MônFM
Gorsaf radio cymunedol dwyieithog yw MônFM sy'n gwasanaethu ardal Ynys Môn a Gwynedd.
MônFM | |
Ardal Ddarlledu | Ynys Môn a Gwynedd |
---|---|
Arwyddair | Eich Gorsaf, Eich Llais |
Dyddiad Cychwyn | 12 Gorffennaf 2014 |
Tonfedd | FM: 96.8, 102.1 & 102.5 |
Pencadlys | Llangefni |
Perchennog | |
Webcast | http://monfm.net/cy/gwrando/ |
Gwefan | www.monfm.net |
Fformat | Cymunedol: cerddoriaeth a siarad |
Iaith | Dwyieithog: Cymraeg a Saesneg |
Mae'n darlledu o stiwdios yn Llangefni ar 96.8, 102.1 a 102.5 FM ac ar wefan yr orsaf. Mae trosglwyddyddion yr orsaf wedi'u lleoli yn Gwalchmai, Nebo a Penmynydd.
Mae MônFM yn cynhyrchu dros 80 awr bob wythnos o raglenni cerddoriaeth a sgyrsiau, yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys newyddion lleol, chwaraeon a rhaglenni cerddoriaeth arbenigol.
Mae nhw'n darlledu bwletinau newyddion Sky News Radio bob awr gyda bwletinau traffig a thywydd lleol yn ystod rhaglenni brecwast a phrynhawn a rhaglen chwaraeon ar prynhawn dydd Sadwrn yn ystod y tymor pêl-droed.
Lawnswyd MônFM ar ddydd Iau 1 Mawrth 2012 gyda darllediad RSL 28 diwrnod i'r ardal Llangefni ar 87.9 FM, a lawnswyd y gwasanaeth llawn ar 102.5 MHz ar 12 Gorffennaf 2014, o drosglwyddydd yn Gwalchmai. Lansiwyd yr orsaf gan Albert Owen a Rhun ap Iorwerth yn ogystal â Rhys Meirion a Meinir Fflur.
Ar wahân i newyddion cenedlaethol, cyflwynir a chynhyrchir pob rhaglen gan wirfoddolwyr yn lleol neu o stwidios Llangefni.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae orsaf wedi ehangu ei chynnwys golygyddol i roi sylw ychwanegol i rannau gogleddol Gwynedd, gan gynnwys ardaloedd Bangor a Caernarfon.
Cafodd MonFM ganiatâd gan y rheolydd darlledu, Ofcom, i weithredu dau amledd FM arall o drosglwyddyddion ym Mhenmynydd ac yn Nebo, ger Amlwch.[1]
Lawnswyd y gwasanaeth ar 96.8 MHz, oddi wrth drosglwyddydd Penmynydd, ar 6 Mai 2021, gan dargedu rhannau dwyreiniol Ynys Môn a gogledd Gwynedd.[2] Lawnswyd ar 102.5 FM, oddi wrth drosglwyddydd Nebo, ar 25 Mai 2021, gan wasanaethu gogledd Ynys Môn.
Ers hynny, mae'r trosglwyddydd gwreiddiol yn Gwalchmai yn darlledu MônFM ar 102.1 FM, gan dargedu rhannau gorllewinol Ynys Môn.
Mae'r orsaf hefyd wedi ennill nifer o wobrau diwydiant, gan gynnwys gwobr Aur am ei raglen chwaraeon byw, MônFM Sport[3], a gwobr efydd ar gyfer Gorsaf y Flwyddyn yng Ngwobrau Radio Cymunedol.
Cyflwynwyr
golygu- Tracy Austin (Bore Sadwrn, prynhawn dydd Mawrth)
- Brian Cook (Prynhawn dydd Llun)
- Tom Cooke (Nos Lun)
- Rheinallt Davies (Nos Sadwrn)
- Tomos Dobson (Brecwast dydd Llun a dydd Mawrth, Nos Fawrth)
- Steve Evans (Connections - Nos Sadwrn, prynhawn dydd Mawrth)
- Sarah Wynn Griffiths (Prynhawn dydd Sul, Nos Iau)
- Paul Hughes (Brecwast dydd Sadwrn)
- John Morgan Jones (Prynhawn dydd Iau a dydd Gwener)
- Ryan McKean (MônFM Sport)
- John Morrison (Bore Sul - rhaglen syndicâd)
- Gwyn Owen (Bore Mercher, Bore Sul)
- Raymond Owen (Bore Mercher, Brecwast dydd Iau a dydd Gwener, Nos Fawrth)
- Sharon Parry (Prynhawn dydd Llun)
- Elfyn Pritchard (Prynhawn dydd Llun)
- Chris Roberts (The Rock Surgery, Blues in the Night)
- Gavin Roberts (Nos Wener)
- Dai Sinclair (Brecwast dydd Mercher, Nos Fercher, prynhawn dydd Sul, Nos Sul)
- Dic Thomas (Bore Llun)
- Llion Thomas (Nos Iau, prynhawn dydd Sul)
- Meurig Thomas (Nos Wener)
- Anwen Weightman (Nos Sul)
- Malcolm Williams (Soul on Sunday)
Dolenni allanol
golygu- (Cymraeg) MônFM Archifwyd 2019-01-23 yn y Peiriant Wayback
- ↑ "MônFM i ymestyn ardal ddarlledu FM – MônFM". Cyrchwyd 2021-05-07.[dolen farw]
- ↑ "MônFM – rwan ar 96.8 FM! – MônFM". Cyrchwyd 2021-05-09.[dolen farw]
- ↑ "Gwobr aur i raglen chwaraeon gorsaf gymunedol MônFM". BBC Cymru Fyw. 2019-10-31. Cyrchwyd 2021-05-07.