Agor y brif ddewislen

Uchelwr blaenllaw o Ynys Môn a berthynai i linach Tuduriaid Penmynydd oedd Goronwy ap Tudur Fychan (bu farw 1382). Fe'i adnabyddir hefyd fel Gronw Fychan neu Goronwy Fychan. Roedd yn un o ddisgynyddion Ednyfed Fychan ac yn un o hendeidiau Harri Tudur.

Goronwy ap Tudur Fychan
Gronw Tudur.jpg
Bu farw 1382 Edit this on Wikidata
Achos: boddi Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Tad Tudur Fychan Edit this on Wikidata
Llinach Tuduriaid Penmynydd Edit this on Wikidata
Arfau Tuduriaid Penmynydd
Yr arfbais ar fagwyr Eglwys Penmynydd
Y cerflun alabaster

BywgraffiadGolygu

Roedd Goronwy yn un o wyrion Goronwy ap Tudur (bu farw 1331), trwy ei fab Tudur Fychan neu Tudur ap Goronwy. Etifeddodd arglwyddiaeth Penmynydd ar farwolaeth ei dad yn 1367. Priododd Fyfanwy ferch Iorwerth Ddu ab Ednyfed Gam o'r Pengwern ger Llangollen.

Roedd ganddo bedwar brawd:

Roedd Goronwy yn ŵr o ddylanwad mawr a safle uchel yn y gymdeithas. Mae'n debygol ei fod wedi gwasanaethu gyda milwyr Cymreig eraill yn y rhyfeloedd yn Ffrainc. Roedd yn dal stiwardiaeth tiroedd sylweddol esgob Bangor ym Môn.[1]

Ymwelodd y bardd Iolo Goch â phlasdy Penmynydd rywbryd yn y cyfnod 1367-1382. Mae'n moli croeso hael Goronwy ap Tudur Fychan ac yn cymharu Penmynydd i aelwyd llys Urien Rheged:

Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
Caer Pen Môn, carw Penmynydd,
Tŷ, gwelais gynt, teg wiwle,
Tudur Llwyd, da ydyw'r lle;
Yno mae, heb gae ar ged,
Ail drigiant aelwyd Rheged.[2]

Yn 1382, cafodd ei apwyntio'n gwnstabl Castell Biwmares, ond bu farw trwy foddi - yn swydd Caint efallai - cyn iddo gael cyfle i ddychwelyd i Fôn a chymryd y swydd. Roedd ei fab Tudur dan oed ac etifeddwyd tiroedd Goronwy gan ei chwaer Morfudd, a briododd i deulu'r Penrhyn yn Arfon.[3]

Mae beddfaen alabaster cerfiedig Gronw Fychan, a fu farw yn 1382, gyda'i wraig Myfanwy, i'w weld yn eglwys y plwyf, sydd wedi ei chysegru i Sant Gredifael.

CyfeiriadauGolygu

  1. A. D. Carr, Medieval Anglesey (Llangefni, 1982), tud. 203.
  2. Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988). Cerdd V, ll. 47-52
  3. Medieval Anglesey, tud. 203.

Gweler hefydGolygu

Dolen allanolGolygu