Afon Congo

afon yng nghanolbarth Affrica

Afon yng nghanolbarth Affrica yw Afon Congo, a adwaenid am gyfnod fel 'Afon Zaire'[1]. Mae yn 4,700 km (2,922 milltir) o hyd; yr ail-hwyaf o afonydd Affrica ar ôl Afon Nîl. Yn nalgylch y Congo y ceir yr arwynebedd ail-fwyaf o fforest law yn y byd, ar ôl dalgylch Afon Amazonas; ac mae hefyd yn ail yn y byd ar ôl yr Amazonas o ran y dŵr sy'n llifo ynddi, 41,800 m³/.

Afon Congo
Sunrise near Mossaka (Congo).JPG
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladAngola, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Gweriniaeth y Congo, Sambia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau6.0792°S 12.45°E Edit this on Wikidata
TarddiadRhayadr Boyoma Edit this on Wikidata
AberCefnfor yr Iwerydd Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Inkisi, Afon Kasai, Afon Lefini, Sangha, Afon Ubangi, Afon Tshuapa, Afon Lomami, Afon Lualaba, Afon Chambeshi, Afon Lukuga, Afon Luvua, Afon Aruwimi, Itimbiri River, Luvu, Alima, Afon Ambe, Afon Lulonga, Ikelemba, Kasuku, Afon Kwilu, Afon Lilo, Afon Lindi, Afon Lowa, Lufimi, Afon Lwika, Afon Maiko, Afon Motua, Afon Mongala, Afon M'pozo, Afon Ndjili, Afon Nsele, Ruki, Afon Ulindi, Afon Lukunga, Likouala-Mossaka, Afon Nkeni, Kambu, Likouala-aux-Herbes Edit this on Wikidata
Dalgylch401,450,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd4,700 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad41,800 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata

Hi hefyd yw'r afon ddyfna'r byd, gyda dyfnderoedd sy'n fwy na 220 m (720 tr).[2] Mae gan system Afon Congo-Lualaba-Chambeshi hyd o 4,700 km (2,920 milltir), sy'n ei gwneud y nawfed afon hiraf y byd. Mae'r Chambeshi yn un o lednentydd Afon Lualaba, a Lualaba yw enw Afon Congo i fyny'r afon o Rayadr Boyoma, sy'n ymestyn am 1,800 km (1,120 milltir). O'r ffynhonnell i'w haber, mae'r brodorion Bantu yn byw ers canrifoedd.

Caiff yr afon ei henw o hen Deyrnas y Congo, oedd yn yr ardaloedd o gwmpas aber yr afon. Caiff Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Gweriniaeth y Congo eu henwau o'r afon. Y gwledydd eraill o fewn dalgylch yr afon yw Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Angola, Sambia a Tansanïa. Mae'n tarddu yn ucheldiroedd Dwyrain Affrica, yn cynnwys yr afonydd sy'n llifo i Lyn Tanganyika a Llyn Mweru, lle tardda Afon Lualaba. Islaw Rhaeadr Boyama, caiff yr enw Afon Congo.

Llifa'r afon tua'r gorllewin o Kisangani islaw'r rhaeadr, yna tua'r de-orllewin heibio Mbandaka, lle mae Afon Ubangi yn ymuno. Mae'n mynd heibio Kinshasa, Brazzaville a Rhaeadrau Livingstone cyn cyrraedd Môr Iwerydd ger Muanda.

Afon Congo ger Maluku

GeirdarddiadGolygu

Mae enw'r afon Congo / Kongo yn tarddu o "Deyrnas Kongo" a oedd unwaith ar lan ddeheuol yr afon. Enwyd y deyrnas yn ei thro ar ol y bobl frodorol Bantu Kongo, a elwid yn yr 17g fel "Esikongo".[3] I'r de o Deyrnas Kongo roedd y deyrnas Kakongo a enwir yn yr un modd, ac a gofnodwyd gyntaf yn 1535. Cofnododd Abraham Ortelius yn ei fap o'r byd o 1564 y ddinas wrth geg yr afon yn "Manicongo" .

Mae'r enwau gwreiddiol hyn yn Kongo o bosibl yn deillio o air am ymgynnull cyhoeddus neu gynulliad o frodorion. Daw'r enw Zaire o addasiad Portiwgaleg o air Kikongo, nzere ("afon"), cywasgiad o 'nzadi o nzere' ("afonydd yn llyncu afonydd").[4] Roedd yr afon yn cael ei galw'n Zaire yn ystod yr 16g a'r 17g; Mae'n ymddangos bod Congo wedi disodli Zaire yn raddol yn y defnydd Saesneg yn ystod y 18g, a Congo yw'r enw Saesneg a ffefrir yn llenyddiaeth y 19g, er bod cyfeiriadau at Zahir neu Zaire fel yr enw a ddefnyddid gan y trigolion yn parhau i fod yn gyffredin.[5] Enwir Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo a Gweriniaeth y Congo ar ei hôl, fel yr oedd Gweriniaeth flaenorol y Congo a oedd wedi ennill annibyniaeth ym 1960 oddi wrth Congo Gwlad Belg. Enwyd Gweriniaeth Zaire yn ystod 1971–1997 hefyd ar ôl enw'r afon yn Ffrangeg a Phortiwgaleg.

Basn a chwrs yr afonGolygu

Mae basn draenio'r Congo yn gorchuddio 4,014,500 cilomedr sgwâr (1,550,000 metr sgwâr), ardal sy'n fwy nag India. Mae arllwysiad y Congo yn ei aber yn amrywio o 23,000 i 75,000 metr ciwbig yr eiliad (810,000 i 2,650,000 cu tr/s), gyda chyfartaledd o 41,000 metr ciwbig yr eiliad (1,400,000 cu tr/s).[6]

Oherwydd bod ei fasn draenio yn cynnwys ardaloedd i'r gogledd ac i'r de o'r cyhydedd, mae ei lif yn sefydlog, gan fod o leiaf un rhan o'r afon bob amser yn profi tymor glawog.[7]

Mae ffynonellau'r Congo yn ucheldiroedd a mynyddoedd Rift Dwyrain Affrica, yn ogystal â Llyn Tanganyika a Llyn Mweru, sy'n bwydo Afon Lualaba. Yn gyffredinol, nodir Afon Chambeshi yn Zambia fel ffynhonnell y Congo yn unol â'r arfer a dderbynnir ledled y byd o ddefnyddio'r llednant hiraf, fel yn achos Afon Nile.

Mae'r afon yn cludo 86 miliwn tunnell o waddod crog yn flynyddol i Gefnfor yr Iwerydd a 6% ychwanegol o lwyth gwely.[8]

Pwysigrwydd o ran yr economiGolygu

Er bod Rhaeadr Livingstone yn atal mynediad o'r môr, mae bron yr holl Congo sy'n uwch na'r rhaeadr yn hawdd ei fordwyo, yn enwedig rhwng Kinshasa a Kisangani. Bu stemars mawr yr afon yn gweithio’r afon tan yn eithaf diweddar. Mae Afon Congo yn ffordd hawdd ei dramwyo o hyd mewn tir sydd heb lawer o ffyrdd na rheilffyrdd.[9]

Mae rheilffyrdd bellach yn osgoi'r dair rhaeadr fwyaf, ac mae llawer o fasnach Canolbarth Affrica yn mynd ar hyd yr afon, gan gynnwys copr, olew palmwydd, siwgr, coffi a chotwm. Ystyrir hefyd fod yr afon hefyd yn werthfawr ar gyfer [egni hydro|trydan hydro]].

Trydan hydroGolygu

Afon Congo yw'r afon fwyaf pwerus yn Affrica. Yn ystod y tymor glawog mae dros 50,000 metr ciwbig (1,800,000 cu tr) o ddŵr yr eiliad yn llifo i Gefnfor yr Iwerydd. Felly mae'r cyfleoedd i Afon Congo a'i llednentydd gynhyrchu ynni dŵr yn enfawr. Amcangyfrifodd y gwyddonwyr y gallai Basn y Congo allu creu 13 y cant o ynni dŵr byd-eang. Byddai hyn yn darparu pŵer digonol ar gyfer holl anghenion trydan Affrica Is-Sahara.[10]

Ar hyn o bryd mae tua 40 o weithiau ynni dŵr ym Masn y Congo. Y mwyaf yw argaeau'r Inga, tua 200 cilomedr (120 milltir) i'r de-orllewin o Kinshasa. Lansiwyd y prosiect yn gynnar yn y 1970au.[11] Galwodd y cynllun gwreiddiol am adeiladu pum argae a fyddai wedi bod â chynhwysedd cynhyrchu o 34,500 megawat. Hyd yma dim ond argaeau Inga I ac Inga II sydd wedi'u hadeiladu, gan gynhyrchu 1,776 MW.[10]

Yn Chwefror 2005, cyhoeddodd cwmni pŵer Eskom (cwmni o De Affrica), gynnig i ehangu cynhyrchu trwy welliannau ac adeiladu argae trydan dŵr newydd. Byddai'r prosiect yn cynhyrchu 40 gigawat (54,000,000 hp), dwywaith allbwn Argae'r Tri Cheunant, Tsieina.[12][13] Mewn cymhariaeth, yn 2021 roedd fferm Gwynt y Môr, y Rhyl yn cynhyrchu 576 MW o ynni.[14]

Hanes naturiolGolygu

Ffurfiodd cwrs presennol Afon Congo rhwng 1.5 a 2 filiwn o flynyddoedd BP, yn ystod y Pleistosen.[15] Mae'n debygol bod llawer o lednentydd uchaf y Congo wedi'u ffurfio o fasnau afonydd cyfagos, gan gynnwys yr Uele ac Ubangi uchaf o'r system Chari ac Afon Chambeshi ochr yn ochr â nifer o isafonydd afon Kasai o system Zambezi.[16]</ref> alongside a number of upper Kasai River tributaries[17]

CyfeiriadauGolygu

  1. Peter Forbath (1977). The River Congo. t. 19.
  2. Oberg, Kevin (July 2008). "Discharge and Other Hydraulic Measurements for Characterizing the Hydraulics of Lower Congo River, July 2008" (PDF). U.S. Geological Survey. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2011-10-15. Cyrchwyd 2012-03-14.
  3. Anderson, David (2000). Africa's Urban Past. t. 79. ISBN 9780852557617. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-22. Cyrchwyd 2017-05-04.
  4. Peter Forbath (1977). The River Congo. t. 19.
  5. James Barbot (1746). An Abstract of a Voyage to Congo River, Or the Zair and to Cabinde in the Year 1700. James Hingston Tuckey (1818). Narrative of an Expedition to Explore the River Zaire, Usually Called the Congo, in South Africa, in 1816. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-05-21. Cyrchwyd 2019-11-11. John Purdy (1822). Memoir, Descriptive and Explanatory, to Accompany the New Chart of the Ethiopic Or Southern Atlantic Ocean. t. 112. Congo River, called Zahir or Zaire by the natives
  6. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' bossche
  7. The Congo River Archifwyd 2017-10-20 yn y Peiriant Wayback.. Rainforests.mongabay.com. Retrieved on 2011-11-29.
  8. Hanibal Lemma, and colleagues (2019). "Bedload transport measurements in the Gilgel Abay River, Lake Tana Basin, Ethiopia (Table 7)". Journal of Hydrology 577: 123968. doi:10.1016/j.jhydrol.2019.123968.
  9. See, for instance, Thierry Michel's film Congo River Archifwyd 2009-11-29 yn y Peiriant Wayback.
  10. 10.0 10.1 Alain Nubourgh, Belgian Technical Cooperation (BTC) Archifwyd 2011-09-02 yn y Peiriant Wayback.. Weetlogs.scilogs.be (2010-04-27). Adalwyd 2011-11-29.
  11. Showers, Kate B. (2011-09-01). "Electrifying Africa: An Environmental History with Policy Implications" (yn en). Geografiska Annaler: Series B, Human Geography 93 (3): 193–221. doi:10.1111/j.1468-0467.2011.00373.x. ISSN 1468-0467.
  12. Vasagar, Jeevan (2005-02-25). "Could a $50bn plan to tame this mighty river bring electricity to all of Africa?". World news. London: The Guardian. Cyrchwyd 2010-04-30.
  13. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni osodwyd unrhyw destun ar gyfer y 'ref' RoughWaters
  14. "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Ionawr 2016. Cyrchwyd 18 February 2016.CS1 maint: archived copy as title (link)
  15. Leonard C. Beadle (1981). The inland waters of tropical Africa: an introduction to tropical limnology. Longman. t. 475. ISBN 978-0-582-46341-7. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Ionawr 2014. Cyrchwyd 2 Ebrill 2011. "It is hypothesized that in the late Pliocene or early Pleistocene, a coastal Lower Guinean river captured Malebo Pool, connecting the previously interior Congo Basin to the ocean." Thieme et al., Freshwater Ecoregions of Africa and Madagascar: A Conservation Assessment Ecoregions Assessments, Island Press, 2005, tud. 297 Archifwyd 2019-12-24 yn y Peiriant Wayback..
  16. Skelton, P.H. 1994. Diversity and distribution of freshwater fishes in East and Southern Africa, yn Biological diversity in African fresh and brackish water fishes, Symposium Paradi(G.G. Teugels, J.F. Guégan and J.J. Albaret, editors), tt. 95–131. Annals of the Royal Central African Museum (Zoology) No. 275.
  17. Gupta, Avijit (golygydd); Large Rivers: Geomorphology and Management, t. 327 ISBN 9780470849873