Iona Banks

actores a aned yn 1920

Actores o Gymraes oedd Iona Banks (20 Rhagfyr 192020 Mai 2008), yn hannu o Trelogan, Sir y Fflint.

Iona Banks
Ganwyd20 Rhagfyr 1920, 1921 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mai 2008, 19 Mai 2008, 2008 Edit this on Wikidata
o clefyd Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Dechreuodd actio yn Theatr Fach y Rhyl a roedd yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Cymru. Wedyn bu'n actio yn addasiad BBC Cymru o nofel T. Rowland Hughes, Chwalfa, yn 1966.

Bu'n gweithio yn Saesneg gyda Willy Russell, gan chwarae Mrs Roberts yn y ddrama Our Day Out (1977), a'r un cymeriad yn Rhan 2 o'r gyfres deledu One Summer (1983). Roedd hefyd yn y gyfres Angels.

Am dros 20 mlynedd chwaraeodd y barforwyn Gwladys Lake ar yr opera sebon Pobol y Cwm.[1][2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Actores Cwmderi yn marw , BBC Cymru Newyddion, 21 Mai 2008. Cyrchwyd ar 23 Mai 2008.
  2. Flintshire actress Iona Banks has died (en) , Eveningleader, 22 Mai 2008. Cyrchwyd ar 23 Mai 2008.

Dolenni allanol golygu