Ceir bron i 3,000 o lynnoedd yng Nghymru ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn ganlyniad i rewlifau.[1]

Llynnoedd Cymru
MathWikimedia duplicated page Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru

Oherwydd pwysigrwydd y llynnoedd, o ran natur a bywyd gwyllt, mae llawer ohonynt wedi cael eu dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig dan rwydwaith Natura 2000 o safleoedd bywyd gwyllt gwarchodedig Ewropeaidd. Cant eu gwarchod gan Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd hefyd yn gyfrifol am lendid yr afonydd ac am arolygu'r broses o gyflenwi dŵr yfed i drigolion Cymru. Ceisir diogelu rhywogaethau adnabyddus fel yr Eog a'r Dyfrgi a rhywogaethau llai adnabyddus fel y llysywen bendoll a misglen berlog yr afon.

Allforio dŵr i Loegr

golygu

Mae'r rhan fwyaf o lynnoedd a chronfeydd yn darparu dŵr i drigolion Cymru, ond mae rhai llynnoedd yn cyflenwi dŵr i Loegr, ac wedi eu creu'n un pwrpas ar gyfer hynny. Yn y 1070au bu'n rhaid i 70 o bobl adael Capel Celyn cyn boddi'r cwm a chodi argael i greu Llyn Celyn er mwyn cyflenwi dŵr i Lerpwl. Boddwyd sawl cwm yn y canolbarth hefyd, wedi i Birmingham Corporation droi dros gant o bobl o'u ffermydd a'u tyddynod er mwyn creu llynnoedd a elwir heddiw yn 'Lynnoedd Cwm Elan'.[2][3] Mae gan Gymru ei chwmni darparu dŵr ei hun: Dŵr Cymru, ond mae dau gwmni o Loegr hefyd wedi cael yr hawl dan drwydded i dynnu dŵr i ddarparu cyflenwad i Loegr: Severn Trent Water a United Utilities.

Y prif lynnoedd sy'n darparu dŵr i Loegr yw:

Y llynnoedd mwyaf

golygu

O ran arwynebedd, dyma'r llynnoedd mwyaf yng Nghymru:

Traddodiadau'n ymwneud â llynnoedd Cymru

golygu

Mae llynnoedd yng Nghymru, yn ogystal a'r môr, afonydd a ffynhonnau, yn gyforiog o goelion a straeon gwerin - atgof niwlog am hen draddodiadau a defodau cyn-Gristnogol Celtaidd. Roedd dŵr yn elfen holl bwysig ym mywydau pobol; yn rhan mor hanfodol o drefn natur ac eto'n llawn gwrthgyferbyniadau – yn ffynhonnell bywyd a bwyd, yn iachau a phuro, ond hefyd yn chwalu a lladd. Gallai fod yn dryloyw ac eto'n llawn dirgelwch yn nyfnder anweladwy llyn, môr neu bwll a phan yn llonydd yn adlewyrchu goleuni duw'r haul a llun y sawl a edrychai iddo.

Yng Nghymru canfyddwyd celc o waith metel yn Llyn Mawr, Morgannwg, yn dyddio o tua 600CC. Yn eu mysg roedd addurniadau harnais a cherbyd ceffyl; bwyelli, crymannau a dau grochan efydd – rhai ohonynt yn arddull addurniadol Hallstat, oedd yn blaenori'r La Ténne. Yn Llyn Cerrig Bach ym Môn cafwyd casgliad o arfau, crochannau, cadwen gaethweision a darnau o gerbyd rhyfel, oll wedi eu haberthu rhwng yr ail ganrif CC a'r ganrif gynta OC.

Parhaodd y cof am aberthu i lynnoedd yn hir iawn ac mae straeon gwerin yn gyffredin am anghenfil sy'n preswylio yn y dyfnder dyfrllyd ac yn mynnu aberth blynyddol – merch ifanc fel arfer – neu bydd yn gadael y llyn ac anrheithio'r wlad oddiamgylch. Ond wrth lwc, fel arfer, fe ddaw arwr i ymladd a difa'r anghenfil ac achub y ferch!

Un o'r enghreifftiau enwocaf o anghenfil o'r fath, pe cai ferch ifanc neu beidio(!), oedd yr Afanc a cheir sawl fersiwn o'r stori am y peth erchyll hwn. Yn Nyffryn Conwy, lle y llechai mewn pwll mawr yn Afon ConwyLlyn yr Afanc ger Betws y Coed – fe achosai orlifoedd enbyd yn y dyffryn bob hyn a hyn. Ond llwyddwyd i'w raffu a'i lusgo gan yr Ychain Bannog i Lyn Cwm Ffynnon yng nghesail y Glyder Fawr, ple na allai wneud cymaint o ddifrod. Yn Llyn Syfaddon ger Aberhonddu, Hu Gadarn a'i haliodd o'r llyn, tra yn Llyn Barfog ger Aberdyfi y Brenin Arthur a'i farch fu'n gyfrifol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. britannica.com; adalwyd 3 Medi 2020.
  2. "UK heatwave: How much water does Wales pump to England?". bbc.co.uk. BBC. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  3. "Elan Valley reservoirs". People's Collection of Wales. Cyrchwyd 2 Medi 2020.
  4. "Powys Digital History Project: Elan Valley Reservoirs". Cyrchwyd 9 Mai 2012.
  5. "Future capacity to supply'". What Do They Know?. What Do They Know?. Cyrchwyd 2 Medi 2020.