Llwchaiarn
Sant gwrywaidd o'r 7g oedd Llwchaiarn neu Llwchayarn (g. 580) a nawddsant eglwysi Sant Llwchaiarn, Llanmerewig a Llanllwchaiarn, ill dau yn hen gantref Cedewain, Powys, a Llanychaearn a Llanllwchaearn yng Ngheredigion. Daw'r enw 'Llamerewig' o 'Llam yr ewig', a chysylltir stori am naid y carw ifanc â Llwchaiarn. Dethir ei ddydd gŵyl ar naill ai 11 neu 12 o Ionawr.[1]
Llwchaiarn | |
---|---|
Ganwyd | 580 Cymru |
Bu farw | 640 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Dydd gŵyl | 11 Ionawr |
Dywedir ei fod yn fab i Hygarfael ap Cyndrwyn o Gaereinion, Powys a’i fod yn frawd i’r seintiau Aelhaiarn (neu Aelhaearn) a Chynhaiarn (nawddsant Eglwys Sant Cynhaiarn, Ynys Ystumllyn ger Cricieth, Gwynedd). Roedd o bosib yn gefnder i Sant Beuno. Noda Bonedd y Saint ei fod yn fab i Cerfael a'i gysylltiad gyda Chedewain, Powys. Dywedir mewn llawysgrif arall (Peniarth MS.100; 16g) ei fod yn fab i 'Cerfael' neu 'Kynfael'[2]
Mewn Hen Gymraeg, gall y gair 'llwch' olygu 'llyn'.
Sgwennodd y bardd Sion Ceri (fl. c. 1500 - c.1530) gywydd i Llwchaearn lle gelwir y sant yn 'Llwchayarn, Filwr a Sant, o Lamerewig'.
Eglwysi
golyguRhestr Wicidata:
# | Eglwys neu Gymuned | Delwedd | Cyfesurynnau | Lleoliad | Wicidata |
---|---|---|---|---|---|
1 | Eglwys Llanychaearn, Llanfarian | 52°23′14″N 4°04′50″W / 52.387125°N 4.080643°W | Ceredigion | Q47182172 | |
2 | Eglwys Llwchaiarn | 52°31′25″N 3°17′34″W / 52.523556°N 3.2928746°W | Y Drenewydd a Llanllwchaearn | Q20714161 | |
3 | Eglwys Llwchaiarn, Ceinewydd | 52°12′49″N 4°21′56″W / 52.213513°N 4.365521°W | Ceinewydd | Q29489417 | |
4 | Eglwys Llwchaiarn, Llandysul | 52°31′48″N 3°14′35″W / 52.5299°N 3.24294°W | Llandysul | Q17739571 |
Gweler hefyd
golygu- Rhestr o seintiau Cymru
- Hen gantref Cedewain, Powys
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Baring-Gould (1908); adalwyd 11 Ionawr 2017.
- ↑ gwefan llgc.org.uk; adalwyd 11 Ionawr 2017.