Llawnt

pentref yn Swydd Amwythig

Pentref yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Llawnt.[1] Fe'i lleolir ym mhlwyf sifil Selattyn and Gobowen yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif tua milltir yn unig o'r ffin rhwng Swydd Amwythig a Phowys, ger Rhydycroesau, a thua 4 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt.

Llawnt
Mathpentref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSelattyn and Gobowen
Daearyddiaeth
SirSwydd Amwythig
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.87°N 3.116°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ248308 Edit this on Wikidata
Map

Mae'r enw yn ffurf Cymraeg Canol ar y gair benthyg o'r Saesneg "lawnt" a'r ystyr yn yr achos yma yw "Green" (mewn enwau lle am darn o dir gwyrdd yng nghanol pentref).[2] Mae ei leoliad a'i enw Cymraeg yn dangos y bu ar un adeg yn rhan o Bowys. Arosodd yn rhan o Gymru tan gyfnod y "Deddfau Uno" pan roddwyd Arglwyddiaeth Croesoswallt i Swydd Amwythig.

Llifa Afon Morda heibio i'r pentref.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 28 Medi 2020
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol II, tud. 2117.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato