Llansanffraid Gwynllŵg
Pentrefan yng nghymuned Gwynllŵg, Casnewydd, Cymru, yw Llansanffraid Gwynllŵg[1] (Saesneg: St Brides Wentloog neu St Brides Wentlooge).[2] Saif i'r de-orllewin i ddinas Casnewydd.
![]() | |
Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.5343°N 3.0207°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jayne Bryant (Llafur) |
AS/au | Ruth Jones (Llafur) |
![]() | |
Lleoliad Golygu
Mae'n gorwedd ym mhlwyf Gwynllŵg ac ardal etholiadol (ward) Marshfield. Fel y rhan fwyaf o'r aneddiadau ar Lefel Gwynllŵg mae'n gorwedd ar dir y tu ôl i wal y môr a adferwyd o Fôr Hafren.
Hanes Golygu
Nawddsant pentref ac eglwys Llansanffraid Gwynllŵg yw'r Santes Ffraid.
Mae eglwys St Ffraid yn adeilad hynafol o garreg yn yr arddulliau Addurnedig a Pherpendicwlar, ac mae'n cynnwys cangell, corff, porth deheuol a thŵr gorllewinol perpendicwlar anferthol sy'n cynnwys 6 chloch, pedwar ohonynt wedi eu harysgrifio gyda'r dyddiad 1734. Mae plac y tu mewn i'r porth yn nodi lefel llanw uchel lifogydd Môr Hafren 1607.
Llansanffraid Gwynllŵg oedd lle geni Lyn Harding (1867-1952), actor llwyfan, ffilm, a radio.
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ "Enwau Lleoedd Safonol Cymru", Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 17 Gorffennaf 2023
- ↑ British Place Names; adalwyd 17 Gorffennaf 2023
Dinas
Casnewydd
Pentrefi
Allteuryn · Basaleg · Caerllion · Langstone · Llanfaches · Llanfihangel-y-fedw · Llansanffraid Gwynllŵg · Llan-wern · Pen-hŵ · Y Redwig · Trefesgob · Trefonnen · Tŷ-du