan", ychydig i'r gogledd-orllewin o bentref Bryngwran, ond ym mhlwyf Bodedern, Ynys Môn yn 1874.[2][3] Astudiodd yng Ngholeg y Normal, Bangor, ac aeth ymlaen i astudio'r gyfraith a daeth yn fargyfreithiwr. Aeth i weithio i Lundain ond bu'n wael iawn a bu'n rhaid iddo ddychwelyd adref i Fôn lle gweithiodd fel cyfreithiwr yn Rhosneigr am rai blynyddoedd. Dyma'r cyfnod pan aeth ati i lenydda. Bu farw ar 4 Tachwedd 1925, yn 50 oed.[4]
Gwaith llenyddol
golyguCyhoeddodd ddwy nofel fel cyfres yn Y Genedl Gymreig, newyddiadur Cymraeg a gyhoeddid yng Nghaernarfon. Ni roddir llawer o sylw gan feirniaid heddiw i'r gyntaf, sef Elin Cadwaladr (1914), ond mae'r ail, Madam Wen (1914-1917) yn llyfr poblogaidd o hyd ac wedi ysbrydoli ffilm teledu a ddangoswyd ar S4C. Ymddengys fod yr awdur wedi tynnu ar draddodiadau lleol i lunio'r rhamant gyffrous a leolir ar yr ynys ganol y 18g. Yn ôl traddodiad yn ardal Bodedern, roedd ogof Madam Wen mewn hafn ar ochr Llyn Traffwll, ger Bodedern.[4]
Llyfryddiaeth
golyguNofelau W. D. Owen
golygu- Elin Cadwaladr (1914)
- Madam Wen (1914-17) yn Y Genedl Gymreig; cyhoeddwyd fel llyfr gan Hughes a'i Fab (1925)
Erthyglau amdano
golygu- Mairwen Gwynn Jones, "W. D. Owen", Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983).
- R. Maldwyn Thomas, "W. D. Owen", Gwŷr Môn, gol. Bedwyr Lewis Jones (Y Bala, 1979)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mairwen Gwynn Jones, 'W. D. Owen', Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983.
- ↑ Y Bywgraffiadur Arlein; gwybodaeth gan ei chwaer ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Ffotograff o'r tŷ, a lleoliad ar wefan anglesey.info; Archifwyd 2016-08-10 yn y Peiriant Wayback adalwyd 15 Rhagfyr 2016.
- ↑ 4.0 4.1 R. Maldwyn Thomas, 'W. D. Owen', Gwŷr Môn (Y Bala, 1979).