Llyn Du (Dolbenmaen)

Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Du. Fe'i lleolir yng nghymuned Dolbenmaen, yn ardal Eifionydd.

Llyn Du
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDolbenmaen Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr695 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.960244°N 4.141444°W Edit this on Wikidata
Map
Erthygl am y llyn yn ardal Dolbenmaen yw hon. Gweler hefyd Llyn Du (gwahaniaethu).
Llyn Du

Saif y llyn bychan hwn 695 troedfedd[1] i fyny, tua dwy filltir i'r gogledd o bentref Tremadog, i gyfeiriad Llyn Cwmystradllyn. Saif mewn cwm ar lethrau gorllewinol Mynydd Gorllwyn, sef ysgwydd deheuol Moel-ddu.[2]

Llifa Afon Ddu o ben gorllewinol y llyn i lifo i Afon Cwmystradllyn yn is i lawr, ger Clenennau.[2]

Mae glan y llyn yn gorsiog iawn. Ceir brithyll ynddo.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Frank Ward, The Lakes of Wales (Herbert Jenkins, Llundain, 1931).
  2. 2.0 2.1 Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.