Pantomeim Cymraeg yn seiliedig ar hanes chwedlonol y tywysog Madog ap Owain Gwynedd yw Madog. Crëwyd a llwyfannwyd y panto gan Gwmni Theatr Cymru ym 1976, ar gyfer ei pherfformio dros y Gaeaf 1976 a Gwanwyn 1977. Roedd rhai o sêr y cyfnod yn serenu yn y sioe fel Gari Williams a'r digrifwr Ronnie Williams, un hanner o'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie.[1]

Madog
Dyddiad cynharaf1976
AwdurWilbert Lloyd Roberts
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
Cysylltir gydaCwmni Theatr Cymru
MathPantomeim
CyfansoddwrCefin Roberts

Disgrifiad byr

golygu

Hanes y tywysog Madog yn hwylio ar draws yr Iwerydd i ddarganfod America yn 1170.

Cefndir

golygu

Un sy'n hel atgofion am y panto yw'r cyfarwyddwr cerdd Dilwyn Roberts : "Ar Dachwedd 23ain, 1976, teithiom i Fangor i ddechrau ymarferion. Teitl y panto oedd "Madoc" [Madog] a seiliwyd y stori ar y chwedl fod y Tywysog Madoc ap Owain Gwynedd wedi hwylio ar draws yr Iwerydd a darganfod America yn 1170. Bryn Williams oedd y prif gymeriad, Madoc, roedd Bryn yn hen ffrind i Ronnie o, “Ryan and Ronnie”, ar BBC Cymru. Chwaraewyd rhannau eraill gan Falmai Jones fel gwraig Madoc, Harriet ac Iona Banks fel y Wrach Ddrwg. Ronnie ei hun oedd yn chwarae rhan Doctor y llong. Roedd rôl Emyr [Gari Williams] yn un Americanwr Brodorol, yr Indiaid Coch. Roedd gweddill y cast yn rhan o griw o actorion ifanc Cymru Cwmni Theatr Cymru. Polisi Wilbert Lloyd Roberts, Cyfarwyddwr y Cwmni, oedd cyflogi criw o actorion oedd newydd raddio o Goleg Cerdd a Drama Cymru i ysgrifennu a pherfformio dramâu anturus ac i gymryd rhan yng nghynyrchiadau prif ffrwd y cwmni. [...] Yn dilyn y stori gyfarwydd am Madoc, a’i daith arloesol i America, bu’n rhaid i Madoc gael llong a chapten y llong oedd Cefin Roberts. Ym mhob panto mae dyn sy'n chwarae'r “Dame”, chwaraeodd Mei Jones "Ffanni" y Gogyddes. Yn draddodiadol mae pob panto yn cynnwys cariadon, Wyn Bowen Harris a Sian [Sharon] Morgan oedd yn llenwi'r rhannau hynny [...] a Mari Gwilym oedd Lisa y Forwyn. I Elwyn a minnau, aelodau’r band, roedd hi’n amser i ni gwrdd â’r Cyfarwyddwr Cerdd, Cenfyn Evans. Yn ogystal â chwarae'r piano, roedd Cenfyn hefyd yn chwarae'r Trwmped. Felly yr offeryn hwnnw oedd yn mynd i fod yn brif offeryn y band."[1]

"Aeth yr ymarferion yn dda a chan fod y cast i gyd yn gantorion profiadol, roedd y cynnwys cerddorol yn amrywio o ganeuon traddodiadol Cymreig a chaneuon gwreiddiol gan Cefin Roberts. Traddodiad panto arall yw cyfranogiad y gynulleidfa. Mwynhaodd Emyr [Gari Williams] yn arbennig y gwaith byrfyfyr a fyddai'n anochel o ganlyniad i weithio gyda phlant. [...] Wedi pythefnos o berfformiadau yn Theatr Gwynedd, daeth yn amser i ni gychwyn ar daith Cymru."[2]

Cymeriadau

golygu
  • Tywysog Madoc ap Owain Gwynedd
  • Harriet ei wraig
  • Gwrach Ddrwg
  • Doctor y llong
  • Americanwr brodorol
  • Capten y llong
  • Ffani - y gogyddes
  • Cariadon - fo
  • Cariadon - hi
  • Lisa y forwyn

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Llun o'r panto Madog 1976 Cwmni Theatr Gymru (Archifau Gwynedd)

Llwyfannwyd y panto am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ym 1974. Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts; cyfarwyddwr cerdd Cenfyn Evans; goleuo Huw Roberts; sian Rolant Jones; cast:

Ymysg y band roedd Dilwyn Roberts a brawd Gari Williams, Elwyn Williams (ail hanner o'r ddeuawd boblogaidd Emyr ac Elwyn).

"...cafodd y straen o berfformio wyth sioe yr wythnos effaith ar iechyd Emyr [Gari Williams]. [...] Wedi 66 perfformiad dros 9 wythnos, roedd Emyr wedi blino ac yn barod am seibiant. Ond, gan ein bod ni bellach yn berfformwyr llawn amser, roedd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn ennill digon bob wythnos."[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Hanes Emyr ac Elwyn Pen 01 (1969 - 1976)". Hanes Emyr ac Elwyn Pen 01 (1969 - 1976) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.
  2. 2.0 2.1 "Hanes Emyr ac Elwyn Pen 02 (1976- 1979)". Hanes Emyr ac Elwyn Pen 02 (1976- 1979) (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.