Pen-hw

pentref yng Nghasnewydd
(Ailgyfeiriad o Pen-hŵ)

Pentref, plwyf hanesyddol a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Pen-hw (Saesneg: Penhow). Saif ar ffin ddwyreiniol sir Casnewydd, tuag wyth milltir o ganol y ddinas. Roedd poblogaeth y gymuned yn 726 yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2021.

Pen-hw
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth726 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6151°N 2.835°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000826 Edit this on Wikidata
Map

Heblaw pentref bychan Pen-hw ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentref mwy Parc Seymour. Castell Pen-hw yw ei hadeilad mwyaf adnabyddus. Fe'i hadeiladwyd gan Syr Roger de St Maur, un o'r marchogion a oedd yn gysylltiedig ag arglwyddiaeth Striguil a Chastell Cas-gwent. Mae cofnod ei fod ym Mhen-hw erbyn 1129. Yn ddiweddarach, newidiodd y teulu ei enw i Seymour.

Y castell a'r eglwys oddeutu 1800.

Ar 19 Gorffennaf 2006, cofnodwyd tymheredd o 34.2°C (93.5°F) ym Mhen-hw, sef y tymheredd uchaf i'w gofnodi hyd hynny yng Nghymru. Ers hynny, mae tymheredd uwch wedi ei gofnodi mewn mannau eraill.

Mae Coetir Pen-hw yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Tarddiad yr enw

golygu

Mae'n debyg fod ail elfen yr enw yn cynnwys yr Hen Saesneg hōh, sef ffurf cyflwr derbyniol neu ddadiol 'cefnen ymwthiol'. Ceir y cyfnod cyntaf o'r enw oddeutu 1130 yn y ffurf Penhou. Ceir y ffurf pen hw mewn rhestr Gymraeg o blwyfi Cymru o tua 1566.[1]

Yr iaith Gymraeg

golygu

Yn ei gyfrol Wild Wales (sy'n disgrifio taith trwy Gymru yn 1854), mae George Borrow yn nodi iddo gwrdd â menyw o Ben-hw o'r enw Esther Williams, ychydig i'r dwyrain o Gasnewydd. Dywedodd Esther ei bod yn medru'r Gymraeg a bod hynny'n wir am bawb am o leiaf wyth milltir i'r dwyrain o Gasnewydd. Fodd bynnag, dywedodd merch arall wrth Borrow na allai hi siarad Cymraeg ac mai lleiafrif bychan o bobl yr ardal a oedd yn Gymry Cymraeg. Amcangyfrifai Borrow ei hun fod tua hanner y bobl y bu iddo eu cyfarfod yn y saith neu wyth milltir i'r dwyrain o Gasnewydd yn medru'r iaith.[2]

Mae Cyfrifiad 1891 yn nodi bod nifer fechan o siaradwyr yn y plwyf, ond nid oedd yr un ohonynt wedi eu geni yno.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-names of Wales. Llandysul: Gomer, 2007, ISBN 1-84323-901-9, t. 366.
  2. Borrow, George (1862). Wild Wales: Its People, Language and Scenery. London: John Murray. tt. 454–5.