Afon Ddu, Dolbenmaen

afon yng Ngwynedd

Mae Afon Ddu yn afon sy'n llifo yng nghymuned Dolbenmaen, Gwynedd ac sy'n un o lednentydd Afon Henwy (Afon Cwmystradllyn) sydd yn ei thro yn un o lednentydd Afon Dwyfor. Llyn Du yw tarddle'r afon, mewn corsdir brwynog tua hanner ffordd rhwng Llyn Cwmystradllyn a pentref Tremadog. Mae'n llifo i Afon Henwy ger hen blasdy Clenennau. Ei hyd yw tua 2 filltir.

Afon Ddu
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.968°N 4.228°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Ddu wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru (SSSI) ers 11 Mawrth 2011 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1] Mae ei arwynebedd yn 7.38 hectar. Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am y safle.

Natur golygu

 
Misglod perlog

Dynodwyd y safle oherwydd agweddau biolegol er enghraifft grwpiau tacsonomegol megis adar, gloynnod byw, madfallod, ymlusgiaid neu drychfilod. Mae safleoedd biolegol fel arfer yn ymwneud â pharhad a datblygiad yr amgylchedd megis tir pori traddodiadol.

Mae gan Afon Ddu un nodwedd arbennig iawn, sef, poblogaeth o fisglod perlog (Margaritifera margaritifera) - un o'r ychydig boblogaethau yng Nghymru sy'n dal i atgenhedlu.

Hynafiaethau golygu

Ceir sawl heneb yn ardal yr afon. Gerllaw ei chymer yn Afon Henwy mae'n llifo rhwng dau blasdy hynafol (ffermydd heddiw), sef Clenennau a'r Gesail Gyfarch.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: