Llwydfelyn
Colias croceus | |
---|---|
O dan yr adain | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Pieridae |
Genws: | Colias |
Rhywogaeth: | C. croceus |
Enw deuenwol | |
Colias croceus (Geoffroy, 1785) | |
Cyfystyron | |
Colias croceus f. deserticola Verity, 1909 |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw llwydfelyn; yr enw lluosog ydy llwydfelynion; yr enw Saesneg yw Clouded Yellow, a'r enw gwyddonol yw Colias croceus.[1][2]
Tiriogaeth
golyguEu tiriogaeth yw de Ewrop hyd at Twrci a'r Dwyrain Canol. Yn yr haf yn unig maen nhw'n ymfudo i Ewrop. Yng ngwledydd Prydain fe'u canfyddir ar arfordir deheuol Lloegr bron yn flynyddol ac yn achlysurol mewn mannau eraill. Maen nhw wedi'u gweld hefyd mor ogleddol â Dumfries yn Galloway yn yr Alban.
Ceir miloedd ohonynt ar adegau'n ymfudo gyda'i gilydd a gelwir y blynyddoedd hyn yn "flynyddoedd y cymylau melyn": 1877, 1947, 1983, 1992, 1994, 1996 a 2000.
Bwyd
golyguEu prif fwyd ydy is-deulu'r Faboideae e.e. meillion (Trifolium) ac Alfalfa (Medicago sativa) ac ar adegau Lotus corniculatus.
Y cylch bywyd
golyguYn ne Ewrop a gogledd Affrica maen nhw'n bridio drwy'r flwyddyn. Mae'r wyau'n cael eu dodwy ar y dail y byddant yn eu fwyta. Fe'u dodwyir yn unigol ar y dail. yn aml maen nhw'n troi'n chwiler o fewn tua mis; ar ôl tua tair wythnos maen nhw'n deor. Ceir tair cenhedlaeth ar adegau ac fe welir yr oedolyn ar ei adain hyd at gychwyn Tachwedd.
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: gloynnod byw a gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r llwydfelyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.