Llyn Coety

(Ailgyfeiriad o Llyn Coedty)

Llyn ym mwrdeisdref sirol Conwy yw Llyn Coety (weithiau Llyn Coedty neu Cronfa Coedty). Saif yn Nyffryn Conwy uwchben Dolgarrog, tua 900 troedfedd uwch lefel y môr; mae ganddo arwynebedd o tua 12 acer.

Llyn Coety
Mathcronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1822°N 3.8647°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganRWE Generation UK PLC Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Llyn Coedty o ben Moel Eilio.

Prif ffynhonnell dŵr Llyn Coedty yw Afon Porth-llwyd, sy'n llifo i lawr o Lyn Eigiau. O'r llyn mae Afon Porth-llwyd yn llifo dan Bont Newydd yn Nolgarrog cyn llifo i Afon Conwy.

Codwyd argae yma yn 1924 fel rhan o gynllun i gyflenwi dŵr i bwerdy trydan Dolgarrog, a oedd yn ei dro yn cyflenwi trydan i'r gwaith alcam gerllaw. Roedd Llyn Eigiau hefyd yn rhan o'r cynllun yma. Ar 2 Tachwedd, 1925, ar ôl i 26 modfedd o law disgyn mewn pum diwrnod, torrodd yr argae yn Llyn Eigiau uwchben. Gorlifodd y dŵr yn wyllt i lawr i Lyn Coedty, gan achosi i'r argae yno dorri hefyd, a ffrydiodd miliynau o alwyni o ddŵr i lawr yn ddirybudd ar bentref Dolgarrog, gan ladd 17 o bobl. Codwyd pwerdy newydd yn Nolgarrog yn 1925. Gellir gweld ffim ddu a gwyn fud o'r drychineb trwy glicio yma Archifwyd 2006-06-17 yn y Peiriant Wayback. Ail-adeiladwyd yr argae yn 1926 ac eto yn 1956.

Ffafriwyd yr enw Llyn Coety pan safonnwyd enwau llynoedd Eryri gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Forgrave, Andrew (2023-11-15). "Eryri National Park to use Welsh lake names only to 'safeguard' them for future". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-16.
  • The Lakes of North Wales, gan Jonah Jones, Whittet Books Ltd, 1987
  • The Lakes of Eryri, gan Geraint Roberts, Gwasg Carreg Gwalch, 1985