Eglwys Gredifael
hen eglwys ym Mhenmynydd
(Ailgyfeiriad o Llanredifel)
Saif Eglwys Gredifael, neu Eglwys Penmynydd rhwng Porthaethwy a Llangefni ar Ynys Môn (Cyfeirnod OS: SH 517 749); yr hen enw arni oedd Llanredifel . Fe'i cysegrir i Sant Gredifael, ei sefydlydd yn ôl traddodiad.[1]
Hanes
golyguMae gan yr eglwys hon gysylltiad â theulu Tuduriaid Penmynydd sef teulu o uchelwyr Cymreig fu'n flaenllaw yng ngwleidyddiaeth Cymru ac yn ddiweddarach Lloegr. Roedd yn eglwys plwyf Llanredifael (neu Llanredifel), a chyfeirir ati weithiau wrth yr enw hwnnw mewn ffynonellau hynafiaethol; safai'r plwyf yng nghwmwd Dindaethwy.
Yma mae cerflun alabaster o Goronwy ap Tudur Fychan a'i briod Myfanwy.
Oriel
golygu-
Eglwys hynod Penmynydd
-
Eglwys Gredifael o'r cefn
-
Drws pren yr eglwys wedi'i agor, gyda cherflun alabaster o Goronwy ap Tudur Fychan yn y pen draw
-
Y tu fewn
-
Ffenestr liw gyda'r geiriau:Undeb fel Rhosyn yw ar lan Afonydd ac fel Tŷ Dur ar Ben y Mynydd
-
Arch garreg Goronwy a Myfanwy a symudwyd yma o Leiandy Llanfaes
-
Cerflun o Goronwy ap Tudur Fychan
-
Arfbais y Tuduriaid ar fagwyr yr egwlys
-
Yr allor
-
Prif ffestr liw'r eglwys
-
Bedyddfaen garreg ger y porth
-
Cerflun o Goronwy, gyda'r ffenestr liw y tu ôl.
-
Y Rhyfel Byd Cyntaf; i gofio am fechgyn y plwyf a fu farw
-
Y nenfwd uwch-ben corff yr eglwys
-
Y nenfwd uwch ben yr allor
-
Y fynwent
Cyfeiriadau
golygu- ↑ A Welsh Classical Dictionary; gwefan y LlGC; adalwyd 13 Tachwedd 2017.